Galwad am artist! Prosiect Cofeb Gwaith Powdwr

Galwad am artist! Prosiect Cofeb Gwaith Powdwr

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn chwilio am artist i greu cofeb/cerflun yng Ngwarchodfa Natur Gwaith Powdwr, Penrhyndeudraeth.

Rydym yn awyddus i gydweithio ag artist rhwng fis Medi 2022 a Chwefror 2023 i ddylunio a chynhyrchu cofeb yn dehongli hanes y cyn-ffatri ffrwydron a’r bobl fu’n gweithio ynddi yn ogystal â'r gwaith a wnaed gan YNGC ers hynny i'w reoli fel lle arbennig ar gyfer bywyd gwyllt. Bydd gofyn i’r artist weithio gyda warden y safle ac aelodau o’r gymuned leol yn ystod y cam dylunio. Yn ystod y cyfnod hefyd, bydd yr artist yn cynnal sesiynau celf i’r gymuned er mwyn creu darnau celf ar hyd un o lwybrau’r safle.

Cyllid y comisiwn : £12,500 (yn cynnwys TAW)

Gwahoddir datganiadau diddordeb erbyn y 12fed o Awst 2022. Gobeithir penodi’r artist llwyddiannus erbyn y 1af o Fedi 2022 wedi’r cam briffio a chynnig yn y broses gomisiynu.

Anfonwch eich datganiad diddordeb at Llinos Griffin, gwefus.cymru@gmail.com a Rob Booth, rob.booth@northwaleswildlifetrust.org.uk

 

Gwaith Powdwr bench

© Llinos Griffin

A stone brick structure with fencing that has been grown into by all kinds of vegetation. Set just in front of a small steep cliff with lots of trees growing from it. The sky behind is bright blue, and there is dappled light through the bright green leaves

 © Llinos Griffin