Project SIARC wedi ei enwebu am wobr Loteri Genedlaethol

Project SIARC wedi ei enwebu am wobr Loteri Genedlaethol

Small-spotted catshark ©Alex Mustard/2020VISION

Rydym yn hynod gyffrous i gyhoeddi bod Prosiect SIARC drwodd i rownd derfynol Gwobrau'r Loteri Genedlaethol.

Fel partner Prosiect SIARC rydym yn hynod falch o fod yn rhan o’r bartneriaeth amlddisgyblaethol yma sydd yn cael ei arwain gan Zoological Society London a Chyfoeth Naturiol Cymru. Eleni byddwn yn cystadlu ag 16 o brosiectau eraill o bob rhan o’r DU i gael ein henwi yn Brosiect y Flwyddyn y Loteri Genedlaethol ac fe allwch chi helpu trwy bleidleisio amdanom ni. 

Mae Prosiect SIARC yn sefyll am Siarcod yn Ysbrydoli Gweithredu ac Ymchwil gyda Chymunedau a’i nod yw dod â chymunedau, pysgotwyr, ymchwilwyr a’r llywodraeth at ei gilydd i ddiogelu siarcod a morgathod. Rydym yn ymgeisio meithrin gwerthfawrogiad a hygyrchedd i amgylchedd tanddwr yng Nghymru.

Ers ei lansio yn 2022, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a chithau - ein tîm anhygoel o Wyddonwyr Cymunedol, i gyd wedi bod yn chwarae ein rhan trwy gofnodi casys wyau siarc, morgathod ledled Gogledd Cymru. Cliciwch ar y botwm isod i ddarganfod mwy am Brosiect SIARC a Phrosiect y Flwyddyn y Loteri Genedlaethol...a pheidiwch ag anghofio bwrw eich pleidlais cyn y 9fed o Hydref!

PLEIDLEISIWCH YMA

Helpwch ni hyd yn oed yn fwy trwy rannu gyda'ch ffrindiau trwy ddefnyddio #NLASIARC a @ProjectSIARC.

Dysgwch fwy am Brosiect SIARC a sut i gymryd rhan...

DARGANFOD MWY