Dirywiad dramatig mewn gwenoliaid duon yng Nghymru

Dirywiad dramatig mewn gwenoliaid duon yng Nghymru

Swift © Ben Stammers

Mae adroddiad diweddar gan Ymddiriedolaeth Prydain ar gyfer Adareg yn awgrymu bod cyfradd y dirywiad yng ngwenoliaid duon Cymru wedi cyflymu.

Yn ôl ffigurau Arolwg Adar Magu diweddar yr Ymddiriedolaeth Adareg, mae gwenoliaid duon wedi dirywio 69% yng Nghymru ers 1995. Ar hyn o bryd, yr adar arbennig yma yw’r rhywogaeth sy’n dirywio fwyaf, gan ddiflannu ar raddfa gyflymach na’r gylfinir hyd yn oed. Mae’n ganfyddiad pryderus ac yn cadarnhau adroddiadau am lai o niferoedd gan lawer o wylwyr gwenoliaid duon yn lleol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hefyd yn ychwanegu brys at waith cadwraeth a chodi ymwybyddiaeth yr Ymddiriedolaeth Natur. Y cwestiynau mawr yw ‘Beth sydd wir yn achosi’r dirywiad?’ a ‘Beth ellir ei wneud?’. 

Putting up a swift nest box

Mae colli safleoedd nythu drwy adnewyddu hen adeiladau’n rhan o’r ateb yn sicr, felly rhaid rhoi blaenoriaeth yn awr i well gwarchodaeth i safleoedd nythu presennol. Mae angen gwybodaeth fanwl gywir am ble mae gwenoliaid duon yn nythu felly, a gall gwirfoddolwyr arsylwi wneud cyfraniad sylweddol at hyn. Hefyd dylai gosod brics a bocsys nythu yn eu lle ar gyfer gwenoliaid duon, fel rydyn ni wedi bod yn ei wneud ledled Gogledd Cymru, gael ei hybu os yw’n addas, ac mae’n braf clywed bod Jenny Rathbone AC (‘Hyrwyddwr Gwenoliaid Duon’ Cyswllt Amgylchedd Cymru) wedi ysgrifennu yn ddiweddar at Lywodraeth Cymru yn gofyn am gynnwys brics gwenoliaid duon mewn canllawiau ar gyfer adeiladau newydd. Byddai’n gam enfawr ymlaen pe bai hyn yn cael ei sefydlu’n bolisi safonol.   

Er hynny, mae colli infertebrata, patrymau’r tywydd yn newid yn yr haf a/neu effeithiau newid yn yr hinsawdd ar gynefinoedd gaeaf yn ffactorau eraill posib i gyd. Hefyd, efallai bod y ffaith bod y poblogaethau lleol o wenoliaid duon wedi cyrraedd lefel isel gritigol (am ba reswm bynnag) yn golygu bod eu llwyddiant magu’n gostwng hefyd. Rhaid i ni wybod mwy – ac rydyn ni angen eich help chi!

Ewch allan ar gyda’r nos braf a chofnodi eich gwenoliaid duon lleol os gwelwch yn dda, gan nodi unrhyw rai rydych yn eu gweld yma: https://www.cofnod.org.uk/LinkInfo?ID=10 . Ymunwch yn yr arolygon i gael gwybod ble maen nhw’n nythu yn eich ardal chi. Gwnewch nodyn o sgaffaldiau’n cael eu codi – bygythiad i safleoedd nythu – neu gyfle i osod bocsys nythu? Siaradwch gyda’ch cymdogion a’u hysbrydoli nhw am wenoliaid duon!

 

Darllenwch fwy am adferiad gwennoliaid duon