Lleoedd gwyllt i’w harchwilio, pethau gwyllt i’w gwneud, hwyl gwyllt i bawb!
Os ydych chi'n ddechreuwr neu'n arbenigwr, neu ddim ond eisiau archwilio a dysgu mwy am fyd natur a bywyd gwyllt Gogledd Cymru, rydych chi wedi dod i'r lle iawn!
Ni ydi'r unig elusen yng Ngogledd Cymru sydd wedi ymrwymo i warchod ac adfer ein byd naturiol ni er budd pobl a bywyd gwyllt - yn ein rhanbarth ni a thu hwnt. Rydyn ni’n dibynnu ar gefnogaeth ein haelodau a gwirfoddolwyr i'n helpu ni i gyflawni'r gwaith gwerthfawr yma. Dewch draw i gael gwybod mwy!
Lleoedd gwyllt i’w harchwilio!
Ein 35 gwarchodfeydd natur yw rhai o’r lleoedd mwyaf arbennig ar gyfer bywyd gwyllt yng Ngogledd Cymru.Â
O goetiroedd gwych i safleoedd arfordirol trawiadol ac hafan cudd ar gyfer blodau gwyllt, gwenyn a gloÿnnod byw, ein gwarchodfeydd nature yn rhad ac am ddim i ymeld a mae'n nhw'n ar agor drwy gydol y flwyddyn
Felly, beth am fynd am dro ar yr ochr wyllt a chynllunio eich ymweliad heddiw!
Pethau gwyllt i’w gwneud
Mae gennym ni hwyl gwyllt i bawb! Treuliwch brynhawn yn gwylio adar ysglyfaethus, yn mwynhau bywyd gwyllt yn agos o un o'n cuddfannau adar ni neu ein llwybrau hygyrch, neu’n dilyn llwybr cerdded drwy hafan ôl-ddiwydiannol ar gyfer bywyd gwyllt.
Os byddwch chi’n dod i un o'n digwyddiadau ni, fe fyddwch chi’n dysgu mwy fyth am y bywyd gwyllt welwch chi. Os ydych chi’n 6 neu’n 65 oed, fe fyddwch chi wrth eich bodd yn archwilio mewn pyllau, yn chwilota am ffyngau ac yn mynd ar saffari glan môr gyda ni!
Trowch eich mewnflwch yn wyllt!
Tanysgrifiwch i Wythnos Wyllt, ein cylchlythyr digidol ni, i gael y newyddion diweddaraf am fywyd gwyllt a digwyddiadau, yn ogystal â ffyrdd y gallwch chi gefnogi ymgyrchoedd a gweithredu gartref i warchod byd natur ledled Cymru a’r DU.