Cân yr Adar yn Spinnies – Rhan 4: Cuddfan Viley

Cân yr Adar yn Spinnies – Rhan 4: Cuddfan Viley

Inside of the Viley Hide/Tu mewn i Guddfan Viley @ NWWT Daniel Vickers

Fel yr ychwanegiad diweddaraf, efallai y bydd llawer o ymwelwyr â Gwarchodfa Natur Spinnies Aberogwen yn methu’r guddfan yma wrth iddyn nhw deithio drwy’r warchodfa natur. Ond gyda goleuadau arbennig o dda ar gyfer lluniau a’r coed a’r isdyfiant yn denu llawer o adar sydd â chân unigryw, dyma guddfan y mae’n rhaid i chi ei gweld. Yn rhan olaf ein cyfres 'Cân yr Adar yn Spinnies', rydyn ni'n edrych ar gân a chri’r adar sydd i’w gweld ar hyd ymyl y ffordd tuag at Faes Parcio'r Traeth a'r adar y gallwch chi eu gweld yng Nghuddfan Viley. Mae’r blog hwn yn un o gyfresi a alluogwyd gan gyllid o Gynllun Cymunedau Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan WCVA

Ym mhedwaredd rhan, a rhan olaf ein cyfres 'Cân yr Adar yn Spinnies', byddwn yn sôn am Guddfan Viley. Ond mae’n werth rhoi eiliad hefyd cyn dod i fyny i’r guddfan yma i wrando ar yr adar ar hyd ymyl y ffordd dawel.

Byddwch yn ymwybodol o'r ceir sy'n gyrru yn ôl ac ymlaen i'r maes parcio a chadwch i ochr y ffordd. Ond, os byddwch chi’n stopio ac yn gwrando yma, fe sylwch chi ar y brain, yn uchel i fyny yn y coed, yn crawcian uwch eich pen, ac, os byddwch chi’n gwrando’n astud, byddwch hefyd yn gallu clywed cri “ciac” neu “tjac” jac-y-do. I rai, efallai bydd y gri yma’n swnio fel ei fod yn dweud 'jac-jac', fel ei enw.

Photo of a carrion crow, its head titled slightly to its side

Crow/Brân @ Amy Lewis

Photo of a Jackdaw, head turned to the right

Jackdaw/Jac-y-do @ Fergus Gill/2020VISION

Bydd ysguthanod hefyd yn eistedd i fyny yn y coed uchel, yn cwynfan “cŵ-CŴ-CŴ-cŵ-cŵ-ciw” meddal a chryg, a hefyd mae posib gweld adar bach, fel y robin goch a thitwod, yn cuddio yng nghanol canghennau’r coed a’r gwrychoedd, os oes gennych chi lygad craff. Mae’r robin goch yn canu drwy gydol y flwyddyn bron ac mae ei gân yn eithaf uchel yn aml ac yn hawdd ei chlywed. Mae ei gân yn amrywio o sain “tic-ic-ic” i delor amrywiol melys a chyfoethog.

Photo of a wood piegon standing on a rock. The wood pigeon is facing left

Wood pigeon/Ysguthan @ Richard Burkmarr

Photo of a robin on a tree branch. Behind the robin are more branches twigs.

Robin/Robin goch @ NWWT Daniel Vickers

Wrth i’r tymhorau newid, mae digonedd o adar yn ymweld â gwarchodfa natur Spinnies Aberogwen hefyd, gan ddod i’r ardal i fagu, fel y siff-siaff a’r telor penddu, a llawer mwy. Wrth i’r adar cân mudol yma ymweld â Spinnies Aberogwen a’r DU, byddwch yn aml yn clywed mwy o’u cân na’u cri.

Mae cân y siff-siaff yn un eithaf hawdd ei dysgu, gan ei bod yn dweud ei enw ei hun “tshiff, tshaff, tshiff, tshaff”. Alaw debyg i ffliwt ydi cân y telor penddu, sydd wedi hawlio’r llysenw “Eos y Gogledd” iddo ac mae ei gri yn delor sgwrslyd.

Photo of a chiffchaff on a small upright branch.

Chiffchaff/Siff-siaff @ Henry Cook

Photo of a blackcap on a small green twig.

Blackcap/Telor penddu @ Amy Lewis

Gallwch hefyd weld adar rhydio yng nghae’r ffermwr, wrth i chi gerdded i fyny’r ffordd. Mae allanfa'r gwastadedd llanwol sy'n rhedeg o dan Spinnies Aberogwen yn dod allan yn un o'r caeau, ar draws i Guddfan Viley, gan greu llif o ddŵr yn y cae yma, y mae'r adar rhydio wrth eu bodd yn treulio rhywfaint o amser padlo ynddo, heb boeni dim am y defaid sy’n pori yn y cae. Fodd bynnag, oherwydd y cynnydd yn y llifogydd sy’n digwydd oherwydd newid hinsawdd, wrth i ni gael mwy o dywydd garw a llanwau uwch yn Spinnies Aberogwen, fe all y nant yma fod yn llawer mwy yn aml, yn enwedig ar ôl cyfnod o law.

Cuddfan Viley

Cuddfan Viley yw’r ail guddfan y byddwch chi’n dod o hyd iddi wrth ochr y ffordd wrth i chi deithio i fyny tuag at y maes parcio, a dyma ein cuddfan fwyaf newydd, felly nid yw bob amser yn gyfarwydd. Doedd dim giât ar y guddfan hon yn wreiddiol, dim ond agoriad yn y coed yn arwain at y llwybr, felly roedd yn hawdd i bobl fethu gweld y guddfan yma, ond bellach mae giât ddu newydd wedi’i hychwanegu at y fynedfa. Mae sgriniau wedi'u hadeiladu o amgylch y llwybr cerdded tuag at y guddfan. Bydd y sgriniau yma’n cael eu llenwi gyda naddion er mwyn galluogi i eco-gynefin ffynnu i'r adar a llawer o rywogaethau eraill sy'n byw o amgylch Spinnies Aberogwen.

Photo of the new gate to the Viley Hide at the Spinnies Aberogwen/ The gate is black.

The new gate to the Viley Hide/Y giât newydd i Guddfan Viley @  NWWT Michelle Payne

Weithiau mae’r llwybr i fyny at y guddfan wedi’i amgylchynu gan ddŵr o’r môr-lyn, ac yn y llwyni o’i amgylch fe allwch chi weld a chlywed adar y to yn gwibio o un lle i’r llall.

Photo of the inside of the Viley Hide at the Spinnies Aberogwen Reserve. There are two benches to sit on and several viewing windows out into the lagoon.

Inside of the Viley Hide/Tu mewn i Guddfan Viley @ NWWT Daniel Vickers

Mae gan Guddfan Glas y Dorlan a Chuddfan Viley fwy o olau yn dod drwodd wrth i chi gamu i mewn, ond gall y Brif Guddfan fod yn eithaf tywyll pan fydd y drysau wedi’u cau, felly mae'r cuddfannau yma’n arbennig o dda i'r rhai sy'n mwynhau ffotograffiaeth (er bod ffotograffwyr yn mwynhau'r Brif Guddfan yn fawr iawn hefyd, gan fod ganddi ofod ehangach a mwy o olygfeydd i ddal lluniau da o'r adar yno).

Y tu mewn i'r guddfan, fe allwch chi weld adar y to yn aml, yn gwibio i mewn ac allan o ganghennau'r llwyni ochr yn ochr â'r teclynnau bwydo, yn canu cân ac yn trydar yn fywiog iawn, weithiau'n gwneud sŵn "tshyrp, tshyrp, tshyrp, tship". Mae bras y cyrs wedi'u gweld ger y llwyni o amgylch y teclynnau bwydo hefyd. Mae eu cri yn eithaf byr ond yn debyg iawn i ryw dincial, fel “srip, srip, srip-sî-sî-sî stitip-itip-itipip”.

Photo of a house sparrow perched on a thin branch. Behind the sparrow are more branches and twigs.

House sparrow/Aderyn y to @ NWWT Daniel Vickers

Photo of a reed bunting perched in a tree

Reed bunting/Bras y cyrs @ Ben Hall/2020VISION

Os ydych chi'n dawel iawn ac yn amyneddgar iawn, efallai y byddwch chi hefyd yn gweld rhegen ddŵr, yn sbecian allan o dan y llwyni yma. Mae'r rhegen ddŵr yn swil iawn yn aml ac yn hoffi cylchu'r ardal cyn camu allan o ddiogelwch yr isdyfiant, felly fe allwch chi fod yn aros yn hir iawn. Mae'n gwneud sain “cipcipcipcipcip” ailadroddus a hefyd gall wichian yn debyg i fochyn.

Photo of a water rail walking over grass and plants in a clearing surrounded by bushes.

Water rail/Rhegen ddŵr @ Neil Albridge

Mae cymaint o adar yn Spinnies Aberogwen sydd heb eu crybwyll yma, yn enwedig wrth i’r tymhorau fynd a dod, ac rydych chi’n gallu gweld pob aderyn yn unrhyw un o’r tair cuddfan a hefyd tra byddwch chi allan yn cerdded ar hyd llwybrau’r coetir a'r draethlin.

Os oes unrhyw aderyn yn Spinnies Aberogwen, neu unrhyw beth arall yr hoffech chi gael gwybod mwy amdano, cysylltwch â ni, Michelle a Dan (michelle.payne@northwaleswildlifetrust.org.uk), oherwydd byddem wrth ein bodd yn clywed mwy gennych chi. Fel y ddau swyddog ymgysylltu yn y warchodfa natur, rydyn ni’n cynnal digwyddiadau, fel teithiau cerdded tywys a mwy, felly cadwch lygad ar y dudalen we am ddigwyddiadau a chadwch eich clustiau ar agor.

BLAENOROL: Cân yr Adar yn Spinnies Rhan 3