Glanhau Traeth Plast Off! 2023

Glanhau Traeth Plast Off! 2023

Fe ddechreuodd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ein dathliadau 60 mlynedd mewn steil gyda’n sesiwn glanhau traethau mwyaf, a mwyaf llwyddiannus, erioed, gan ysbrydoli nifer enfawr o bobl i ddod draw a gweithredu’n gadarnhaol dros fywyd gwyllt.

Pa well ffordd o gael y gorau ar felan mis Ionawr na thrwy lapio’n gynnes ac ymuno â digwyddiad cymunedol enfawr sy’n cymryd camau cadarnhaol dros ein planed ni?! Fe ddaeth tua 200 o bobl i Borth Trecastell ar gyfer Plast Off! Glanhau Traethau 2023 ac efallai bod rhai ohonyn nhw wedi ein clywed ni’n sôn amdano ar BBC Radio Cymru neu BBC Radio Wales y bore hwnnw a’i fod wedi ysbrydoli eu cynlluniau ar gyfer y diwrnod!

Beach Clean volunteer briefing

© NWWT Dawn Thomas

Gan fod cymaint o bobl wedi dod draw, roedden ni’n gallu anfon pobl ymhellach ar hyd yr arfordir lleol - roedd gennym ni bobl yn glanhau'r arfordir o Rosneigr yr holl ffordd i lawr i Aberffraw, ac roedd yn ymdrech yr oedd wir ei hangen gan bawb. Roedd y tywydd stormus o'r de orllewin wedi dod â llawer iawn o sbwriel morol i mewn ac rydyn ni’n amcangyfrif bod 1000kg o sbwriel wedi'i gasglu ar y diwrnod. Fe gasglwyd mwy na 300kg mewn bagiau bin a’i ddidoli’n ddeunydd i’w ailgylchu a deunydd arall, ac roedd gweddill y casgliad o sbwriel yn cynnwys offer pysgota yn bennaf, gan gynnwys rhwyd bysgota enfawr a gymerodd nifer o bobl i’w llusgo i fyny oddi ar y traeth.

A group of 7 people hauling a washed up fishing net off a beach. In the background many more people can be seen litter picking during a very large beach clean at plastoff 2022

Fishing Net Beach Clean © NWWT Lin Cummins

Roedd llawer o bobl ifanc o’n grŵp Hyrwyddwyr Achub y Môr a Fforwm Ieuenctid Sefyll Dros Natur Cymru wrth law i helpu – o ddosbarthu offer casglu sbwriel a briffio aelodau’r cyhoedd i bwyso’r bagiau o sbwriel wrth iddyn nhw gael eu cludo’n ôl i’n canolfan ni ym maes parcio Porth Trecastell. Dyma beth oedd gan ein pobl ifanc ni i’w ddweud am y diwrnod:

Young beach clean volunteers

© NWWT Jayke Forshaw

"Fe wnes i fwynhau’r Plast Off gan ei fod yn ddigwyddiad cymunedol gwych. Roedd rheoli offer a siarad gyda phobl yn hwyl. Fe wnes i wir fwynhau ymgysylltu â'r gymuned." - Jack

"Fe gefais i fy syfrdanu gan y mynyddoedd o blastig gafodd eu casglu o'r traeth ac roeddwn i'n hoff iawn o'r fan diodydd poeth a'r cyfle gafodd y cyhoedd i gofrestru gydag YNGC. Ar y cyfan roedd yn brofiad anhygoel gwneud rhywbeth i wella fy amgylchedd lleol i." - Hazel 

"Fe gefais i amser gwych yn Plast Off eleni! Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn frwd dros wneud gwahaniaeth, ac roedd gweld y sypiau enfawr o sbwriel wnaethon ni eu casglu gyda'n gilydd o'r amgylchedd naturiol yn agoriad llygad ac yn galonogol. Mae newid cadarnhaol yn bosibl!" - Ellen

"Roedd o’n brofiad anhygoel mynd i Plast Off!. Roeddwn i’n teimlo bod roeddwn ni yn gwneud gwahaniaeth da i ein amgylchedd. Roedd yna atmosffer o obaith yna achos roedd lot o pobl wedi dod i helpu y planed. Ond, wrth gwrs, oedd o yn ofnys gweld yr maint o blastig a wast wnaeth dod oddi ar yr traeth. Wrth edrych ar Porth Trecastell fysa chi ddim credu faint o blastig a wast roedden ni wedi casglu y diwrnod yna. Ond, os wyt ti’n dod i profiad fel Plast Off! bysaf yn dweud yn siwr bod byddach yn teimlo fel mae yna rywbeth wedi  digwydd i gwella y  sefyllfa o ein planed.

Fy hoff darn o’r diwrnod oedd pan wnaeth Anna cyhoeddi faint o blastic a sbwriel oedd wedi cael ei gasglu. Roedd pawb yn edrych yn mor hapus ar y maint o sbwriel wnaethon ni casglu. Wnaeth Anna hefyd cael caniadtâd i cyhoeddi yr rhif trwy megaphone (mae hi wedi bod eisiau defnyddio megaphone ers amser hir!)" - Catrin

 

"Un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd y llinell gynhyrchu wnaethon ni ei chreu i bwyso’r holl sbwriel, fe wnaethon ni i gyd weithio gyda’n gilydd a mwynhau didoli’r holl fagiau a gweld faint o sbwriel oedd pobl wedi’i gasglu. Roedd yn bryder mawr gweld faint o sbwriel oedd ar y traeth, ond braf iawn oedd gweld faint o bobl ddaeth i helpu ar y diwrnod i geisio cael gwared â chymaint ohono â phosib."  - Anna