EICH ADNODDAU AM DDIM

School children

School children © Paul Harris

Ysgolion ac Addysg

Llyfrgell Adnoddau

Eich adnoddau am ddim

Mae'r dudalen hon yn cynnwys yr adnoddau sydd wedi'u creu yn arbennig rydyn ni wedi'u comisiynu gan athrawon, ar gyfer athrawon - cliciwch ar yr amser / pwnc perthnasol isod! Byddwn yn ychwanegu at y dudalen hon yn rheolaidd - cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr ysgolion i dderbyn diweddariadau.

Afancod yng Nghymru

Oddi fewn i’r pecyn addysgol 'Afancod yng Nghymru' mae deg gweithgaredd sydd yn cefnogi y pedwar amcan o’r cwricwlwm.  Maent yn cynnwys disgrifiadau o addysg, yn adlewyrchu yr ardaloedd o addysg oddi fewn y Cwricwlwm i Gymru ac yn egluro dilyniant camau 2 -3.

Gyda rhagair gan Iolo Williams (Adaregydd Cymreig, cyflwynydd teledu ac awdur, yn cael ei adnabod am ei raglenni natur ar y BBC ac S4C), mae’r pecyn darluniadol 40 tudalen yma yn llawn gweithgareddau addysgiadol gwych, gemau a sialensiau yn cynnwys ‘Gêm Fwrdd Afancod', 'Her Argae Afanc’ ac ‘Hanes a chwedlau Afancod’.

(Cyhoeddwyd Tachwedd 2023)

Lawrlwythwch

Beaver resource pack CTMRAEG

Cyfranwyr creadigol: Pryfed peillio a barddoniaeth

Ymlaen â chi! Mae'r gyfres hynod yma o adnoddau yn rhoi'r cyfle i chi loywi gweithgareddau blinedig gyda blitz tymhorol! Felly, yn ysbryd y gwanwyn, beth am fynd â’ch dysgwyr uchelgeisiol, galluog allan am ymarfer ar onglau a chyfesurynnau, neu efallai gael eich cyfranwyr creadigol i chwarae gyda barddoniaeth mewn ffordd gwbl newydd?

(Cyhoeddwyd Mai 2023)

White-tailed bumblebee

White-tailed bumblebee © Penny Frith

Dysgwyr uchelgeisiol, galluog: siarcod, morgathod a symiau i’w datrys

Ddarganfod pedwar syniad gwyllt i chi gynllunio Pasg tra gwahanol. Fe welwch gyfres o weithgareddau rhifedd; darllen a deall y gellir ei argraffu; a saith cam i fraslunio - digon i'ch disgyblion fwynhau wrth i'r gwanwyn agosáu!

(Cyhoeddwyd Chwefror 2023)

Basking shark

Basking shark ©Alex Mustard/2020VISION

Dinasyddion Moesegol, Gwybodus: Ble aeth yr holl wenoliaid?

Lawrlwythwch yr adnoddau isod i ddarganfod pedair ffordd newydd o edrych ar fudo gan anifeiliaid. O dasg ymchwil i drafodaeth ar yr hinsawdd gyda ffocws ar lythrennedd, o ddarn o ysgrifennu llawn dychymyg i ddadl strwythuredig, fe ddowch chi o hyd i ddigon o bethau i wefreiddio a chyffroi eich disgyblion.

(Cyhoeddwyd Tachwedd 2022)

Swallows perched along a telegraph wire against a blue sky, The Wildlife Trusts

© Alan Price/Gatehouse Studio

PPL logo

Cynhyrchwyd ein adnoddau ar gyfer ysgolion diolch i gefnogaeth chwaraewyr Loteri y Côd Post.