Sut i adnabod tylluanod

Barn Owl (Tyto alba) swooping onto mouse UK

Andy Rouse/2020VISION

Sut i adnabod tylluanod

Tylluanod yw rhai o'n hadar mwyaf cyfareddol. Mae eu hoffter o hela gyda'r wawr, yn y gwyll a hyd yn oed yn y tywyllwch yn creu ymdeimlad o ddirgelwch o’u cwmpas. Gyda golygfa dda, mae'n hawdd dweud y gwahaniaeth rhwng tylluan ac unrhyw aderyn ysglyfaethus arall diolch i'w phen mawr gyda llygaid mawr sy'n wynebu ymlaen. Ond sut mae dweud y gwahaniaeth rhwng un tylluan a’r llall? Dyma ein canllaw ni i’r pum rhywogaeth rydych chi’n debygol o’u gweld yn y DU!

Tylluan wen

Barn owl

Barn owl © Russell Savory

Tylluan olau iawn a main, gwyn oddi tanodd fel rheol a brown euraidd gyda marciau llwyd ar y rhannau uchaf. Mae ganddi ddisg wyneb gwyn, siâp calon gyda llygaid tywyll. Mae’r nodwedd yma, a’i phlu golau, yn ei gwneud yn wahanol i unrhyw dylluan arall sy’n byw yn y DU. I’w gweld fel rheol uwch ben glaswelltir neu dir amaethyddol.

Barn owl

Barn owl © Danny Green/2020VISION

Wrth hedfan, mae’n edrych fel aderyn mawr gwyn fel rheol. I’w gweld gyda’r wawr ac yn y gwyll fel rheol ac mae i’w gweld yn y nos neu hyd yn oed yn hela yn ystod y dydd. Mae’n hedfan yn ôl ac ymlaen uwch ben caeau.

Mae gan y dylluan wen wich iasol a ‘shri’ sydd fel sgrech. Gwrandewch arni

Tylluan frech

Tawny owl

Tawny owl © Margaret Holland

Tylluan frown yn bennaf, a chymharol fechan, gyda phen mawr, crwn. Ychydig yn fwy na thylluan wen ac i’w gweld mewn coetir fel rheol. Mae’r plu yn frown brith ond gall amrywio o lwyd i gochfrown. Mae’r ddisg ar yr wyneb yn blaen yn bennaf, gyda rhimyn culach, tywyllach yn ymestyn i lawr rhwng y llygaid duon mawr.         

Tawny owl

Tawny owl bringing back dormouse to nest © Dale Sutton/2020VISION

Wrth hedfan, mae ganddi adenydd llydan, crwn. Mae’n hedfan yn uniongyrchol iawn gan guro’i hadenydd yn gyflym a hir, gleidio yn syth, gan hedfan pellteroedd byr yn unig yn aml, o goeden i goeden. Mae’n hoffi hela o glwydi, gan blymio i lawr i ddal ysglyfaeth ar y tir. Aderyn nosol yn bennaf a phur anaml i’w gweld yn hedfan yn ystod y dydd.

Mae gan y dylluan frech repertoire eang o sawl cri. Gwrandewch am y gri gyswllt 'ci-wic' fer a’r gri hysbysu 'hŵ, hw-hŵŵŵ' sy’n dirgrynu.    

Tylluan glustiog

Short-eared owl

Short-eared owl © Ben Hall/2020VISION

Tylluan lliw tywod neu frown sy’n debyg o ran maint i’r dylluan frech ond gydag adenydd hirach. Mae’r rhannau uchaf yn frown neu felyn yn bennaf gyda rhesi tywyllach, tra bod oddi tani’n felyn goleuach gyda rhesi tywyll ar y frest. Mae’r ddisg ar yr wyneb yn wyn golau neu felynfrown, gydag ymyl glir. Mae darnau tywyll o amgylch y llygaid melyn treiddgar, fel pe bai’r dylluan yn gwisgo llawer o golur llygaid! Mae gan y dylluan glustiog ‘gudynnau clustiau’ byr ar dop y pen, ond prin rydych yn eu gweld.                                

Short-eared owl in flight

Short-eared owl © Danny Green/2020VISION

Wrth hedfan, mae ei hadenydd yn hir a chul. O gymharu â’r dylluan gorniog sy’n debyg iawn, mae’r adenydd ychydig yn hirach a meinach, gyda blaen du amlwg iawn – fel pe baent wedi’u gollwng mewn inc. Mae ganddi frest resog, ond bol golau heb farciau, a rhesi tywyll trwchus ar y gynffon. Mae hefyd yn dangos ymyl wen ar yr adain uchaf. Mae’n hedfan gan guro’r adenydd yn araf ac yn gleidio’n grynedig. Mae’n hela yn ystod y dydd yn aml, ac yn ystod y nos. Mae’n magu yn bennaf ar rostir, ond i’w gweld yn ehangach yn ystod y gaeaf pan mae adar mudo’n cyrraedd o’r cyfandir.

Pur anaml y clywir y dylluan glustiog o’i thiroedd magu, lle mae’r gwrywod weithiau’n perfformio hediadau arddangos, gan roi cyfres gyflym o hwtian dwfn yn ogystal â churo’r adenydd yn fyr a chyflym. Mae cyfarth cras yn gri arall, a gyflwynir mewn cyfres gyflym pan fydd yr aderyn wedi dychryn, fel yr un yma ...

Tylluan gorniog

Long-eared owl

Long-eared owl © Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Tylluan frown resog sy’n edrych yn debyg iawn i dylluan glustiog. Mae ganddi blu tywyllach yn gyffredinol, gyda llai o arlliw melyn na’r dylluan glustiog. Mae’r ddisg ar yr wyneb yn llwydfelyn gydag ymyl ddu bendant, ac ‘aeliau’ gwyn yn ymestyn i lawr tuag at y pig. Mae’r llygaid yn oren dwfn gyda dim ond ychydig o blu du o amgylch yr ymyl fewnol – nid ydynt yn amgylchynu’r llygaid, fel y dylluan glustiog. Mae ‘cudynnau clustiau’ hir ac amlwg ar dop y pen, ond gall ostwng y rhain nes eu bod yn llai amlwg.       

Long-eared owl with short-tailed field vole

Long-eared owl with field vole prey © Tim Melling

Wrth iddi hedfan, gall fod yn anodd dweud y gwahaniaeth rhyngddi a’r dylluan glustiog. Adenydd ychydig yn fyrrach a llai pigfain, gyda rhesi du mân ar flaen yr adenydd (o gymharu â blaen adenydd du solet y dylluan glustiog). Mae'r rhesi tywyll ar y frest yn ymestyn i lawr dros y bol, gan roi ymddangosiad tywyllach i'r ochr isaf. Mae'r rhesi tywyll ar y gynffon yn fanach nag ar y dylluan glustiog, ac nid oes ymyl wen yn arwain i'r adain uchaf.

Fel arfer mae’r dylluan gorniog yn hela yn ystod y nos ond weithiau gellir ei gweld yn hela yn ystod y dydd, felly nid yw gweld tylluan glustiog neu gorniog yn hela yng ngolau dydd yn golygu yn awtomatig mai tylluan glustiog yw hi. Yn ystod y gaeaf, mae mudwyr o ymhellach i'r dwyrain yn ymuno â’r adar preswyl. Maent yn ffurfio clwydi cymunedol, a all fod yn sensitif iawn i aflonyddwch, felly dylid edrych arnynt o bell.

Mae'r dylluan gorniog wrywaidd yn rhoi gwybod am ei phresenoldeb gyda hwtian dwfn, meddal heb unrhyw newid cywair, a gyflwynir mewn cyfres reolaidd gyda hwtian bob ychydig eiliadau. Weithiau mae'n curo ei hadenydd yn wan wrth hedfan dros ei thiriogaeth. Mae gan y fenyw gri sy’n fwy trwynol. Gellir clywed cri begera’r cywion o bell: gwichian eithaf uchel fel colfachau giât rydlyd...

Tylluan fach

Little owl

Little owl © Luke Massey/2020VISION

Tylluan fach, gryno gyda chorun eithaf gwastad. Mae'r rhannau uchaf yn frown tywyll gyda rhesi a smotiau gwyn, sy'n fawr ar y cefn ond yn fân ar y pen. Ceir marciau gwyn mwy sy'n rhoi'r argraff o wyneb ffug ar gefn y pen. Mae'r rhannau isaf yn wyn gyda rhesi brown amlwg. Mae disg yr wyneb yn llwydfrown gydag ‘aeliau’ gwyn amlwg sy’n creu argraff o wyneb chwyrn. Mae'r llygaid yn felyn.

Little owl in flight

Little owl © Andy Rouse/2020VISION

Mae’n hedfan gyda hediad cyflym, llamol tebyg i fronfraith, er y bydd yn hedfan yn fwy uniongyrchol gan fflapio ei hadenydd dros bellteroedd byr. Mae'n hela drwy blymio i lawr o glwydi, ond bydd hefyd yn rhedeg ar draws y ddaear i ymlid ysglyfaeth. Mae ar ei phrysuraf gyda'r wawr ac yn y gwyll, ond gellir ei gweld yn aml yn ystod y dydd.

Mae gan y dylluan fach sawl cri amrywiol, gan gynnwys cri larwm ‘chi-chi-chi’ cyflym, hwtian traw isel, a’r gri swnian yma...

Tylluanod annisgwyl

Mae’r pum tylluan uchod i gyd yn byw yn y DU, ond weithiau bydd rhywogaethau eraill i’w gweld. Mae rhai, fel tylluanod Tengmalm, gwalchdylluanod a thylluanod sgops, yn ymwelwyr prin iawn o Sgandinafia neu gyfandir Ewrop. Mae tylluanod yr eira ac eryrdylluanod Ewrasiaidd yn cael eu cofnodi ychydig yn amlach, ond byddai angen i chi fod yn hynod ffodus i weld un o’r rhain.

Eagle owl

Eagle owl © Pete Richman

Eryrdylluan Ewrasiaidd          

Tylluan fwyaf Ewrop, yn tyfu i tua 70cm o daldra gyda lled adenydd o fwy na 170cm. Mae ganddi gudynnau clustiau mawr, tywyll, aeliau cymharol wyn a llygaid oren-goch. Mae'r eryrdylluan yn cael ei chadw mewn caethiwed gan amlaf ac weithiau mae'n dianc. Mae cofnodion achlysurol am eryrdylluanod yn nythu yn y DU hyd yn oed, ond credir mai adar sydd wedi dianc o gaethiwed yw’r rhain. Mae llawer o ddadlau ynghylch a fyddai eryrdylluanod yr croesi Môr y Gogledd yn naturiol i gyrraedd y DU.

Snowy owl

Snowy owl (female) © Sarah Lawrence

Tylluan yr eira

Mae tylluan yr eira yn ymwelydd prin o'r gogledd, er ei bod wedi magu ar Ynysoedd y Shetland o'r blaen. Mae'r dylluan fawr hon yn drawiadol o wyn, gyda llygaid melyn. Mae’r gwrywod yn eu llawn dwf yn wyn i gyd bron, a’r benywod a’r adar ifanc â rhesi tywyll. Yn fwyaf tebygol o gael ei darganfod yn ystod y gaeaf, yn Ucheldiroedd yr Alban neu ar yr ynysoedd.