Sefyll Dros Natur Cymru
Mae Sefyll dros Natur Cymru yn brosiect newid hinsawdd ieuenctid cenedlaethol gydag uchelgais mawr!
Mae'r pum Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru wedi dod at ei gilydd i ysgogi pobl ifanc i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol yn uniongyrchol. Am y tair blynedd nesaf, byddwn yn gweithio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i weithredu dros natur a bywyd gwyllt yn eu hardal leol ac uno eu cymunedau mewn ymdrech i leihau eu heffaith amgylcheddol ar y cyd. O Gaerdydd drefol i Ynys Môn wledig, mae pobl ifanc yn sefyll dros natur ac yn sicrhau dyfodol gwyrddach.