Gwarchodfa Natur Y Graig
Hafan i flodau gwyllt a glöynnod byw gyda golygfeydd cyfareddol draw dros Ddyffryn Clwyd a thu hwnt!
Hafan i flodau gwyllt a glöynnod byw gyda golygfeydd cyfareddol draw dros Ddyffryn Clwyd a thu hwnt!
Dyma ardal fechan hyfryd ar y Gogarth gyda golygfeydd trawiadol o’r môr a bywyd gwyllt rhyfeddol y glaswelltir.
Darn o laswelltir calchfaen a rhos morol ar lethrau gorllewinol y Gogarth Fawr enwog, yn gyforiog o löynnod byw a blodau gwyllt.
Noddfa wyllt yng nghanol môr o dir amaethyddol. Mae’r gors fawn yma’n gartref i gasgliad lliwgar o blanhigion ac anifeiliaid arbenigol.
Bydd adar rhydio’r arfordir ac adar y coetir yn aros amdanoch chi yn y darn hyfryd yma o goetir sy’n edrych dros Afon fyd-enwog Menai.
Hafan ragorol i fywyd gwyllt gyda phoblogaeth drawiadol o adar môr yn rhan greiddiol ohoni. Mae ymweliad â Chemlyn yn llawn posibiliadau!
Coetir, nentydd, blodau gwyllt a phyllau – mae’r warchodfa natur amrywiol yma’n fwrlwm o fywyd gyda chysylltiad dwfn â’r ddaeareg unigryw.
Dyma un o warchodfeydd natur cyntaf Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, a brynwyd yn 1964. Mae’n gartref i rywogaethau prin iawn ac yn gyforiog o fywyd gwyllt.
Lle gwych i fod yn agos at fywyd gwyllt, gyda’r cuddfannau adar yn cynnig cyfle i chi dreulio amser gyda thrigolion y warchodfa. Does dim eiliad ddiflas yma!
Cyfle arbennig i weld llwyddiant ecolegol ar waith. Wrth i chi grwydro drwy’r gwlybdir heddychlon yma, ceisiwch olrhain ei siwrnai o’r llyn i’r coetir.
Mae’r cyfuniad o goetir, blodau gwyllt a glöynnod byw yn golygu bod y warchodfa yma â’i sylfaen o galchfaen yn fwrlwm o fywyd – sy’n cynnig gwledd yn ystod yr haf!
Dyma warchodfa ddiarffordd ac anghysbell sy’n llawn golygfeydd a synau arallfydol. Edrychwch ar y gweision y neidr cyn-hanes yr olwg a’r planhigion bwyta pryfed, a gwrandewch am gri ryfedd y…