Mae COP yn sefyll am 'Conference of the Parties' a dyma gynadleddau'r Cenhedloedd Unedig ar ei wahanol gonfensiynau. Yn 2022, mae COPs yn digwydd ar yr hinsawdd (COP27) a natur (COP15). COP15 yw lle mae arweinwyr y byd yn dod ynghyd i adolygu gweithrediad y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (neu CBD). Cytundeb byd-eang ar gadwraeth natur yw CBD. Trwy hyn, mae 196 o bleidiau yn anelu at gytuno ar 20 targed byd-eang a fydd yn atal colli bioamrywiaeth.
Mae Beached! yn brosiect newydd sy’n ceisio mapio’r bywyd môr marw neu ar farw sy’n cronni ar hyd ein traethau ni, o Southport i Aberdyfi. Mae hwn yn ddigwyddiad cyffredin ac, yn aml iawn, yn ddigwyddiad naturiol fel rhan o gylch bywyd y môr, ond ychydig iawn ydyn ni’n ei wybod am ble neu pam mae’r ‘drylliadau’ hyn yn digwydd.
Mae byd natur yng Nghymru ac yn y DU yn wynebu problemau difrifol. Lansiwyd yr adroddiad #CyflwrBydNatur ar 3ydd Hydref ac mae'n cyflwyno'r ffeithiau am ddirywiad bywyd gwyllt. Darllenwch ymlaen i gael gwybod sut gallwch chi helpu.
Mae’r adroddiad garreg filltir Sefyllfa Natur 2023 wedi dangos fod y DU – sydd yn barod wedi ei dynodi fel un o’r gwledydd mwyaf natur-ddiffygiol yn y byd – yn dal i adael natur ddirywio. Mwy nac erioed o’r blaen mae pobl yn pryderu ac yn poeni yn ddirfawr am sefyllfa eu hamgylchedd naturiol. Gyda etholiad cyffredinol ar y gorwel, mae’n amser i wleidyddion glywed y neges yna.
Mae dolydd blodau gwyllt naturiol yn un o’r cynefinoedd prinnaf yn y DU ac rydym wedi colli 97% o’n dolydd blodau gwyllt ers y 1930au. Mae gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru lawer o syniadau i chi helpu i ddod â natur yn ôl!
Dros y dyddiau diwethaf, mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymosodiad ar fyd natur, gan wanhau’r cyfreithiau sy’n amddiffyn ein bywyd gwyllt ac mae mynd yn ôl ar eu maniffesto yn argoeli i fod y Llywodraeth wyrddaf erioed: gwrthdroi diwygiadau i ffermio a gwneud penderfyniadau ynni a fydd yn gwaethygu’r newid yn yr hinsawdd.
Mae Bass a rhai ffrindiau’n mynd i rwyfo (dan do!) y pellter o amgylch Ynys Môn – cyfanswm o 225km – cyn gadael Gogledd Cymru i astudio yn UDA. Treuliodd Bass ei lleoliad fel myfyriwr gyda'r Ymddiriedolaeth wrth astudio ym Mhrifysgol Bangor, ac mae hefyd wedi treulio'r pedwar mis diwethaf yn gwirfoddoli'n llawn amser!