Morwellt: Achub Cefnfor
Mae’r DU wedi colli hyd at 90% o’i dolydd morwellt yn y ganrif ddiwethaf, sydd wedi cael canlyniadau negyddol i iechyd a gwydnwch ein systemau arfordirol. Yn 2019, ffurfiodd Prifysgol Abertawe, yr elusen Project Seagrass a WWF-UK gydweithrediad i ddechrau adfer rhywfaint o'r hyn yr ydym wedi'i golli. Ar yr un pryd, dros y chwe blynedd diwethaf mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn arwain treialon ledled Cymru i ddatblygu dulliau priodol ar gyfer adfer morwellt. Yma yn Ngogledd Cymru, rydym wedi ymuno gyda’r partneriaid i gychwyn archwilio sut allwn ddod a’r prosiect cyffrous yma i Ogledd Cymru. Rydym wedi sicrhau cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gyflawni rhaglen waith adfer arfaethedig sy’n dderbyniol yn gymdeithasol ac yn ecolegol gadarn ac rydym ni eisiau i chi gymryd rhan. Wrth gymryd rhan fyddwch chi yn helpu ni i adfer morwellt yng Ngogledd Cymru.