Gwarchodfa Natur Morfa Bychan
Gwarchodfa forol sy’n rhoi cyfle prin i chi brofi’r amrywiaeth lawn o gynefinoedd yn y system ddeinamig o dwyni.
Gwarchodfa forol sy’n rhoi cyfle prin i chi brofi’r amrywiaeth lawn o gynefinoedd yn y system ddeinamig o dwyni.
Yn gyforiog o fioamrywiaeth, mae’r hen safle diwydiannol yma’n orlawn o infertebrata erbyn hyn.
Gallwch dreulio oriau’n archwilio’r clytwaith trawiadol yma o gynefinoedd, pob un â’i gymeriad unigryw ei hun a’i gasgliad o fywyd gwyllt.
Trysor cudd sy’n teimlo fel camu’n ôl mewn amser i goedydd gwyllt hynafol Cymru.
Mae Coed y Felin yn goetir derw/ynn hynafol sydd wedi’i blannu gyda choed sycamorwydd, ffawydd a chastanwydd per ac mae gan y safle dreftadaeth ôlddiwydiannol nodedig hefyd …
Mae’r cyfuniad o goetir, blodau gwyllt a glöynnod byw yn golygu bod y warchodfa yma â’i sylfaen o galchfaen yn fwrlwm o fywyd – sy’n cynnig gwledd yn ystod yr haf!
Safle hyfryd yng nghysgod coetir hynafol, yn gyforiog o liwiau’r gwanwyn a gyda golygfeydd cyfareddol ar draws Dyffryn Clwyd.
Dyma warchodfa ddiarffordd ac anghysbell sy’n llawn golygfeydd a synau arallfydol. Edrychwch ar y gweision y neidr cyn-hanes yr olwg a’r planhigion bwyta pryfed, a gwrandewch am gri ryfedd y…
Dewch i ddathlu agoriad swyddogol Chwarel Minera, 36ain gwarchodfa natur Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, gyda’r cyflwynydd natur ar y teledu, Mike Dilger, ar 2 Mehefin rhwng 10am a 4pm!
Mae iechyd a lles y cyhoedd, gwirfoddolwyr a staff yn hollbwysig i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
This peaceful pocket of woodland has been reclaimed by nature after hundreds of years of quarrying. Only parts of the reserve are open to the public.
Wedi’u hamgylchynu gan amaethyddiaeth a thai trefol, mae’r caeau hyn sy’n llawn blodau gwyllt a’r gwrychoedd aeddfed yn creu hafan i fywyd gwyllt.