Ein Glannau Gwyllt - Mae eich Fforwm lleol eich angen chi!

Anglesey Youth Forum
Ein Glannau Gwyllt

Mae eich Fforwm lleol eich angen chi!

Mae ein fforymau amgylcheddol o dan arweiniad ieuenctid wrth galon popeth mae prosiect Ein Glannau Gwyllt yn ei wneud. Mae tri fforwm i gyd (Arfordir y Gogledd / Ynys Môn / Gwynedd) sy’n cael eu gweithredu gan ein swyddogion prosiect. Maen nhw’n cynnwys cynrychiolwyr ifanc o’n grwpiau prosiect presennol, yn ogystal â chyfranogwyr blaenorol ac unrhyw bobl ifanc eraill o’r ardal leol sydd â diddordeb mewn dod â chymunedau at ei gilydd i helpu i warchod yr amgylchedd. Mae’r fforymau’n mynd o nerth i nerth a nawr ein bod ni ym mlwyddyn derfynol y prosiect, bydd eu ffocws ar ymgyrchu amgylcheddol ac arwain eu prosiectau bywyd gwyllt cymunedol eu hunain. Dyma ddiweddariad am beth maen nhw wedi’i wneud hyd yma.  

Ynys Môn: Ar ôl 2018 lwyddiannus iawn, gyda’r fforwm yn llwyddo i sicrhau cyllid gan ‘Grow Wild’ i ddatblygu safle arddangos blodau gwyllt yng ngwarchodfa Caeau Pen y Clip, eleni mae’r grŵp wedi canolbwyntio ar gynnal digwyddiadau a dosbarthu hadau blodau gwyllt ledled yr ynys. Yn 2020, maen nhw’n mynd i fapio’r data blodau gwyllt hyn a hefyd datblygu syniadau i helpu cymunedau ledled Ynys Môn i leihau eu hôl troed carbon drwy fynd i’r afael â phroblemau fel plastig defnydd sengl a’u hannog i greu mwy o ofod i fywyd gwyllt allu ffynnu.         

Arfordir y Gogledd: Bydd y gweithgareddau ar gyfer grŵp Arfordir y Gogledd yn ystod y misoedd sydd i ddod yn cynnwys trefnu a chynnal sesiwn glanhau traeth ac ymgyrchu dros gael pob ysgol uwchradd yng Ngogledd Cymru i gynnwys mwy o ddysgu awyr agored yn rhan o’r cwricwlwm. Maen nhw wedi ysgrifennu at eu AS’au lleol hyd yn oed ac wedi cael ymateb uniongyrchol gan Weinidog Addysg Cymru!

Gwynedd: Bydd fforwm Gwynedd yn trefnu sesiynau glanhau afonydd cymunedol ledled y sir yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, ac mae’n bwriadu cynnal digwyddiad natur a chadwraeth cymunedol yng ngwarchodfa Gwaith Powdwr (y dyddiad i’w gyhoeddi yn fuan!). Hefyd mae’n ymuno â fforwm Ynys Môn i ddatblygu ei brosiect bywyd gwyllt cymunedol ei hun.

Mae ein fforymau ar agor i unrhyw un yn y gymuned leol sydd â diddordeb mewn helpu pobl ifanc i arwain ar faterion amgylcheddol yn eu hardaloedd, heb ystyried oedran ac a ydyn nhw wedi ymwneud â phrosiect Ein Glannau Gwyllt – ac mae nawr yn amser grêt i ymuno â nhw! Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod eisiau cymryd rhan, cysylltwch â’r swyddog prosiect perthnasol isod:

Fforwm Ynys Môn – Andy Charles-O’Callaghan

andy.ocallaghan@northwaleswildlifetrust.org.uk

Fforwm Gwynedd – Eurig Jones

eurig.jones@northwaleswildlifetrust.org.uk

Fforwm Arfordir y Gogledd – Charlotte Keen

charlotte.keen@northwaleswildlifetrust.org.uk

 

Â