Ein Dyfodol Gwyllt – Dathlu Ein Pobl Ifanc

Our Wild Coast_Andy with group_BBC Countryfile Feb 2018_Dilys Thompson

Our Wild Coast_Andy with group_BBC Countryfile Feb 2018_Dilys Thompson

Ein Dyfodol Gwyllt – Dathlu Ein Pobl Ifanc

'Cefn Llwyfan'

Helo bawb a chroeso i ardal cefn llwyfan y digwyddiad! Yma fe welwch chi lu o fideos, lluniau ac adnoddau i edrych drwyddynt yn hamddenol yn ogystal â'n hamserlen o ddigwyddiadau. Mwynhewch!

Amserlen Heddiw

Manylion y digwyddiad Dolenni a chodau mynediad

Diwrnod ym mywyd Ein Glannau Gwyllt; Ymunwch â ni ar leoliad i gael gwybod beth mae ein grwpiau ieuenctid wedi bod yn ei wneud fel rhan o'r prosiect, archwilio'r draethlin, a chael gwybod am rai gweithgareddau y gallwch eu gwneud yn eich gardd gefn eich hun! 10am

Digwyddiad diwrnod yn mywyd Passcode: 994689

Sgwrs gydag Our Bright Future; Ymunwch â Chris Baker a thîm Our Bright Future am sgwrs am effaith y prosiectau ledled y DU, gan gynnwys rhai fideos gwych o’r prosiectau. 1pm

Sgwrs gyda  Our Bright FuturePasscode: 248305

Crynodeb o ymchwil interniaeth; Ym misoedd olaf Ein Glannau Gwyllt, rydym wedi bod yn gweithredu pum swydd interniaeth yn yr ymddiriedolaeth ac yn y sesiwn yma bydd yr interniaid yn siarad gyda ni am eu hymchwil a'u canfyddiadau. Ydych chi wedi meddwl erioed a oes posib dod o hyd i wiwerod coch ym Mangor Uchaf, neu am y cysylltiad rhwng iechyd, lles a byd natur? Os felly, dyma'r sesiwn i chi! 2:30pm

Digwyddiad ymchwil internaethPasscode: 989584

Gofod gwyllt i bawb! Bydd pobl ifanc fforwm gweithredu lleol Môn Gwyrdd yn ein harwain drwy weithgareddau syml y gallwch eu cwblhau gartref er mwyn denu byd natur i’ch gardd neu i ofod lleol. 4pm

Digwyddiad gofod gwyllt tPasscode: 365702

Cyfarfod y tîm; I ddod â’r diwrnod i ben, bydd tîm Ein Glannau Gwyllt yn sgwrsio gyda chi am rai o uchafbwyntiau’r prosiect, gan ddangos hen luniau a fideos a hel atgofion am amseroedd da. Ar ddiwedd y sesiwn yma, byddwn yn cael premiere o ffilm prosiect Ein Glannau Gwyllt sydd wedi’i datblygu gan Dewi Fôn Evans Videography ac yn rhoi sylw i’r flwyddyn a hanner ddiwethaf. 7pm

Digwyddiad cyfarfod y tim Passcode: 090804

I'w wneud gartref!

Edrych ar uchafbwyntiau Ein Glannau Gwyllt dros y blynyddoedd!

Blogiau

Beth am ddarllen am rywfaint o'r gwaith anhygoel mae ein hinterniaid wedi bod yn ei wneud gyda'r Ymddiriedolaeth yn ystod y pedwar mis diwethaf? Bydd ein hinterniaid yn cyflwyno eu prosiectau gwych am 2:30pm ddydd Sadwrn, a gallwch ddod o hyd i'r ddolen ar yr amserlen.

Cyfryngau Cymdeithasol

Ymunwch yn y sgwrs drwy fynd draw i’n cyfrif Facebook neu Instagram. Mae llawer iawn o sgyrsiau ar ein sianel YouTube a digwyddiadau ar ein gwefan.