Newid newydd i gyfraith llygredd ffermydd Cymru yn newyddion difrifol i afonydd eiconig Cymru

Newid newydd i gyfraith llygredd ffermydd Cymru yn newyddion difrifol i afonydd eiconig Cymru

Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn galw am adfer rheolau dŵr amaethyddol ar frys

Mae newid newydd i reoliadau llygredd amaethyddiaeth yng Nghymru yn golygu na fydd trwyddedau arfaethedig ar gyfer chwalu tail yn ofynnol i ffermwyr mwyach – yn hytrach dim ond ‘hunanadrodd’ fydd angen iddynt ei wneud am faint o dail maent yn ei roi ar gaeau. Bydd y dull gwirfoddol hwn o weithredu’n dwysau canlyniadau trychinebus dŵr ffo o ffermydd i afonydd Cymru, meddai Ymddiriedolaethau Natur Cymru.

Rydym yn gwybod mai llygredd amaethyddol yw prif achos cyflwr gwael rhai o afonydd mwyaf eiconig Cymru – mae’n ffactor mwy arwyddocaol o ran eu diraddio na charthffosiaeth. Mae mwy na 60% o afonydd sydd wedi’u dynodi’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yng Nghymru – gan gynnwys afonydd Gwy ac Wysg – wedi methu â chyrraedd targedau ffosfforws. Canfu astudiaeth o ddalgylch afon Gwy fod “60 i 70% o gyfanswm y llwyth ffosffad bellach yn dod o amaethyddiaeth”. Mae’r effaith ar ansawdd dŵr a bywyd gwyllt yn niweidiol: mae nifer yr eogiaid wedi dirywio 42% yng Nghymru ac aseswyd bod holl stociau’r afonydd ‘mewn perygl’.

Roedd y rheoliad fel y cafodd ei ddrafftio yn wreiddiol yn 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr wneud cais am drwydded os oeddent yn bwriadu chwalu mwy na 170kg o nitrogen yr hectar y flwyddyn. Bydd y newid i’r gyfraith “yn disgwyl yn awr i ffermwyr hunanadrodd am unrhyw dail ychwanegol sy’n cael ei chwalu”. Bydd hyn yn caniatáu i'r lefelau uchel presennol o lygredd barhau.

River in Wales © Alicia Leow-Dyke

© NWWT Alicia Leow-Dyke

Meddai Rachel Sharp, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaethau Natur Cymru:

“Mae angen gweithredu ar frys i atal llygredd ffermydd rhag cyrraedd cyrff dŵr os yw Cymru o ddifrif am warchod ac adfer ei hafonydd gwerthfawr. Rhaid i Lywodraeth Cymru gryfhau, nid gwanhau, deddfau sy’n atal chwalu slyri gormodol ar y tir. Mae’r cyhoeddiad newydd yn gwanhau’r rheoliadau’n ddifrifol ac yn gam sylweddol yn ôl yn adferiad byd natur ledled Cymru. Mae angen i ni wyrdroi’r penderfyniad hwn cyn gynted â phosibl.”

Roedd Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 yn ceisio mynd i’r afael ag achosion llygredd dŵr o chwalu slyri ar dir fferm ledled Cymru. Roedd y rheoliad arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr wneud cais am drwydded os oeddent yn bwriadu chwalu mwy na 170kg o nitrogen yr hectar y flwyddyn, hyd at uchafswm o 250kg, a byddai’r drwydded hon yn cael ei rhoi pe bai modd angen profi’r angen am wrteithio cnwd. 

Ychwanegodd Rachel Sharp:

“Bydd effaith niweidiol y penderfyniad newydd i ddewis dull gwirfoddol yn cael ei waethygu gan ddiffyg adnoddau i’r rheoleiddiwr, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), gan nad yw erioed wedi cael digon o arian i fonitro ffermydd. Mae CNC i fod i gyflogi 20 aelod newydd o staff ond, hyd yma, dim ond 12 sydd yn eu lle ar gyfer Cymru gyfan, sy’n golygu na fydd yn bosibl monitro na rheoli’n ddigonol faint o dail sy’n cael ei chwalu ar dir. Mae’n sefyllfa warthus.”

Meddai Adrian Lloyd Jones, Pennaeth Tirweddau Byw gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru:

Rydym yn teimlo bod y penderfyniad hwn gan Lywodraeth Cymru yn un hynod ddyrys. Dŵr ffo amaethyddol yw’r achos mwyaf arwyddocaol o ran llygredd dŵr croyw yng Nghymru o hyd, felly mae dibyniaeth ar hunanadrodd i fynd i’r afael â defnydd gormodol o slyri yn ein tirwedd ni’n gyswllt gwan enfawr. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif am gyrraedd ei thargedau i adfer byd natur, rhaid gwyrdroi’r penderfyniad hwn a buddsoddi adnoddau digonol i ddiogelu a gwella ein cynefinoedd dŵr croyw.

Editor's notes

Announcement: Written Statement: Nutrient management – Managing the application of livestock manures sustainably (10 October 2023) | GOV.WALES 

Afonydd Cymru: Ditching Manure Licence A Step Backwards For Rivers. 

Decline of salmon in Wales: State of Nature 2023 Wales Summary Report, page 12. 

State of Nature, Wales 2023 Wales summary report.pdf (wildlifetrusts.org) and press release: www.northwaleswildlifetrust.org.uk/state-nature-2023  

Natural Resources Wales: Compliance Assessment of Welsh River SACs Against Phosphorus Targets: 107 water bodies were assessed, 39% passed the new targets and 61% failed. Most failing water bodies were in mid and south Wales. See: Natural Resources Wales / Compliance Assessment of Welsh River SACs Against Phosphorus Targets 

Natural Resources Wales: Compliance Assessment of Welsh River SACs against Phosphorus Targets. See: compliance-assessment-of-welsh-sacs-against-phosphorus-targets-final-v10.pdf Page 70: “The Usk is by some distance the worst performing SAC river in Wales with respect to its phosphorus targets, and is the only river where there are extensive failures in the headwaters. In part this is likely to be a consequence of overgrazing.” 

Herefordshire Wildlife Trust: What's polluting the River Wye? 

Re-focusing Phosphorous use in the Wye Catchment, RePhoKUs: “A study of the Wye catchment found that “60-70% of the total phosphate load now comes from agriculture”. Report by Paul J.A.Withers, Shane A. Rothwell, Kirsty J. Forber and Christopher Lyon, May 2022. Lancaster Environment Centre, Lancaster , University, Lancaster, UK; School of Earth and the Environment, University of Leeds. See: https://zenodo.org/records/6598122#.Yr8Jj3bMI2y  

Written Evidence from the RePHOKUs Project: “Farming generates an annual P surplus (i.e. unused P) of ca. 2000 tonnes (11 kg P/ha) in the Wye catchment, which is accumulating in the catchment soils. This P surplus is nearly 60% greater than the national average, and is driven by the large amounts of livestock manure produced in the catchment”…. and “Water quality in the Wye catchment, and many other livestock-dominated catchments, will not greatly improve without reducing the agricultural P surplus and drawing-down P-rich soils to at least the agronomic optimum. This will take many years.” See: committees.parliament.uk/writtenevidence/40668/pdf/ 

Wildlife Trusts Wales 

Wildlife Trusts Wales works in partnership with the five Wildlife Trusts in Wales: North Wales, Montgomeryshire, Radnorshire, Gwent, and South and West Wales. Wildlife and natural processes need space to thrive beyond just designated nature reserves. This enables nature to develop and spread back into the wider landscapes and seas though habitat connectivity. Therefore, it is imperative that nature reserves are protected and sustained for the prosperity of all native species. A healthy natural environment is also the foundation of society – food, water, shelter, flood prevention, health, happiness, and creative inspiration. It is an invaluable source of wellbeing. Through the inspiration of nature, people should take action to protect and restore our wildlife and wild spaces. Our network of local Wildlife Trusts is the largest voluntary organisation in Wales, dedicated to protecting nature. Together we manage 216 nature reserves covering more than 8,000 hectares, and we are supported by 25,000 members. www.wtwales.org