Hwb i Dirwedd Fyw Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam

Hwb i Dirwedd Fyw Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam

Mae prosiect Tirwedd Fyw Ystad Ddiwydiannol Wrecsam wedi derbyn hwb ariannol sy’n ein galluogi i weithio gyda mwy o fusnesau dros y flwyddyn nesaf i ddod â bywyd gwyllt a mannau gwyrdd i fywydau beunyddiol pobl.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod prosiect Tirwedd Fyw Stad Ddiwydiannol Wrecsam wedi derbyn cyllid o sawl ffynhonnell er mwyn parhau â’n gwaith i helpu bywyd gwyllt a phobl fel ei gilydd yn yr ardal hon am flwyddyn arall. Bydd yr adnoddau yn ein galluogi ni i adfer mwy o ddolydd, hau lleiniau blodau gwyllt, rheoli coetir, cloddio pyllau a chreu mannau eistedd yn yr awyr agored i staff gael blas ar fyd natur yn ystod eu diwrnod.  Yr oll yn cyfrannu at uchelgais yr Ymddiriedolaethau Natur i gysylltu ac amddiffyn o leiaf 30% o’n tir a môr erbyn 2030 er mwyn adfer bywyd gwyllt.        

 

Wrexham volunteers

Gwirfoddolwyr yn adeiladu pont droed ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Cadwyn Clwyd a Chymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a gyllidir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae’r prosiect hwn hefyd wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi sy’n cael ei gweinyddu gan CGGC.

Gallwch gymryd rhan yn y prosiect drwy gysylltu â’n swyddog prosiect, Henry Cook, ar henry.cook@northwaleswildlifetrust.org.uk. Byddwn yn cynnal gweithgareddau a digwyddiadau gwirfoddol yn ystod y flwyddyn ar gyfer amrywiaeth o brofiadau, gan fwynhau gwaith tîm a dysgu sgiliau newydd.

Cadwyn Clwyd Logos
Logo for Landfill Disposals Tax Communities Scheme
Early Purple Orchids within Erlas Black Wood © NWWT

Early Purple Orchids within Erlas Black Wood © NWWT

Mae’r pigau lliw hyfryd hyn o degeirianau porffor cynnar yn elwa o’r gwaith i helpu bywyd gwyllt ar yr ystâd ddiwydiannol.