Gwersi tu hwnt i’r ystafell ddosbarth yn Ysgol Gyfun Llangefni

Gwersi tu hwnt i’r ystafell ddosbarth yn Ysgol Gyfun Llangefni

© Sally Williams

Mae Ysgol Gyfun Llangefni, yng nghanol Ynys Môn, yn arloesi gyda fframwaith Cwricwlwm newydd i Gymru i ddysgu’r genhedlaeth nesaf o fodiau gwyrdd! Darllenwch am eu gwaith anhygoel yn trawsnewid cae pêl-droed yn fan gwyrdd ysblennydd!

Dim ots beth yw eich oedran mae’n bwysig cysylltu â natur a threulio amser yn yr awyr agored. Nid yn unig i wella eich lles meddyliol a chorfforol, ond i ddeall o ble mae hanfodion bywyd, fel bwyd, yn dod.

Mae Ysgol Gyfun Llangefni, yng nghalon Ynys Môn, yn arloesi gyda Chwricwlwm Cenedlaethol newydd Cymru sy’n rhoi’r cyfle i ysgolion ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain a mynd y tu hwnt i addysgu safonol. Un elfen arwyddocaol o hyn yw datblygiad eu cwricwlwm awyr agored i flwyddyn 7 sy’n mynd â’r dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth i roi profiad ymarferol i’r disgyblion yn eu gwersi garddio wythnosol - ac addysgu’r genhedlaeth nesaf o fodiau gwyrdd!

Mae ein prosiect Sefyll Dros Natur Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â’r ysgol i ddatblygu hen gae pêl droed yn ofod gwyrdd llewyrchus, gydag ardaloedd ar gyfer bywyd gwyllt, parthau tyfu, gardd synhwyraidd a micro-fforest lle mae 500 o goed wedi cael eu plannu. Fel rhan o’r bartneriaeth hon, nod yr ardd yw bod yn garbon-niwtral, gan alluogi disgyblion i ddysgu am newid hinsawdd a phwysigrwydd byw yn gynaliadwy. Mae hefyd yn gobeithio bod yn gaffaeliad i gymuned ehangach Llangefni, oherwydd cynhaliwyd diwrnod agored i roi cyfle i aelodau’r cyhoedd weld y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud yma gan y disgyblion a chynhaliwyd gweithgorau wythnosol i ymgysylltu â phobl leol.

Secondary school pupils outdoors in the sun planting into several raised beds

© Megan Parkinson NWWT

Mewn ymweliad gan Estyn ym mis Ionawr yn gynharach eleni, derbyniodd yr ardd gydnabyddiaeth yn adroddiad yr ysgol fel ased i’r ysgol ac i ddysgu’r disgyblion:

“Mae’r disgyblion yn cael cyfle gwerthfawr i ddatblygu gardd gymunedol ar dir yr ysgol ac ysgwyddo cyfrifoldeb am gynllunio a chynnal a chadw’r ardd. O amgylch y gwaith ymarferol hwn, mae’r disgyblion yn dysgu am wahanol agweddau fel cynaliadwyedd, gwarchod bywyd gwyllt ac ymwybyddiaeth ofalgar ac yn defnyddio ystod eang o sgiliau mewn cyd-destun bywyd real.”

Ers hynny, mae’r ysgol wedi ysgrifennu astudiaeth achos sy’n arddangos agweddau allweddol ar yr ardd, yn ogystal â’r effaith gadarnhaol y mae wedi’i chael ar ddisgyblion, gan ddarparu adnodd i ysgolion eraill ei ddefnyddio i fynd â dysgu y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

Darllenwch astudiaeth achos ar sut mae Ysgol Gyfun Llangefni wedi datblygu cwricwlwm awyr agored YMA 

Darllenwch adroddiad Estyn YMA