Ei Mawrhydi Y Frenhines – teyrnged gan yr Ymddiriedolaethau Natur

Ei Mawrhydi Y Frenhines – teyrnged gan yr Ymddiriedolaethau Natur

Rydym wedi ein tristau’n fawr gan farwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines ac yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf at y Teulu Brenhinol.

Ymrwymodd y Frenhines Elizabeth II ei bywyd i wasanaeth cyhoeddus ac roedd yn cael ei dathlu am ei hangerdd dros yr awyr agored, cefn gwlad a bywyd gwledig, gan ddangos ei chefnogaeth i waith yr Ymddiriedolaethau Natur a llawer o elusennau amgylcheddol dros y blynyddoedd.

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn falch o fod wedi bod yn rhan o Ddolydd y Coroni – syniad ysbrydoledig i nodi 60 mlynedd ers Coroni’r Frenhines yn 2013 a gafodd ei arwain gan ein noddwr, y Brenin Charles III, pan oedd yn cael ei adnabod fel Tywysog Cymru.

Roedd Ei Fawrhydi yn pryderu bod cymaint o ddolydd blodau gwyllt wedi’u colli dros y trigain mlynedd blaenorol. Penderfynodd ddathlu pen-blwydd Coroni ei fam drwy weithio gyda Plantlife, yr Ymddiriedolaethau Natur a’r Ymddiriedolaeth ar gyfer Goroesiad Bridiau Prin i nodi’r dolydd hynafol sy’n weddill, casglu eu hadau, a chreu rhai newydd ger y safle gwreiddiol. Mae'r dechneg hadu naturiol hon yn helpu i gadw cymeriad lleol arbennig dolydd.

Fe fuodd Y Frenhines Elizabeth 11 yn ymroddgar ar hyd ei bywyd i wasanaeth cyhoeddus ac fe rodd hi yn cael ei  chlodfori am ei hangerdd am fywyd allanol, cefn gwlad a bywyd gwledig

Hyd yma, mae 90 o ddolydd newydd hardd wedi'u creu yn gorchuddio 1,000 o erwau. Maent yn gyforiog o amrywiaeth wych o laswelltau a phlanhigion gwyllt – o degeirianau prin i bys-y-ceirw a thamaid y cythraul – sy’n darparu ffynonellau hanfodol o neithdar i wenyn a glöynnod byw, a chynefin pwysig ar gyfer cyfoeth o fywyd gwyllt arall.

Yn fwy diweddar, eleni, cyhoeddodd yr Ymddiriedolaethau Natur fenter arloesol, Natur Drws Nesaf,  a fydd yn gadael gwaddol naturiol parhaus er anrhydedd i Jiwbilî Platinwm y Frenhines. Diolch i gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae Natur Drws Nesaf yn dod â chymunedau at ei gilydd i helpu byd natur i ffynnu lle maent yn byw ac yn gweithio.

Roedd Ei Mawrhydi Y Frenhines yn noddwr Ymddiriedolaeth Natur Norfolk hefyd. 

Her Majesty The Queen on a 1976 visit to Norfolk Wildlife Trust

Her Majesty The Queen on a 1976 visit to Norfolk Wildlife Trust

Dywedodd Peta Foxall, cadeirydd yr Ymddiriedolaethau Natur:

“Bydd Ei Mawrhydi yn cael ei chofio’n annwyl fel un a wasanaethodd y wlad hon a’i phobl. Roedd ganddi angerdd dros gefn gwlad a bywyd gwledig Prydain, ac roedd yn mwynhau ymweld â chymunedau a llefydd gwyllt dros ddegawdau lawer.

“Rydym yn falch o fod wedi creu myrdd o ddolydd blodau gwyllt newydd er anrhydedd iddi wrth ddathlu 60 mlynedd ers ei Choroni – ymdrech tîm enfawr a ddechreuwyd gan lawer o Ymddiriedolaethau Natur bron i ddegawd yn ôl.

“Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn falch o fod wedi cychwyn ar brosiect arall yn ddiweddar – Natur Drws Nesaf – er anrhydedd i’r Frenhines eleni. Bydd y cynllun gwych yma’n grymuso cannoedd o gymunedau ledled y DU i ddewis sut maen nhw eisiau gwella eu cymdogaethau ar gyfer pobl a byd natur.”

“Bydd pobl yn gallu ymhyfrydu yn y dolydd a’r cymdogaethau gwyrddach yma am genedlaethau i ddod – mae llefydd o’r fath yn deyrngedau byw ysbrydoledig ac yn rhan o waddol priodol am y blynyddoedd lawer o wasanaeth a roddwyd gan Ei Mawrhydi Y Frenhines.”

Ychwanegodd Craig Bennett, prif weithredwr Yr Ymddiriedolaethau Natur: 

“Mae ein meddyliau a’n cydymdeimladau hefo’n Noddwr, Ei Fawrhydi, Brenin Charles 111, a’i deulu, ar y foment drist ac anodd hyn.  Fe oedd y Frenhines yn ddynes hynod nodedig roedd wedi ymroddi ei bywyd i ein gwlad a’i phobl.  Gallwn i gyd ddysgu o’i dyletswyddau a’i dycnwch, ac fe fydd hi’n golled mawr.”