Maelgwn Nectar Bar

Cinnabar caterpillars on ragwort

Cinnabar caterpillars on ragwort © Mike Mosey

Bar Neithdar Maelgwn

Cydweithio i ddod â natur yn ôl

Ein 'bar' newydd ni yng Nghyffordd Llandudno yn llwyddiant ysgubol!

Mewn partneriaeth â chymdeithas tai Cartrefi Conwy,

lansiwyd Prosiect Bar Neithdar Maelgwn ym mis Hydref 2022. Dan arweiniad tîm bychan o wirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth o’n cangen leol ni yn Nyffryn Conwy, mae’r darn yma o dir oedd yn cael ei esgeuluso sy’n ffinio â Victoria Drive, stryd breswyl brysur wrth ymyl hen safle Ysgol Maelgwn yng Nghyffordd Llandudno, wedi cael ei glirio o lystyfiant a sbwriel diangen. Gwahoddwyd grwpiau cymunedol lleol, trigolion o bob oed, cynghorwyr, ffrindiau a chymdogion i ddod draw a chymryd rhan, gan annog ymdeimlad o berchnogaeth a dealltwriaeth o'r hyn roedden ni’n anelu at ei gyflawni. Cafodd ei blannu a’i hadu gyda rhywogaethau a fydd yn darparu bwyd a lloches i löynnod byw a bywyd gwyllt arall ac i edrych yn apelgar i drigolion lleol hefyd.

Coch, melyn, porffor ... o fewn y flwyddyn gyntaf rydyn ni wedi gweld amrywiaeth liwgar o babïau, melyn Mair, dant y llew a llin y llyffant, i enwi dim ond rhai. Daeth gwyfynod teigr y benfelen o hyd i’r creulys ac roedd eu lindys streipiog yn profi pa mor gyflym y bydd natur yn symud i mewn pan gaiff gyfle. Ychydig iawn o waith cynnal a chadw sydd wedi bod ei angen ar y border natur-gyfeillgar yma ac nid yw wedi costio dim (mae’r holl hadau a’r planhigion wedi cael eu cyfrannu’n garedig gan wirfoddolwyr, ffrindiau a chymdogion). Fe all ychydig o amser, ymdrech a brwdfrydedd gyflawni llawer!

Bydd y grŵp yn parhau i wella’r bar neithdar, gan ddod â’r gymuned leol yn nes at natur a’i wneud yn lle i bawb ei fwynhau. Allech chi wneud rhywbeth tebyg yn eich cymdogaeth chi? Fe allwn ni i gyd wneud rhywbeth i ddarparu ar gyfer bywyd gwyllt lleol felly beth am ddechrau heddiw gydag un o'r syniadau ar ein gwefan ni.

Mae llawer o bobl leol yn cerdded y llwybr yma ac mae’n gyfle i’w wneud yn fwy deniadol iddyn nhw ac i fywyd gwyllt lleol
Mike Mosey, gwirfoddolwr
cartrefi conwy logo