Anifeiliaid Morol wedi Traethu

Harbour Porpoise

Harbour Porpoise © Niki Clear

Anifeiliaid Morol wedi Traethu

Anifeiliaid Morol wedi Traethu

Rydyn ni’n ffodus o allu gweld llamhidyddion, dolffiniaid, morfilod, siarcod a hyd yn oed crwbanod môr cefn-lledr yn nyfroedd Cymru. Weithiau, er hynny, maen nhw’n cael eu golchi ar y lan ar draethau Cymru. 

Gall dod o hyd i anifail wedi golchi i’r lan fod yn brofiad gofidus. Os yw'n fyw, efallai mai eich greddf gyntaf yw ceisio ei helpu yn ôl i'r dŵr. Ni ddylech geisio gwneud hyn byth - mae wedi crwydro am reswm ac angen sylw meddygol proffesiynol ar frys. Peidiwch â cheisio delio ag anifail sydd wedi dod i’r lan ar eich pen eich hun - gofynnwch am help bob amser. 

Os yw'r anifail yn fyw neu'n farw, cadwch eich pellter, a chadwch bobl eraill, cŵn a gwylanod draw os yw hynny’n bosib. Os yw'n fyw, cofiwch bod y rhain yn anifeiliaid gwyllt, felly gall cyswllt â phobl neu fod yn agos at bobl ychwanegu straen at sefyllfa sydd eisoes yn peri gofid, ac rydych chi hefyd yn rhoi eich hun mewn perygl o gael anaf os bydd yr anifail yn ysgwyd aelod o’i gorff neu'n ceisio symud. Gall cyswllt uniongyrchol drosglwyddo clefydau hefyd, os yw'r anifail yn fyw ai peidio. 

Nodwch eich lleoliad, cyflwr y llanw, ac unrhyw anafiadau amlwg y gallwch eu gweld a chysylltu â'r sefydliad perthnasol cyn gynted â phosib. Bydd y canllaw isod yn eich helpu i wybod gyda phwy i gysylltu os byddwch yn dod ar draws anifail sydd wedi dod i’r lan.   

 

Canllaw adnabod handi gan y Cetacean Strandings Investigation Programme

Morloi Byw

Rhowch ychydig o amser i edrych yn fanwl ar yr anifail  

Ydych chi'n siŵr bod yr anifail mewn trafferth? Mae morloi iach yn dod allan o'r dŵr yn rheolaidd i orffwys ac mae morloi bach (morloi gyda chôt wen a blew hir yn yr hydref / gaeaf, neu lai na 3 troedfedd o hyd yn yr haf) yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain yn aml am gyfnodau byr. Y peth gorau i'w wneud yw cadw llygad o bell. 

Os yw'r anifail yn amlwg yn sâl, yn dioddef o ddiffyg maeth (asennau i’w gweld yn glir) neu'n ymddangos fel morlo bach wedi’i adael yn amddifad, cysylltwch â: 

British Divers Marine Life Rescue (www.bdmlr.org.uk) ar 01825 765546 neu 07787 433412 (tu allan i oriau); neu’r RSPCA ar 0300 123 4999 

...am gyngor a chymorth. Ar ôl i chi ffonio am help, cadwch lygad o bellter diogel a cheisio cadw pobl eraill a chŵn draw.        

Peidiwch â mynd yn rhy agos - gall morloi frathu’n gas.  

Llamidyddion, dolffiniaid, morfilod, siarcod neu crwbanod byw

Short-beaked common dolphins

Chris Gomersall/2020 VISION

Ffoniwch am help ar unwaith.    

British Divers Marine Life Rescue (www.bdmlr.org.uk) ar 01825 765546 or 07787 433412 (tu allan i oriau); neu’r RSPCA ar 0300 123 4999 

... byddant yn eich cynghori ynghylch beth i'w wneud nesaf. Peidiwch byth â llusgo'r anifail na cheisio ei ddychwelyd i'r môr, a chadwch gŵn a thorfeydd draw gystal ag y gallwch chi, a cheisio cyfyngu ar y straen i'r anifail, gwneud cyn lleied o sŵn â phosib a pheidio â gwneud symudiadau sydyn. Cadwch draw o'r gynffon - mae'n bwerus iawn. 

Cadwch eich hun yn ddiogel – rhaid gwybod beth mae’r llanw’n ei wneud!  

Llamidyddion, dolffiniaid, morfilod, siarcod neu crwbanod wedi marw

dead Risso's dolphin - Ben Stammers

dead Risso's dolphin - Ben Stammers

Rhoi gwybod am yr hyn rydych yn ei ddarganfod  

Gall anifeiliaid marw sy’n dod i’r lan ein helpu ni i ddysgu am ddeiet, iechyd a chlefydau anifeiliaid y môr, effeithiau llygredd a sgil-ddalfa, dosbarthiad, a’r bygythiadau penodol maent yn eu hwynebu. Dylech osgoi cyffwrdd â'r anifail a gwnewch yn siŵr bob amser eich bod yn golchi eich dwylo os bydd unrhyw gyswllt yn cael ei wneud; gall anifeiliaid morol marw, fel unrhyw anifail arall, gario clefyd neu haint. 

Cysylltwch â Rhaglen Ymchwilio i Forfilod Sy’n Golchi i’r Lan y DU ar 0800 652 0333. Bydd hyn yn helpu i roi darlun cywir o fywyd morol yn y DU, yn ogystal â gwybodaeth werthfawr am achosion marwolaeth.