Resources for primary schools

Central to the picture is a young boy holding a yellow leaf and laughing. Around him are about 10 other children, some with their own leaves, all are wearing high vis yellow vests and outdoor clothing. Behind them and front left are the adults accompanying them and the group leader. In the background there are some large evergreen trees, and the ground is entirely covered in fallen autumn leaves.

Helena Dolby, Sheffield & Rotherham Wildlife Trust

Ysgolion ac Addysg

Adnoddau ar gyfer ysgolion cynradd

TYNNU'R STRAEN ODDI AR GYNLLUNIO GWERSI

Mynediad at adnoddau am ddim i athrawon ysgolion cynradd.
Gyda'r Pedwar Diben mewn golwg, rydym ni’n gweithio gydag athrawon i ddatblygu cynnwys y gellir ei ddefnyddio ar gyfer disgyblion yng Nghyfnodau Allweddol gwahanol eich ysgol, gan ddefnyddio natur a bywyd gwyllt fel thema. 
Edrychwch ar y llyfrgell adnoddau isod, byddwn yn ychwanegu ato yn rheolaidd.

Archwiliwch y llyfrgell

COFRESTRWCH AR GYFER EIN CYLCHLYTHYR CHWARTEROL A DERBYN CYLCHGRONAU RHAD AC AM DDIM

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr ysgolion i gael gwybod pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu YN OGYSTAL Â HYNNY byddwn yn anfon copïau RHAD AC AM DDIM* o'n cylchgronau Gwylio Natur a Gwyllt gwych a chynigion arbennig i ysgolion a nwyddau natur eraill! 

(*Sylwch mai dim ond un copi y gallwn ei anfon o bob rhifyn fesul ysgol – os bydd mwy nag un aelod o staff yn cofrestru, byddwn mewn cysylltiad i ofyn at bwy i’w anfon.  Dim ond ysgolion yng Ngogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam) all gofrestru ar gyfer y cynnig hwn.)

Pages from Wildlife Watch and Gwyllt magazines
Ni fyddwn yn rhannu eich manylion a gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg, yn unol â'n Polisi Preifatrwydd.
* indicates required
Newsletter language / Iaith o'r cylchlythr
Please choose one / Dewisiwch un os.g.y.dd

I GAEL HYD YN OED MWY O WEITHGAREDDAU, EWCH I'N GWEFAN GWYLLT / WILDLIFE WATCH

Mae gwefan dwyieithog Gwyllt / Wildlife Watch yr Ymddiriedolaethau Natur yma i blant (ac oedolion!) sy’n methu cael digon ar archwilio’r awyr agored a’r rhai sydd eisiau dod i wybod mwy am y creaduriaid rhyfedd a rhyfeddol rydyn ni’n rhannu ein byd â nhw.  Gallwch ddod o hyd i ffeithiau hwyl; cwisiau ar-lein; a llwyth o weithgareddau ac adnoddau i'w lawrlwytho – i gyd am ddim!

Mwy o wybodaeth

PPL logo

Cynhyrchwyd ein adnoddau ar gyfer ysgolion diolch i gefnogaeth chwaraewyr Loteri y Côd Post.