Event details
Ynglŷn â'r digwyddiad
Bwriadir Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru adfer natur ar 450 acer o dir ger Clynnog Fawr yn Bryn Ifan er bydd pobl a bywyd gwyllt. Fel rhan o’r broses yma rhaid deall beth sydd yno.
Pam ddim ymuno â ni am y diwrnod a’n helpu ni gyfri faint y gallwn ni? Yn ymuno â ni fydd y darlledwr bywyd gwyllt, yr awdur, a’r adarwr Iolo Williams hefyd y ganolfan gofnodi amgylcheddol leol, Cofnod.
Beth allwn weld yno?
Ar y foment rydym angen gwybodaeth am y bywyd gwyllt sydd yn defnyddio’r tir. Ein blaenoriaeth yw darganfod mwy. Yr ardal rydym yn gwybod fwyaf am dani yw Cors y Wlad sydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn ei mysg medrwch ddarganfod britheg y gors, y gwalch-wyfyn gwenynaidd ymyl gul, y troellwr bach, a nifer eang o blanhigion tir corsiog. Rydym yn gwybod fod yr ehedydd a chorhedydd y waun yn bridio yn ardaloedd yr ucheldir. Yr ardal rydym yn gwybod y lleiaf am dani yw’r iseldir ond rydym yn gwybod fod yr ysgyfarnog, y dyfrgi a’r dylluan wen yw darganfod yno.
AMSERLEN
Cyrraedd cyn 10am
10-10.30 Lluniaeth a chyflwyniad
10.30-11.30 Taith Gerdded a chofnodi gyda Iolo Williams
11.30-12.30 Agor y Trapiau Gwyfynod
12.30-13.30 Cinio
13.30-14.30 Taith Gerdded a chofnodi gyda Iolo Williams
14.30-16.00 Cofnodi Cyffredinol a Tacluso’r diwrnod.
Booking
Rhif ffôn
01248351541Pris / rhodd
Am ddimPeidiwch a chofrestru os nad ydych yn bwriadu dod, os gwelwch yn dda.