Gaeafgysgu – strategaeth i fywyd gwyllt oroesi’r gaeaf

Gaeafgysgu – strategaeth i fywyd gwyllt oroesi’r gaeaf

Mae rheolwr ymgyrchu gan ieuenctid yr Ymddiriedolaethau Natur, Arran Wilson, yn defnyddio ei gefndir fel darlithydd mewn sŵoleg i edrych ar beth yn union yw gaeafgysgu, a pha anifeiliaid sy’n dibynnu arno i ddod drwy’r gaeaf.

Mae’r gaeaf yn dod â heriau gwahanol iawn i fywyd gwyllt y DU – mae’r tymheredd yn is ac mae’n anoddach dod o hyd i fwyd yn aml. Efallai y bydd llawer ohonoch chi’n meddwl tybed beth sy'n digwydd i anifeiliaid gwyllt pan fydd y dyddiau'n byrhau a'r tywydd yn galetach. Mae llawer o wahanol ffyrdd y mae anifeiliaid yn y DU yn ymdopi â’n gaeafau oer, caled. Bydd rhai, fel gwenoliaid a gwenoliaid duon, yn mudo i'r de i Affrica, gan chwilio am hinsoddau poethach ar gyfer misoedd y gaeaf. Bydd eraill, fel llwynogod a moch daear, yn tyfu blew mwy trwchus (yn union fel llawer o fridiau o gŵn domestig) i helpu i'w cadw'n gynnes.

Ac mae rhai, wrth gwrs, yn gaeafgysgu! Rydyn ni’n aml yn meddwl am aeafgysgu fel y prif ateb – pa mor wych fyddai bwyta cymaint â phosibl ac wedyn dim ond cysgu nes ei bod yn gynnes eto? Mewn gwirionedd, mae gaeafgysgu yn llawer mwy na chwsg hir, trwm mewn twll neu ogof dawel. Dim ond tri mamal yn y DU sy'n gaeafgysgu go iawn; ystlumod, pathewod a draenogod, ac mae’r broses ychydig yn gymhlethach nag y byddech chi’n meddwl.

Close-up image of a hazel dormouse asleep in its nest.

Hazel dormouse © Terry Whittaker/2020VISION

Beth yw gaeafgysgu?

Mae gaeafgysgu yn gyfnod estynedig o anweithgarwch sy’n galluogi anifeiliaid i oroesi pan mae bwyd yn brin a’r tywydd yn arw. Yn nodweddiadol, bydd yr anifail yn creu cronfa o fraster ar ei gorff i ddechrau, drwy fwyta cymaint â phosibl yn ystod y cyfnod cyn y gaeaf. Wedyn bydd yn cilio i rywle diogel, lle bydd yn mynd i gyflwr cysglyd. Bydd bron pob un o weithredoedd corfforol yr anifail naill ai’n cael eu hatal yn llwyr neu’n cael eu harafu’n sylweddol. Mae hyn yn lleihau faint o egni y mae'n rhaid i gorff yr anifail ei losgi i oroesi. Bydd tymheredd ei gorff yn oeri, a bydd ei anadl a chyfradd curiad y galon yn arafu.

Byddai'n eithaf hawdd tybio bod anifail sy'n gaeafgysgu wedi marw pe baech chi'n dod o hyd i un! Byddai'n rhyfeddol o lonydd, ei anadl yn fas ac yn afreolaidd, a byddai’n oer i'w gyffwrdd. Er y gall cyflwr cysglyd mor ddwfn ymddangos fel pe bai’n ei adael yn agored i niwed, mewn gwirionedd, mae'n gwneud yr anifail yn anodd iawn i ysglyfaethwyr ei ganfod gan ei fod yn rhyddhau llai o arogl, prin yn symud, ac nid yw’n gwneud unrhyw sŵn wrth aeafgysgu.

Mae gaeafgysgu’n wahanol i gwsg arferol pan ddaw'n amser deffro hefyd. Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor anodd y gall fod i godi o’r gwely ar foreau oer y gaeaf, ond mae anifeiliaid sy’n gaeafgysgu yn cymryd hyd at awr yn aml i ddeffro’n llwyr o’u cyflwr cysglyd. Gall anifeiliaid ddeffro sawl gwaith yn ystod y cyfnod gaeafgysgu i ysgarthu gwastraff, symud lleoliad neu, yn achlysurol, i gael byrbryd bach.

Bydd draenogod, ystlumod a phathewod yn y DU yn gwybod ei bod hi’n amser dechrau gaeafgysgu yn seiliedig ar dri ffactor: argaeledd bwyd, hyd y dydd, a’r tymheredd. Mae newid hinsawdd, felly, yn risg enfawr i anifeiliaid sy’n gaeafgysgu. Gall tywydd anarferol o gynnes achosi i aeafgysgwyr fynd ati i aeafgysgu yn hwyrach neu ddeffro'n rhy gynnar, pan fydd eu cyflenwadau o fraster yn brin ond efallai na fydd digon o fwyd ar gael o hyd i'w hailsefydlu eto.

A hedgehog snuffling around in the leaf litter

Hedgehog © Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Gwahanol fathau o anweithgarwch

Os mai dim ond ystlumod, draenogod a phathewod sy’n gaeafgysgu yn y DU, beth am yr holl anifeiliaid eraill sy’n diflannu dros y gaeaf? Mae'n ymddangos bod ymlusgiaid, amffibiaid a llawer o bryfed i gyd yn diflannu wrth i'r tywydd oeri. Er nad ydynt yn gaeafgysgu go iawn, maent yn dibynnu ar wahanol fathau o anweithgarwch i'w cynnal tan y gwanwyn.

Syrthni

Cyfeirir ato weithiau fel cysgadrwydd, ac mae syrthni’n gyfnod o amser pan fo anifail yn llai gweithredol ac mae ganddo gyfradd fetabolig a thymheredd corff is. Mae gaeafgysgu, yn ei hanfod, yn gyflwr cysglyd estynedig. Nid yw moch daear a gwiwerod coch yn gaeafgysgu, ond maent yn mynd i mewn i gyflwr o syrthni. Yn wahanol i aeafgysgu, mae syrthni’n anwirfoddol, a dim ond pan fydd yr amodau amgylcheddol yn mynd yn rhy llym y mae anifeiliaid yn mynd i mewn iddo. Nid yw’n para cyhyd â gaeafgysgu a gall anifeiliaid fynd i mewn ac allan o’r syrthni yn haws na gaeafgysgu go iawn.

A red squirrel sitting by a woodland pool, nibbling a nut

Red squirrel © Mark Hamblin/2020VISION

Gaeaflonyddu

Mae gaeaflonyddu yn gyfnod o gysgadrwydd a arddangosir gan ymlusgiaid ac amffibiaid yn ystod y misoedd oerach. Mae'n debyg iawn i aeafgysgu gan ei fod yn cael ei nodweddu gan gyfnodau estynedig o ychydig iawn o weithgarwch i arbed ynni. Mae ymlusgiaid yn ectothermig, sy'n golygu bod tymheredd eu corff yn dibynnu ar eu hamgylchedd. Wrth iddi oeri, bydd ymlusgiaid yn mynd yn fwy swrth ac yn llai abl i hela, felly gaeaflonyddu yw'r ffordd orau iddynt arbed ynni.

Adder

Adder © Jamie Hall

Saib

Mae saib ychydig yn wahanol i aeafgysgu, syrthni a gaeaflonyddu. Mae’n cyfeirio at darfu ar ddatblygiad pryf fel ymateb i bwysau amgylcheddol. Yn y bôn, mae fel taro’r botwm saib ar eu cylch bywyd – dydyn nhw ddim yn ‘heneiddio’. Ar gyfer pryfed, gall hyn ddigwydd mewn embryonau, larfâu, chwilerod, neu oedolion. Mae saib yn fuddiol iawn ar gyfer helpu pryfed i gydamseru eu cylch bywyd ag amodau tywydd da, gan gynyddu eu siawns o oroesi.

Three herald moths clinging to a cave wall, where they'll spend the winter

Herald moths wintering in a cave © Iain H Leach

Hafgwsg

Mae hafgwsg yn fath arall o gysgadrwydd, er bod hyn yn digwydd pan fydd hi'n rhy boeth a sych, felly mae'n fwy tebygol o gael ei weld yn yr haf na'r gaeaf. Mae'n addasiad i helpu i atal anifail rhag sychu ac mae'n fwyaf cyffredin mewn infertebrata a physgod. Yn debyg i aeafgysgu, mae hafgwsg yn golygu arafu gweithgarwch metabolig anifail. Fodd bynnag, yn wahanol i aeafgysgu, gall anifeiliaid ddod allan o hafgwsg yn gymharol gyflym pan fydd y tymheredd yn gostwng neu pan ddaw'n wlypach.