Carlymoliaid cyfareddol

Carlymoliaid cyfareddol

Badger © Andrew Parkinson2020VISION

Mae’r arbenigwr mamaliaid, Stuart Edmunds, yn cyflwyno’r casgliad anhygoel yma o gigysyddion.

The Wildlife Trusts

Beth yw carlymoliad?

Mae'n debyg nad yw carlymoliad yn air y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei ddefnyddio'n aml iawn. Mae pawb wedi clywed am garlymod a bronwennod, ond efallai nad ydych chi’n ymwybodol bod yr anifeiliaid cigysol hyn yn perthyn i grŵp o famaliaid o’r enw carlymoliaid. Mae'r mochyn daear, y ffwlbart, y bele a'r dyfrgi yn aelodau eraill o deulu'r carlymoliaid. Yn ymuno â nhw mae'r minc Americanaidd, sy'n famal anfrodorol sydd wedi sefydlu ei hun ym Mhrydain, ac ambell ffured ddof sydd wedi dianc.

Ac eithrio moch daear, mae ein carlymoliaid yn anifeiliaid nodweddiadol o hir a thenau gyda dannedd hynod finiog a llygaid duon. Maent yn rhannu nodweddion cymeriad tebyg, gan eu bod yn fanteisgar ac yn hyblyg, gyda natur naturiol chwilfrydig. Bydd y rhan fwyaf yn gwneud eu gorau i osgoi cyswllt â bodau dynol oni bai fod hynny'n gwbl angenrheidiol, er maent i gyd yn gallu addasu pan fydd eu greddf i oroesi’n cael ei thanio.

Gall carlymoliaid llai ddatblygu enw drwg ymhlith pobl sy'n cadw dofednod. Nid dim ond i bobl mae pryd bwyd am ddim yn apelgar. Os byddant yn datblygu blas am adar caeth, mae'n hanfodol cael y gorau arnyn nhw. Ond o sicrhau gwell dealltwriaeth o’u hymddygiad a’u gallu, mae’n gwbl bosibl i ni gyd-fyw ochr yn ochr â’n hysglyfaethwyr brodorol… a thrwy eu gwylio yn ystod cyfarfyddiad ar hap, mae’n anodd iawn peidio â’u hedmygu oherwydd eu bod yn gymeriadau penderfynol, clyfar.

Cyfarfod y Carlymoliaid

Mochyn Daear

Carlymoliad mwyaf digamsyniol Prydain! Yn fyrdew o ran corffolaeth a gyda ffwr llwyd a gwyn hir, trwyn hir a streipiau du ar draws eu llygaid, mae moch daear yn edrych yn wahanol iawn i'r carlymoliaid eraill. Maent yn eithaf mawr, yn mesur rhwng 60 ac 85 cm o hyd. Maent yn weithredol yn bennaf rhwng y gwyll a’r wawr ac yn mynd i dir agored fel rheol i ddod o hyd i bryfed genwair a lindys mewn caeau a dolydd. Mae grwpiau o foch daear yn defnyddio’r un llwybrau am flynyddoedd lawer, am genedlaethau lawer weithiau, felly mae siawns dda o weld un drwy sganio ar hyd ymylon coetir yn y gwyll os oes daear gerllaw. Mae ymylon ffyrdd hefyd yn diroedd chwilio am fwyd defnyddiol i foch daear, felly gyrrwch yn araf a chadwch lygad amdanynt wrth yrru yn y nos.

Bronwen

Dim ond tua 20 cm o hyd yw ein carlymoliad lleiaf ar gyfartaledd ac felly mae’n anodd ei weld. Mae gan fronwennod gefn, ochr ac wyneb brown lliw cnau castan, ac maent yn wyn oddi tanodd. Mae ganddynt hefyd gynffon frown syth, fer, lliw cnau castan. Yn aml, dim ond yn annisgwyl y byddwch yn dod ar eu traws, pan fyddant yn picio allan o ddarn o laswellt tal neu wrych, a allai ddigwydd ar unrhyw adeg o'r dydd. Fel y carlwm, gall ffwr bronwennod newid lliw i wyn yn ystod gaeafau oerach. Mae hyn yn eu galluogi i ymdoddi i amgylchedd eira, gan eu gwneud yn llai agored i ysglyfaethu gan hebogau a thylluanod.

Carlwm

Yn hawdd eu camadnabod am fronwennod ar yr olwg gyntaf, mae carlymod yn llawer mwy mewn gwirionedd - 30 cm neu fwy o'r trwyn i'r gynffon. Er bod ganddynt yr un lliwiau â bronwennod, mae gan garlymod gynffon hirach, sydd â blaen “brwsh paent” du bob amser. Fel bronwennod, gall carlymod fod yn weithredol yn ystod y dydd, yn enwedig wrth hela cwningod a llygod pengrwn: maen nhw'n greaduriaid ffyrnig a byddant yn ceisio hela anifeiliaid sydd deirgwaith eu maint. Maent yn byw mewn amrywiaeth eang o gynefinoedd, o goetiroedd i rostiroedd, neu hyd yn oed wrychoedd. Ond, fel bronwennod, mae carlymod yn hoff iawn o ardaloedd gyda hen waliau cerrig a thwmpathau o greigiau, sy’n darparu cysgod da iddynt a’r ysglyfaeth sydd arnynt angen ei hela er mwyn goroesi.

Ffwlbart

Yn anffodus, cafodd ffwlbartiaid eu dileu o rannau helaeth o’r DU wrth iddynt gael enw drwg am fod yn fermin oherwydd eu harfer o ysbeilio cytiau ieir a ffermydd ffesantod. Mae ffwlbartiaid un maint yn fwy na charlymod, yn 35 i 50 cm o hyd ar gyfartaledd. Mae ganddynt ffwr brown tywyll gyda blew gwarchod goleuach (y blew manach yn erbyn y croen), ond eu nodwedd amlycaf yw eu mwgwd bandit - band tywyll ar draws eu llygaid. Yn ffodus, mae ein poblogaeth o ffwlbartiaid yn adfer. Mae ffwlbartiaid wedi ymledu i’r dwyrain o’u cadarnleoedd yng Nghymru a gellir eu gweld ar rostiroedd, ffermdir a hyd yn oed corsydd. O bryd i'w gilydd, byddant yn ymddangos mewn gerddi ar gyrion trefi hefyd, yn enwedig lle mae poblogaethau da o gnofilod bach.

Ffured ddof

Roedd ffuredau dof yn cael eu magu o ffwlbartiaid gwyllt i'w defnyddio i hela cwningod. Daethant yn anifeiliaid anwes cynyddol boblogaidd hefyd, yn bennaf oherwydd eu harferion chwilfrydig a deallus. Ymledodd llawer o ffuredau dof wnaeth ddianc ar draws cefn gwlad Lloegr yn ystod hanner olaf yr 20fed ganrif, a thybiwyd mai ffuredau gwyllt oedd y rhan fwyaf o’r ffwlbartiaid a gofnodwyd mewn gwirionedd. Mae'r ffuredau wedi'u dadleoli bellach gan y ffwlbart gwyllt ychydig yn fwy a thywyllach yn y rhan fwyaf o ardaloedd gorllewinol Lloegr.

Bele

Yn feistr ar ddringo coed, roedd y bele, fel carlymoliaid eraill, yn cael ei erlid ar un adeg hyd at ddifodiant yng Nghymru a Lloegr. Fe ddaliodd poblogaeth ei thir yng nghoedwigoedd Caledonian canolbarth yr Alban ac mae wedi lledu'n araf i rannau eraill o'r wlad. Mae’r bele wedi bod yn destun prosiectau trawsleoli, gyda niferoedd bach yn cael eu rhyddhau’n swyddogol yng ngorllewin Cymru a Fforest Dean, ond mae poblogaethau bychain eraill wedi’u darganfod hefyd mewn rhannau eraill o Loegr, gan gynnwys Swydd Hamp a Swydd Amwythig. Mae’r bele tua'r un hyd â chath ddof gyffredin, mae ganddo ffwr brown siocled, clustiau pigfain a chynffon hir flewog. Mae ganddo hefyd ddarn lliw hufen ar ei frest a'i wddw o’r enw bib. Maent yn weithredol yn bennaf yn y gwyll a hyd y wawr. Mae’n haws gweld y bele yn ystod misoedd yr haf, pan fydd yn dod yn fwy gweithredol yn ystod oriau golau dydd gan fentro i lawr o goed a mannau cuddio eraill i oruchwylio ei diriogaethau a hela am bryd o fwyd.

Dyfrgi

Mae dyfrgwn yn fwy nag y byddech yn ei feddwl, yn tyfu hyd at fetr o hyd o'u trwyn i flaen eu cynffon hir, bigfain. Maent wedi gwneud adferiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac maent bellach yn bresennol ym mhob sir yn y DU, sy'n drawsnewid nodedig i greadur a oedd yn agosáu at ddifodiant ledled Lloegr yn y 1970au. Mae angen llawer iawn o gynefinoedd glannau afonydd (afonydd a nentydd) ar ddyfrgwn, a rhaid iddynt gael digon o lefydd diogel i orffwys, magu eu rhai bach, a dod o hyd i bysgod, amffibiaid, mamaliaid bychain ac adar i

fwydo arnynt. Fel y carlymoliaid brodorol eraill, nid yw dyfrgwn yn hawdd eu gweld bob amser – oni bai eich bod yn ddigon ffodus i dreulio amser ar lynnoedd môr Arfordir Gorllewinol yr Alban, lle maent i’w gweld yn rheolaidd yn bwydo mewn gwelyau gwymon yn ystod y dydd. Ond ymhellach i’r de, maent i’w gweld yn amlach ar afonydd mewn ardaloedd rhyfeddol o drefol, yn enwedig o amgylch coredau bychain, sy’n diroedd hela ardderchog. Yn achlysurol, mae dyfrgwn yn mentro i byllau gardd lle mae pysgod addurnol yn cael eu cadw, sydd bellter hir yn aml o afonydd a dyfrffyrdd eraill.

Minc Americanaidd

Mae’r carlymoliad ymledol hwn yn bresennol ar afonydd ar draws llawer o’r DU ar ôl i lawer ddianc, neu gael eu rhyddhau, o ffermydd ffwr yn y 1960au a’r 1970au. Yn llawer llai na dyfrgi ac yn nes at faint ffwlbart, mae gan finc ffwr brown tywyll i ddu, clustiau bychain a chynffon ddu, lipa (yn wahanol i gynffon dyfrgi, sydd bob amser yn bigfain iawn). Yn weithredol yn ystod y dydd a'r nos, gallant ymddangos yn unrhyw le, ond mae'n arferol eu gweld yn archwilio camlesi a nentydd bychain. Gall mincod gael effaith ddinistriol ar fywyd gwyllt lleol yn y mannau lle maent yn sefydlu, a chyfrannu at leihau niferoedd adar yr afon fel glas y dorlan a mamaliaid bychain fel llygod pengrwn y dŵr. Mae ymdrechion cenedlaethol yn cael eu gwneud yn rheolaidd i reoli niferoedd y mincod, ond maent yn famaliaid deallus a hyblyg iawn, felly mae'n debygol eu bod yma i aros.

Mwynhau carlymoliaid yn gyfrifol

Mae moch daear a'u daear yn cael eu gwarchod, felly dylid cymryd gofal bob amser i osgoi tarfu ar ddaear mochyn daear. Mae ffwlbartiaid, y bele a dyfrgwn a’u gwalau wedi’u gwarchod hefyd o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, sy’n golygu ei bod yn drosedd tarfu arnynt oni bai fod trwydded wedi’i rhoi o dan amgylchiadau arbennig.