Bil Amaeth (Cymru)

farmland

© Ross Hoddinott 2020VISION

Bil Amaeth (Cymru)

Bil Amaethyddiaeth sy’n gwarchod natur ...

Cyfle unwaith mewn oes

Oeddech chi’n gwybod bod bron i 90% o dir Cymru yn dir amaethyddol? Felly, mae’n hollbwysig bod ffermwyr yn cael eu cefnogi i reoli tir mewn ffordd sy’n helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Fodd bynnag, mae Cymru wedi colli llawer o’i natur, a rŵan mae 1 o bob 6 rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu. Mae hyn yn rhannol oherwydd ffermio dwys, ond fel y gwyddom i gyd mae llawer o ffermwyr eisoes yn helpu natur a byddai mwy yn gwneud hynny pe bai’r cymhellion cywir yn eu lle.

Fe allwn fod yn ddiolchgar, efallai bod hynny i gyd yn mynd i newid! Mae Llywodraeth Cymru yn newid y ffordd y caiff ffermio ei ariannu ledled Cymru drwy ddarn newydd o gyfraith o’r enw Bil Amaeth (Cymru) 2022. Os caiff Bil cryf ei basio, yna bydd ffermwyr yn cael eu talu am ‘nwyddau cyhoeddus;’ sydd o fudd i bawb ac nid dim ond y tirfeddiannwr. Gallai hyn fod yn storio mwy o garbon mewn mawnogydd trwy eu gwneud yn wlyb eto, plannu mwy o goed, neu greu gwlypdiroedd i helpu i atal llifogydd. Bydd y Bil yn galluogi cymorthdaliadau fferm newydd y byddwch chi, trethdalwr Cymru, yn talu amdanynt. Mae hyn yn bwysig gan fod ffermio yn hollbwysig i lawer o gymunedau gwledig ac yn arbennig o bwysig i ddiwylliant ac iaith Gymraeg.

Sut alla i helpu?

Er mwyn gwneud i hyn i gyd ddigwydd, mae angen eich help arnom ni. Mae ffermio wedi’i ddatganoledig felly mae penderfyniadau am ffermio yn cael eu gwneud yng Nghaerdydd yn y Senedd. Rydym yn gofyn i chi ysgrifennu at eich Aelod o’r Senedd (AS) i ofyn am Fil sy’n gryf dros natur ac yn deg i’n ffermwyr am genedlaethau i ddod. Bil a fydd yn rhoi natur yn gyntaf ac yn cydnabod ffermwyr fel stiwardiaid hanfodol y tir y maent. Rydym yn gofyn am gymorth i ffermwyr gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, i greu cartrefi i fywyd gwyllt a rheoli tir i storio carbon. Rydyn ni eisiau gweld ffermydd yn gwneud eu gorau dros hinsawdd a bywyd gwyllt, ledled Cymru!

Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru mewn partneriaeth â'r RSPB, Coed Cadw, a WWF yn gweithio gyda'i gilydd i wneud yn siŵr bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu siarad â'u AS. Bydd eich gweithred ar lein yn sicrhau y bydd y Bil yn:

  • Adfer a chynnal bywyd gwyllt ffermdir a’r amgylchedd.
  • Lleihau’n sylweddol yr allyriadau niweidiol sy’n cyfrannu at newid hinsawdd.
  • Rhoi’r gorau i ddefnyddio bwyd anifeiliaid wedi’i fewnforio sy’n gysylltiedig â dinistrio byd natur mewn gwledydd tramor.
  • Datblygu cyfleoedd i arallgyfeirio cynhyrchu bwyd ar gyfer marchnadoedd lleol.
  • Cefnogi cyfleoedd ar gyfer perchnogaeth gymunedol, pobl newydd yn dechrau ffermio, mynediad gwell i’r cyhoedd a chymryd rhan mewn penderfyniadau ynghylch defnydd tir.
Gyda’ch cymorth chi gallwn wneud yn siŵr bod y Bil Amaethyddol newydd yn cefnogi ffermwyr i wneud y peth iawn a chymryd camau i fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd. Dyma gyfle unwaith mewn oes i adfer natur ar dir fferm ledled Cymru, felly mae angen i ni wneud yn siŵr nad yw’r cyfle hwn yn cael ei wastraffu!
Tim Birch, Ymddiriedolaethau Natur Cymru