Helpu i warchod un o raeadrau mwyaf eiconig Eryri

Afon Cynfal, Eryri

Afon Cynfal, Eryri © Rory Francis

Rydym yn helpu i warchod un o raeadrau mwyaf eiconig Eryri

DIWEDDARIAD AM YR YMGYRCH: Cefnogwch yr ymgyrch hon drwy gyfrannu

Mae cynnig datblygu ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn bygwth bywyd gwyllt prin mewn SoDdGA.

Mae cais cynllunio wedi cael ei gyflwyno i godi argae ar Afon Cynfal ger Llan Ffestiniog, fel rhan o gynllun trydan dŵr. Bydd yr argae hwn yn dargyfeirio hyd at 70% o’r dŵr o Raeadr y Cwm, y rhaeadr eiconig yng Nghwm Cynfal, ac mae’r newid mewn hydroleg a fyddai’n digwydd yn fygythiad difrifol i’r mwsoglau a’r cwpanllysiau prin sy’n nodweddion yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Afon Cynfal. Fel rhan o gynllun tebyg ar Afon Cwm Llechen, dim ond 21 milltir i ffwrdd, gwelwyd dirywiad o hyd at 43% mewn pedair o bob pum rhywogaeth dros gyfnod o ddeng mlynedd. 

Er bod Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cefnogi ynni gwyrdd yn gyffredinol, mae’r risgiau y mae’r cynllun hwn yn eu creu i fywyd gwyllt yn anghymesur â’r swm bach o drydan y byddai’n ei gynhyrchu – dim ond 600kW, digon ar gyfer dim ond 60 cawod pŵer trydan! 

Dywed Adrian Lloyd Jones, Pennaeth Tirweddau Byw gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru: “O ystyried y swm bach o bŵer y byddai’r cynllyn pŵer trydan dŵr (HEP) arfaethedig yma’n ei gynhyrchu, a’r dirywiad mewn cymunedau o fryoffytau, gan gynnwys cornllysiau, cwpanllysiau a mwsoglau, a welwyd yn dilyn cynllyn HEP tebyg mewn mannau eraill yng Ngogledd Cymru, mae'r cynllun yma’n peri llawer gormod o risg i fywyd gwyllt Cwm Cynfal. Er ein bod ni’n cefnogi ynni gwyrdd, rhaid i bob datblygiad fod yn y lle iawn, ac mae’r cynnig yma, yn amlwg, yn y lle anghywir.” 

Newyddion ymgyrch

Hydref 2026: Roedd y gyngres yn siomedig bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ar 15 Gorffennaf 2026, wedi cyhoeddi hysbysiad i ddyfarnu caniatâd cynllunio ar gyfer y cynllun.
Ers hynny, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi diddymu'r caniatâd cynllunio gwreiddiol oherwydd bod rhaid rhoi sylw i bwynt cyfreithiol penodol o ganlyniad iddo gael ei godi gan y gyngres.
Mae'n debygol mai dim ond seibiant dros dro fydd hwn, felly rydym yn parhau i gefnogi Cymdeithas Eryri gyda'i pharatoadau ar gyfer Adolygiad Barnwrol a fyddai'n ystyried a yw'r gyfraith wedi'i dilyn yn gywir o ran y penderfyniad cynllunio hwn. Rydym hefyd yn cefnogi apêl i godi arian i dalu'r costau cyfreithiol cysylltiedig, sy'n cael eu hamcangyfrif fel mwy na £60,000.

Medi 2026: Rydyn ni’n cefnogi galwad gan Gymdeithas Eryri am Adolygiad Barnwrol mewn ymateb i ddyfarnu caniatâd cynllunio ar gyfer cynllun trydan dŵr ar Afon Cynfal, ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mwy o wybodaeth: https://www.northwaleswildlifetrust.org.uk/cy/news/maer-frwydr-yn-parhau-i-achub-un-o-raeadrau-mwyaf-eiconig-eryri

Ionawr 2026: www.northwaleswildlifetrust.org.uk/cy/news/maer-frwydr-ymlaen-i-achub-un-o-raeadrau-mwyaf-eiconig-eryri

Gwylio lluniau drôn o Gwm Cynfal yma