Ein stori ni...

1953 - dau fotanegydd lleol, R.H. Roberts, sef prifathro lleol, a W.S. (Bill) Lacey, Darlithydd yn yr Adran Fotaneg, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, yn cynnal arolygon ar lystyfiant yng Ngogledd Cymru. Dangosodd eu mapiau bwysigrwydd y corsydd yng Ngogledd Orllewin Cymru ac argymhellodd y ddau y dylai Cors Goch a Chors Geirch gael eu prynu fel gwarchodfeydd natur.

1962 – daeth 105 erw o Gors Goch ar y farchnad a chamodd y Gymdeithas ar gyfer Hybu Gwarchodfeydd Natur i’r adwy i wneud pryniant cadw nes bod modd sefydlu corff cadwriaethol lleol i brynu ac i reoli gwarchodfeydd natur.

1963 – cyfarfu 65 o bobl a phenderfynwyd sefydlu ‘Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gogledd Cymru’. Etholwyd Cyngor o 10 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus ar Hydref 26ain gyda’r Cyrnol J.C.Wynne Finch yn Gadeirydd a Dr. W.S. Lacey yn Ysgrifennydd Anrhydeddus.
1964 – Cynlluniwyd logo’r Ymddiriedolaeth gan C.F. Tunnicliffe ac roedd yn llun cain o afr wyllt.

1965 – roedd gan yr Ymddiriedolaeth 359 o aelodau a 3 gwarchodfa natur (42.5he Cors Goch, Ynys Môn 11.7he twyni Morfa Bychan ger Porthmadog a 4.05he Coed Cilygroeslwyd ar galchfaen yn Sir Ddinbych).

1970 – Yr aelod cyflogedig cyntaf o staff, swyddog gweinyddol yn gweithio ym Mangor. Blwyddyn Gadwraeth Ewropeaidd, derbyniodd yr Ymddiriedolaeth wobr Tywysog Cymru am lwybr natur ar Ynys Lawd.

1972 – Daeth Cangen Dolgellau o Ymddiriedolaeth Gorllewin Cymru yn rhan o’r Ymddiriedolaeth, gan ffurfio cnewyllyn Cangen Meirionnydd fel ag y mae hi heddiw.   

1974 – Daeth Mrs Joan Morgan yn Ysgrifennydd Anrhydeddus ac etholwyd Bill Lacey yn Gadeirydd, a dechreuwyd cynnal Grwpiau Gwylio a gweithgareddau cyffrous i blant.

1977 – Yr aelod cyntaf o’r staff cadwriaethol. Tasg gyntaf Doug Oliver oedd trefnu’r gwaith o adeiladu cored newydd yng Nghemlyn ar Ynys Môn i ddiogelu nythod y Morwenoliaid Pigddu, y Morwenoliaid Cyffredin, Morwenoliaid y Gogledd a’r Gwylanod Penddu. Torrodd llanw uchel ym mis Gorffennaf 1977 drwy’r gored gan ddinistrio’r rhan fwyaf o’r wyau a’r cywion, felly cwblhawyd y gwaith adeiladu dros y gaeaf ychydig cyn i’r adar gyrraedd yn ôl y tymor canlynol. Dyma’r boblogaeth bwysicaf yng Nghymru bellach o Forwenoliaid Pigddu. 

1982 – Daeth Cangen Sir Drefaldwyn, gyda dymuniadau da yr Ymddiriedolaeth, yn Ymddiriedolaeth Sir Drefaldwyn ar gyfer Cadwraeth Natur. Trosglwyddwyd 5 gwarchodfa natur i’r Ymddiriedolaeth newydd. 

1983 – Arolygodd tîm o 7 o wyddonwyr, a gyllidwyd gan Gomisiwn Gwasanaethau Manpower, fwy na 350 o safleoedd ar Ynys Môn ac roedd 100 ohonynt wedi’u dynodi’n Safleoedd Bywyd Gwyllt.

1988 – penodwyd ein haelod cyntaf o staff yng ngogledd ddwyrain Cymru, Joan Daniels, ac fe newidiwyd ein henw i ‘Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’ (YNGC). Prynwyd ein Gwarchodfa Natur fwyaf, Cors Maen Llwyd (480he), ardal o rostir grugog a chorgors i’r gogledd o Lyn Brenig yn Sir Ddinbych, sydd bellach yn un o’r safleoedd gorau yng Nghymru ar gyfer y Rugiar Goch. Yn ystod y 4 blynedd ganlynol, cododd y digwyddiadau ‘beicio dros fywyd gwyllt’ fwy na £12K mewn arian nawdd.

1989 – Sefydlwyd ein Cwmni Masnachu ac mae’n dal i gael ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr. Mae wedi arbrofi gyda 12 siop adwerthu ac mae’n llwyddiannus yn rhedeg siopau ar y Gogarth yn Llandudno ac ym Mharc Breakwater, Caergybi. Mae mwy na £250,000 wedi cael ei gyfamodi gan y cwmni i’r Ymddiriedolaeth.

1990 – Sefydlwyd Gwasanaethau Amgylcheddol Gogledd Cymru gan wirfoddolwyr er mwyn darparu gwasanaethau ecolegol o safon uchel am brisiau cystadleuol. Ers hynny, mae rheolwyr prosiect cyflogedig wedi cael eu penodi ac mae’r cwmni’n gweithredu fel Enfys Ecology Cyf. erbyn hyn ac yn cyfamodi ei holl elw i’r Ymddiriedolaeth.

1991 - cafodd ein Llywydd, yr Athro W.S. ‘Bill’ Lacey, Fedal Cadbury gan RSNC am ei wasanaethau i gadwraeth natur.

1993 – Dechreuodd Cyfarwyddwr cyntaf yr Ymddiriedolaeth, Morgan Parry, roi hwb i’n delwedd ni gydag ymddangosiadau rheolaidd yny Gymraeg ar y teledu a’r radio. Cryfhawyd ein cyswllt ni ag Ymddiriedolaethau eraill Cymru gyda lansiad Partneriaeth Ymddiriedolaethau Natur Cymru, gyda Dr. W.Eifion Jones, Cadeirydd YNGC, yn cadeirio Bwrdd yr Ymddiriedolwyr. 

1994 – Mabwysiadodd yr Ymddiriedolaeth bolisi dwyieithog llawn.

1995 – cafodd logo mochyn daear ei fabwysiadu ar gyfer yr Ymddiriedolaethau Natur a chafodd Cors Goch ei datgan yn Warchodfa Natur Genedlaethol, a safle RAMSAR o bwysigrwydd rhyngwladol. Mae hefyd yn Ardal Gadwraeth Arbennig o dan gyfarwyddyd cynefinoedd yr Undeb Ewropeaidd. Ers hynny, mae’r 53he wedi cael ei ehangu i 76he ac mae’n datblygu fel rhan o brosiect Tirlun Byw allweddol.

1996 – Dechreuwyd trefnu darlithoedd “Lacey” blynyddol er cof am yr Athro Bill Lacey, diolch i rodd gan ei deulu.

1998 – Arweiniodd cais llwyddiannus i Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn 1998 at grant o £323,596 ar gyfer rhaglen 5 mlynedd i reoli a dehongli 19 o Warchodfeydd yr Ymddiriedolaeth, ac roedd modd i ni benodi ein Swyddog Gwarchodfeydd cyntaf.

1999 – cymerodd cannoedd o blant ran yn ‘Trees of Time and Place’ a ‘Frog Watch’.

2000 – Agorwyd Gwaith Powdwr, hen Waith Ffrwydron Cooke ger Penrhyndeudraeth, i’r cyhoedd fel gwarchodfa natur, gyda’r troellwr mawr yn magu yno a sawl rhywogaeth o ystlum.

2004 – dechreuodd yr Ymddiriedolaeth ddatblygu’r Ganolfan Gofnodi Leol ar gyfer Gogledd Cymru, sy’n cael ei gweithredu’n llwyddiannus ac yn annibynnol erbyn hyn fel Cofnod.

2006 – Lansiwyd Cynllun Cadwraeth Ymddiriedolaethau Natur Cymru, a daeth Prosiect Garddio Er Budd Bywyd Gwyllt Eryri ac Ymwybyddiaeth Forol Gogledd Cymru yn elfennau pwysig o’r Ymddiriedolaeth, a chyrhaeddodd yr aelodaeth 5,000.

2007 – Cawsom £100,000 yn ewyllys Merfyn Edwards ar gyfer cadwraeth bywyd gwyllt ar Ynys Môn, gan gynnwys prynu Rhuddlan Fawr yng Nghors Goch.

2011 – Cawsom £82500 yn ewyllys Bill a Margaret Walton, dau wirfoddolwr brwd gyda’r Ymddiriedolaeth.

2012 – Dyfarnwyd MBE i Pippa Bonner am ei gwaith yn arwain NWWT Trading Ltd, a throsglwyddwyd tir yn Eithinog, Bangor i eiddo’r Ymddiriedolaeth ar ôl mwy nag 20 mlynedd yn ymgyrchu i’w achub rhag datbygiad tai.

2013 – Dathlodd yr Ymddiriedolaeth ei phen blwydd yn 50 gyda chyfres ragorol o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn a garddwest fendigedig yng nghartref ein Noddwr, yr Arglwydd Langford, yn Neuadd Bodrhyddlan fis Awst.