Gwarchodfa Natur Gors Maen Llwyd

Gors Maen llwyd

© David Whittrick

Goosander

Goosander © Adam Jones

Osprey (c) Peter Cairns/2020Vision

Osprey (c) Peter Cairns/2020Vision

Heather

Heather - Ross Hoddinott 2020Vision

Gors Maen Llwyd

Gors Maen Llwyd © Mark Roberts

A pair of black grouse, large black birds with white feathers on the underwing and tail feathers, and a red comb on their heads. The birds are facing each other, the one on the left has it's wings and one leg raised in display. The moor they are on is very brown and dull in colour, but lit with the earliest dawn sunlight adding a touch of yellow to everything and making the grouse almost glow with an outline of sunlight.

Black grouse © Mark Hamblin2020Vision

Yn llawn bwrlwm o fywyd gwyllt, mae’r rhostir grug trawiadol yma yn yr ucheldir yn teimlo’n hynod wyllt.

Location

Nantglyn
Sir Ddinbych
LL16 5RN

OS Map Reference

SH 975 580
OS Explorer Map OL18
A static map of Gwarchodfa Natur Gors Maen Llwyd

Know before you go

Maint
280 hectares
z

Pris mynediad

Na
P

Manylion parcio

Mae’r ddau faes parcio’n hwylus i’w cyrraedd o’r B4501: un yn syth o’r ffordd (SH 970 580) ac un i lawr trac byr, ger y guddfan adar (SH 983 574).

Anifeiliaid pori

Defaid, Chwefror i Hydref.

Llwybrau cerdded

Er bod y safle’n cynnwys tir mynediad agored, cadwch at y llwybrau os gwelwch yn dda, rhag tarfu ar y bywyd gwyllt, yn enwedig yr adar sy’n nythu ar y ddaear. Mae llwybr beicio’r Brenig yn mynd drwy rannau gogleddol y warchodfa.

Mynediad

Mae hwn yn safle agored ac anghysbell heb signal ffôn symudol cyson. Mae’r llwybrau’n anwastad mewn mannau ac mae’n rhaid gwisgo esgidiau addas.

Dogs

Ar dennyn
i

Facilities

Cuddfannau

When to visit

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Gwanwyn ac yr haf

Am dan y warchodfa

Cymru wyllt a rhyfeddol

Yn y gwanwyn, ewch allan drwy’r grug ac ar y rhos fel mae’r wawr yn torri ac fe gewch chi brofi rhyfeddod byd natur sydd wedi bod yn digwydd yma ers milenia: cri fyrlymus gwryw y rugiar ddu yn paru. Wedyn, wrth i’r haul godi dros Fryniau Clwyd i’r dwyrain, mae arogl rhostir mawnog, nodedig yn llenwi’r awyr, a chri’r gylfinir, yr ehedydd a’r gog yn cyhoeddi bod diwrnod newydd ar droed. Yn raddol, wrth i’r golygfeydd panoramig ddod i’r golwg o dywyllwch y nos, mae’r ymdeimlad tangnefeddus o fod ar eich pen eich hun yng nghanol y dirwedd wyllt, enfawr yma’n gwawrio arnoch chi. 

Gors Maen Llwyd, sy’n ffinio â Llyn Brenig, yw un o warchodfeydd natur mwyaf yr Ymddiriedolaeth Natur ac mae’n cynnwys rhos yr ucheldir, gorgors a gwlybdir yn llawn mwsoglau sffagnwm, ffa’r gors a llugaeron. Yn yr haf, mae  gwenoliaid y glennydd yn nythu mewn poblogaethau mawr ar hyd ymyl y gronfa ddŵr, gyda’u mynd a dod cyson yn gefndir bob amser wrth i chi fynd am dro yn ystod yr haf.  Y cefndir i’r enw ‘Cors Maen Llwyd’ yw carreg gafodd ei chludo yma a’i gwaddodi gan yr haenau iâ’n cilio yn ystod yr oes iâ ddiwethaf – ond does dim byd yn llwyd am y warchodfa yma yn sicr!

Torri’r grug

Mae’r ardal hon yn yr ucheldir wedi bod yn cael ei ‘rheoli’ gan bobl ers miloedd o flynyddoedd. Bu’r Hen Frythoniaid yn cael gwared ar fforestydd er mwyn darparu mwy o le i bori ac, ar ddechrau’r 1900au, cafodd y rhos ei gynnal a’i gadw ar gyfer saethu grugieir. (Yn cael eu gwarchod rhag cael eu saethu bellach, mae’r grugieir du a choch yn magu ar y safle erbyn hyn.) Mae’r Ymddiriedolaeth Natur yn ceisio rheoli’r dirwedd mewn ffordd fwy naturiol drwy gadw ardaloedd o gynefinoedd amrywiol. Mae ardaloedd bychain o rug yn cael eu torri ar gylchdro – mewn siapiau tonnog i fod yn llai amlwg ar y dirwedd – er mwyn cadw’r strwythur oedran yn amrywiol, ac mae defaid yn pori’r safle yn ystod y gwanwyn a’r haf er mwyn cadw’r grug mewn cyflwr da. Rydym yn cadw llygad ar ymlediad y conwydd o’r planhigfeydd cyfagos. 

Cyfarwyddiadau

Mae Gors Maen Llwyd ym mhen gogleddol Llyn Brenig, 7 milltir i’r de orllewin o Ddinbych a 4 milltir i’r gogledd o Gerrigydrudion. Mae’r ddau faes parcio’n hwylus i’w cyrraedd o’r B4501: un yn syth o’r ffordd (SH 970 580) ac un i lawr trac byr, ger y guddfan adar (SH 983 574). Hefyd mae posib mynd i’r warchodfa drwy barcio yng Nghanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig Dŵr Cymru a cherdded ar hyd glan y llyn i’r naill gyfeiriad neu’r llall – bydd hyn yn cymryd rhyw awr, gan ddibynnu ar ba mor gyflym ydych chi’n cerdded.    

Contact us

Paul Furnborough
Cyswllt ffôn: 01248 351541

Dynodiad amgylcheddol

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
A male black Grouse mid air as it jumps while displaying for females, wings spread with early dawn light catching it's feathers.

Black grouse displaying at dawn © Mark Hamblin- 2020vision.

Map a llyfryn gwarchodfa

Llawr-lwytho
ospreygaryjones

©Garyjones

Gweilch y Pysgod yn Llyn Brenig

Prif rôl Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru fel rhan o Brosiect Gweilch y Pysgod Llyn Brenig yw helpu ymwelwyr i ddeall y bywyd gwyllt lleol, gan gynnwys yr adar godidog yma. Beth am ddod draw yma i gael eu gweld yn agos?

Gyda thelesgop, gallwch weld y pâr o bellter diogel o fis Ebrill tan ddiwedd mis Awst – holwch yng nghanolfan ymwelwyr Dŵr Cymru am gyfarwyddiadau ar gyfer cyrraedd y lleoliad (5 munud hwylus ar droed).

Mwy wybodaeth