Cefnogwch ni

Gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

photo of volunteer

Fyddech chi’n hoffi gwneud rhywbeth er budd eich bywyd gwyllt lleol?
Fyddech chi’n hoffi gweithio fel rhan o dîm a dod i adnabod pobl newydd?
Fyddech chi’n hoffi gwella eich CV gyda phrofiad addas?


Mae gennym fwy na 250 o wirfoddolwyr ymroddedig a brwd sy’n ymwneud â phob agwedd ar yr Ymddiriedolaeth. Hebddynt, ni fyddem yn gallu goroesi.


Beth am ymuno â ni?

Gwaith Ymarferol mewn Gwarchodfeydd | Gwaith Arolygu/Monitrok | Ymwybyddiaeth Forol | Cyfleoedd Gwirfoddoli Parhaus | Cyfleoedd teilwredig i gymryd rhan | Gwneud cais i fod yn wirfoddolwr | Dan 16? | Yn Gwirfoddoli Eisoes?

Gwaith Ymarferol mewn Gwarchodfeydd

photo of volunteers

apply to volunteer

Am fanylion pellach, cysylltwch â'r Swyddfa Bangor ar 01248-351541 neu e-bost:

nwwt@wildlifetrustswales.org

link to volunteer opportunities blog

Cynhelir dyddiau gwaith rheolaidd yn ein gwarchodfeydd natur, yn rheoli rhywogaethau a chynefinoedd ac yn cynnal a chadw’r mynedfeydd ar gyfer ymwelwyr.
Mae gennym drefniadau gweithio ar dri safle:
Yn ein gwarchodfeydd yng Ngogledd Conwy, gogledd Gwynedd ac ar Ynys Môn - yn cwrdd yn rheolaidd bob dydd Mercher ac ar ddyddiau Iau weithiau
Yn ein gwarchodfeydd ar Ynys Môn ac yn ardal Bangor - yn cwrdd yn rheolaidd bob dydd Mawrth ac ar ddyddiau Iau weithiau
Yn ein gwarchodfeyddyng Ngogledd Ddwyrain Cymru (Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) - yn cwrdd bob dydd Mawrth a dydd Gwener

Hefyd, rydym yn gweithredu prosiectau arbennig mewn gwarchodfeydd natur ar hyn o bryd!
Yn Chwarel Marffordd gallwch gymryd rhan yn y Prosiect Gorwelion Gwyrdd ac ymgymryd â thasgau i wirfoddolwyr bob dydd Mercher! Ceir cyfleoedd i gymryd rhan ym mhob agwedd ar y prosiect, o waith ymarferol yn y gwarchodfeydd i addysg a threfnu digwyddiadau!

Yn Spinnies Aberogwen gallwch helpu i gynnal yr hafan yma i adar! Mae cangen Arfon o YNGC yn cyfarfod yn fisol yn y warchodfa, ar y dydd Gwener cyntaf o bob mis fel rheol.

Yng Ngwaith Powdwr ger Porthmadog **BOMBASTIC** Ymunwch â gwirfoddolwyr brwd Cyfeillion Gwaith Powdwr sy’n cyfarfod yn rheolaidd bob dydd Mercher er mwyn helpu i gynnal a datblygu’r safle hwn, a arferai fod yn waith ffrwydron.


Gwaith Arolygu/Monitro

Cysylltwch â ni, gan fod y math yma o waith yn newid gyda’r tymhorau. Cysylltwch am y newyddion diweddaraf neu dilynwch y cysylltiadau isod i ganfod mwy am bob prosiect. Gallwch ymwneud â Phrosiect y Pathew, Prosiect Llamhidydd yr Harbwr neu weithio ar yr Atlas Mamaliaid neu Atlas Adar BTO!

Ymwybyddiaeth Forol

Rydym angen byddin o bobl sy’n caru’r môr ac sy’n deall nad oes bywyd heb ddŵr
Jacques Yves Cousteau

Sefydlwyd Ymwybyddiaeth Forol yn 2001 gan grŵp o wirfoddolwyr brwd a oedd eisiau lledaenu’r gair am ryfeddodau’r môr a phwysigrwydd eu gwarchod. Heddiw, gwneir mwyafrif ein gwaith ledled Gogledd Cymru gan wirfoddolwyr ymroddedig.
Beth am ymuno â ni i warchod bywyd morol Gogledd Cymru a bod yn wirfoddolwr morol? Ceir nifer o gyfleoedd gwirfoddoli, o ymuno â ni i lanhau traethau i helpu yn ein Canolfan ar Bier Bangor.


Cyfleoedd Gwirfoddoli Parhaus

Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr i wneud swyddi penodol. Dim ond rhai o’r cyfleoedd sydd ar gael yn aml yw’r canlynol.

Swyddfa Bangor

Derbynnydd Wrth Gefn / Cynorthwy-ydd Golygu / Cynorthwy-ydd Digwyddiadau / Swyddog Cyhoeddusrwydd Cynorthwyol / Cynorthwy-ydd Ffeilio / Cynorthwy-ydd Gwerthiant


Swyddfa Tafarn-y-gelyn

Cynorthwy-ydd Swyddfa / Swyddog Cadwriaethol Cynorthwyol


Gwarchodfa Natur Cemlyn

Wardeniaid Gwirfoddol dros Dymor yr Haf
Am wybodaeth bellach, lawrlwythwch taflen Wardeniaid Haf Gwirfoddol Cemlyn.


Siopau ym Mharc Gwledig Chwarel Breakwater, Caergybi a Pharc Gwledig y Gogarth, Llandudno

Beth am ymuno ag un o’n timau o wirfoddolwyr cyfeillgar ac ymroddedig yn ein siopau? Mae ein gwerthiant yn codi arian hanfodol i’r Ymddiriedolaeth bob blwyddyn. Drwy helpu, byddwch yn cyfarfod pobl newydd ac yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Take the Plunge!
photo of volunteer

go to volunteer application form

Diddordeb mewn gwirfoddoli? Dechreuwch nawr!

Y cam cyntaf yw cwblhau Ffurflen Gais y Gwirfoddolwyr. .
Rydym yn hoffi i bawb wneud cais ar-lein ond os yw’n well gennych wneud hynny ar bapur, gallwch lawrlwytho’r ffurflen yma.

Unwaith y byddwn wedi derbyn eich ffurflen gais, byddwn yn eich gwahodd i gyfarfod gwirfoddolwyr posibl eraill fel ein bod yn gallu eich cyflwyno i waith Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, ei hanes, sut rydym yn gweithio a thrafod eich opsiynau gwirfoddoli. Anfonwch eich ffurflen gais atom cyn y cyfarfod fel ein bod yn gallu gweld beth sy’n addas i chi a gofyn i aelodau eraill o staff am eu cyfraniad.

Cynhelir y cyflwyniadau hyn naill ai yn swyddfa Bangor neu yn Nhafarn-y-gelyn. Os na allwch fynychu’r lleoliadau neu os yw’r amseroedd yn anghyfleus, rhowch wybod i ni, a byddwn yn eich ffonio i drefnu amser cyfleus. Erbyn diwedd y cyfarfod, rydym yn gobeithio y byddwch yn frwd iawn ac yn penderfynu pryd a ble fyddwch yn dechrau gwirfoddoli!

Dan 16 oed? Dydych chi byth yn rhy ifanc i wirfoddoli!

Mae croeso i chi wirfoddoli gyda ni yr un fath, ar yr amod eich bod yn cwblhau’r ffurflen ganiatâd gan rieni ac yn dod â hi gyda chi i’r Cyflwyniad i Wirfoddolwyr. Fe gewch hyd i’r ffurflen wedi cwblhau’r Ffurflen Gais i Wirfoddolwyrar-lein.

Yn gwirfoddoli eisoes??

Rydych eisoes yn gwybod pa mor bwysig yw eich ymdrech i waith Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Helpwch ni os gwelwch yn dda i werthfawrogi eich ymdrechion yn briodol drwy gwblhau’r Daflen Amser hon i Wirfoddolwyr. Bydd o gymorth mawr i ni.
Lawrlwythwch Taflen Amser y Gwirfoddolwyr (unigol) (16k.pdf.

Ydych chi’n wirfoddolwr bodlon a hapus?

Rydym yn gobeithio bod ein holl wirfoddolwyr yn hyderus i siarad gyda’u goruchwylydd ac unrhyw aelod arall o staff ar unrhyw adeg ond, bob 6 mis, rydym yn gwahodd y gwirfoddolwyr i gyd i anfon sylwadau atom fel rhan o’u profiad yn gwirfoddoli. Bydd hyn ar gael yn y fforwm ar-lein i wirfoddolwyr, unwaith y bydd yn gwbl weithredol. Yn y cyfamser, gallwch lawrlwytho’r ffurflen adolygu’r gwirfoddoli yma


Pencadlys

376 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd LL57 1YE
Ffôn:01248 351541 Ebost: nwwt@wildlifetrustswales.org
Elusen gofrestredig rhif 230772