Mae gwirfoddoli’n rhan ganolog o waith Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Arweiniodd gweledigaeth criw bychan o wirfoddolwyr at yr Ymddiriedolaeth Natur sydd gennym ni heddiw. Mae gwirfoddoli gyda’r Ymddiriedolaeth yn fuddiol i chi ac i ni.
Rhagor o wybodaeth am wirfoddoli
Mae croeso i bawb fynychu ein digwyddiadau, sy’n amrywio o deithiau cerdded a sgyrsiau i weithgorau a chyfarfodydd gyda’r nos, a gynhelir ledled Gogledd Cymru.
Ewch i’n tudalen digwyddiadau am fanylion y digwyddiadau yn eich ardal chi.
Oeddech chi’n gwybod y gall eich hen ffôn symudol helpu i warchod bywyd a mannau gwyllt yng Ngogledd Cymru? Ewch i chwilio am eich un chi a bydd £10 yn cael ei gyfrannu am bob ffôn symudol y gellir ei ailgylchu a anfonir atom ni.
Cysylltwch â swyddfa Bangor ar 01248-351541 neu anfonwch e-bost at nwwt@wildlifetrustswales.org er mwyn gwneud cais am fag postio, neu casglwch un o’n swyddfa.
Yn ystod 2005, defnyddiwyd mwy na 310 miliwn o getris inc a mwy na 10 miliwn o getris arlliwiwr laser yng Ngorllewin Ewrop. Mae’n cymryd cyfartaledd o litr o olew i weithgynhyrchu 15 o getris inc a 3.3 litr o olew ar gyfer pob cetrisen i arlliwiwr laser. Mae canran anhygoel o 85% o getris inc yn diweddu eu hoes mewn safleoedd claddu sbwriel. Bydd Redeem ccc yn cyfrannu rhodd i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru am unrhyw getris inc ac arlliwiwr (ac eithrio Epson gwaetha’r modd) a ailgylchir â hwy.
Cysylltwch â swyddfa Bangor ar 01248-351541 neu anfonwch e-bost at
supportus@wildlifetrustswales.org
neu ewch i www.recyclingappeal.com/wildlifetrusts i wneud hyn ar-lein.