Amodau cystadlu
Caniateir tri ffotograff/llun gan bob ffotograffydd a gellir ychwanegu hyd at 20 gair yn cyfleu 'hanfod y llun' neu 'pam mae wedi cael ei dynnu'. Ni fydd y geiriau hyn yn cael eu cynnwys wrth feirniadu ond byddant yn cael eu defnyddio mewn capsiwn o'r llun os caiff ei ddewis ar gyfer yr arddangosfa deithiol.
Mae'n rhaid i fywyd gwyllt fod yn rhan bwysig o'r ffotograff. Bydd y beirniaid yn chwilio am ddelweddau sy'n dangos safon bywyd gwyllt a / neu gynefin y gwarchodfeydd. Byddant yn ystyried rhinweddau esthetaidd yn ogystal â thechnegol y llun.
Gall y lluniau fod yn brintiau neu'n rhai digidol, yn ddu a gwyn neu'n lliw, ond mae'n rhaid iddynt fod yn waith gwreiddiol y cystadleuydd ac wedi'u tynnu oddi mewn i ffiniau'r Warchodfa Natur. Mae ffotograffau/ delweddau sydd wedi'u tynnu yng Ngwarchodfeydd Natur YNGC ers mis Ionawr 2010 yn gymwys. Gweler y mapiau o'r gwarchodfeydd yn www.northwaleswildlifetrust.org.uk
Y maint mwyaf a ganiateir ar gyfer y lluniau yw A4 heb fownt. Sylwer: gofynnir i berchnogion y delweddau a ddewisir ar gyfer yr arddangosfa ddarparu printiau neu ffeiliau digidol da er mwyn sicrhau safon atgynhyrchu da.
Nid yw staff ac ymddiriedolwyr YNGC yn gymwys i gystadlu.
Categorïau: a) o dan 18 oed b) 18 oed a hŷn
Dyddiad cau - Rhagfyr 31ain 2011
Beirniaid: Ben Stammers (Swyddog Pobl a Bywyd Gwyllt YNGC), Les Starling (Clwb Camera Rhuthun), Kim Dewsbury (Swyddog Celfyddydau Gweledol Sir Ddinbych).
Gwobrau: Bydd yr 20 ffotograff gorau'n ffurfio arddangosfa deithiol i'w dangos mewn canolfannau celfyddydol, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd dethol ledled Gogledd Cymru. Hefyd, bydd y ddau lun gorau yn y ddau gategori yn derbyn gwobrau.
Eiddo'r ffotograffydd yw'r ffotograffau o hyd, ond efallai y cânt eu defnyddio at ddibenion addysgol neu gyhoeddusrwydd gan YNGC, gyda chydnabyddiaeth briodol.
Dylid anfon y ffurflen gystadlu a'r ffotograffau (os mai printiau ydynt) at:
Sam Bryan d/o YNGC, 376 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd LL57 1YE
Dylid e-bostio lluniau digidol at: blaiddbach@wildlifetrustswales.org (ni ddylai'r ffeil e-bost fod yn fwy na 2MB)