
North Wales Wildlife Trust will run a Cob 200 event on December 17 & 18 based at the Bird Hide near Boston Lodge. The Glaslyn and Dwyryd estuaries are world renowned for their population of migratory wading birds, partly because of the ideal conditions created by Madock's Cob.
Members of the public are invited to the Bird Hide (near the old Toll House) to see the wading birds on the above dates. Times - 11.00 am to 15.00 on Saturday 17th and 11.30 - 15.30 on Sunday 18th.
Experts will be on hand to explain what is what and will provide binoculars and telescopes. Numbers in the hide are obviously limited, but we will take overflow numbers up on to the Cob which is an equally good viewing spot.


Ar wahân i fod yn enghreifftiau gwych o fywyd gwyllt, beth sy'n gyffredin rhwng Ffen ar Ynys Môn, tair gwarchodfa natur glaswelltir calchfaen ar y Gogarth a Gwenoliaid y Glennydd? Mae cymynroddion wedi bod yn rhan o sicrhau dyfodol iddyn nhw i gyd. Wrth i Wythnos Cofiwch Elusen fynd rhagddi, hoffem gymryd ennyd i feddwl am rywfaint o'r gwaith y gallasom ei wneud o ganlyniad i gymynroddion a dderbyniwyd gennym yn y gorffennol.
Mae Wythnos Cofiwch Elusen yn mynd o 12 - 18 Medi. Ei nod yw taflu goleuni ar bwysigrwydd y rhoddion a adewir i elusennau mewn ewyllysiau. Daw dros 140 o elusennau o bob cwr o'r DU, yn cynnwys yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, at ei gilydd yn ystod yr wythnos i annog mwy o bobl i ystyried gadael rhodd i elusen wrth ysgrifennu eu hewyllys.
Bu Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yn ddiolchgar iawn i dderbyn nifer o gymynroddion dros y blynyddoedd, rhai mawr a bach, ac mae'r rhain wedi'n helpu ni i warchod a gwella llawer o'r ardaloedd bywyd gwyllt y gallwn eu mwynhau heddiw.
Cors Goch, ffen a rhostir ar Ynys Môn, oedd y warchodfa natur gyntaf a sefydlwyd gan ein Hymddiriedolaeth bron i 50 can mlynedd yn ôl. Bellach mae'n bwysig fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol ddynodedig yn llawn rhywogaethau prin fel Tegeirian y Waun, Troellwyr Bach, pili-pala'r Brith Perlog Bach ac erwau o fawnog. Yn 2008 cyfrannodd cymynrodd at ymgyrch a alluogodd ein Hymddiriedolaeth i brynu 43 erw arall i ehangu'r safle gwerthfawr hwn.
Wedi mwynhau bywyd gwyllt Gogledd Cymru drwy gydol ei oes, gadawodd Edward Jones gymynrodd hael i'r Ymddiriedolaeth. Mae ei rodd yn cynnal gwaith cadwraeth ar laswelltir calchfaen yn ein gwarchodfeydd yn Llandudno: Bryn Pydew, Rhiwledyn a'r Gogarth. Fe'i defnyddiwyd hefyd i greu safle nythu i wenoliaid y glennydd yng ngwarchodfa natur leol Morfa Madryn.
Eleni'n unig, mae'r cymynroddion a dderbyniom wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n dyfodol mewn cyfnod ariannol ansicr. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi gadael rhodd i ni yn y gorffennol, ac i nifer o bobl sydd wedi addo'u cefnogaeth yn y blynyddoedd i ddod.
Dywedodd Syr David Attenborough, Is Lywydd yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt:
"Mae'r Ymddiriedolaethau wedi ymrwymo i gadwraeth bywyd gwyllt. Mae addo rhodd iddynt wrth ysgrifennu neu ddiweddaru'ch ewyllys yn ffordd arbennig iawn o sicrhau y gallant barhau i wneud hyn. Gall ychydig eiriau gennych chi olygu gallu prynu gwarchodfa natur newydd, diogelu cynefin prin neu yn syml fod pobl sydd â'r sgiliau a'r brwdfrydedd i warchod bywyd gwyllt yn gallu parhau i wneud hynny yn eich ardal leol."
Ychwanegodd Rob Cope, Cyfarwyddwr Cofiwch Elusen: "Yr wythnos hon yn bendant yw canolbwynt ein calendr. Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli y gallant adael arian i elusennau yn eu hewyllys, a dyna un o'r rhesymau pam fod ein gwaith mor bwysig. Wedi edrych ar ôl teulu a ffrindiau, gall rhoi rhodd i elusen fel yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt wneud gwahaniaeth mawr i'r gwaith pwysig a wnânt."
Os hoffech ragor o wybodaeth ar adael cymynrodd i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru cysylltwch â Frances Cattanach, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth, yn gyfrinachol ar 01248 351541 neu gallwch lawrlwytho'n llyfryn gwybodaeth yma.
Am fwy o wybodaeth am Wythnos Cofiwch Elusen ewch i www.rememberacharity.org.uk.

Mae John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, wedi datgan bod Llywodraeth Cymru wedi gohirio cynlluniau i ddifa moch daear hyd nes y bydd adolygiad gwyddonol annibynnol o'r dystiolaeth wedi'i gynnal. Cafodd y panel annibynnol ei benodi gan Yr Athro John Harries, Prif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru. Erbyn hyn, mae enwau'r rhai sy'n aelodau o'r panel wedi'u cyhoeddi.
Dyma nhw (mae'r bywgraffiadau wedi'u cymryd oddi ar wefan y BBC):
- Yr Athro Syr Mansel Aylward, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Seicogymdeithasol ac Anabledd ym Mhrifysgol Caerdydd
- Yr Athro Malcolm Bennett, Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Milhaint Genedlaethol ac Athro Patholeg Filfeddygol ym Mhrifysgol Lerpwl
- Yr Athro Bridget Emmett, Dirprwy Gyfarwyddwr y Rhaglen Biogeogemeg, Pennaeth Adran a Phennaeth Safle yn y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH), Bangor
- Yr Athro Charles Godfray, Cymrawd o Goleg Iesu, Rhydychen ac Athro Hope yn Adran Sŵoleg Prifysgol Rhydychen
- Yr Athro Dirk Pfeiffer, Athro Epidemioleg Filfeddygol a Phennaeth Epidemioleg Filfeddygol a Grŵp Iechyd y Cyhoedd yn Adran Gwyddorau Clinigol Milfeddygol y Coleg Milfeddygol Brenhinol (Prifysgol Llundain)
Cadeirydd y panel fydd Yr Athro Gaskell, sef Prifathro'r Coleg Amaethyddol Brenhinol. Disgwylir i'r adroddiad fod yn barod yn yr hydref, a'n gobaith yw y bydd yn esgor ar ddulliau amgen, ar wahân i ddifa moch daear.
Yn ystod y mis diwethaf, mae'r drafodaeth ynglŷn â difa moch daear wedi troi fwyfwy at yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr, ar ôl i Caroline Spelman ddweud ei bod am ganiatáu difa moch daear yno. Bydd dau gynllun difa peilot yn cael eu rhoi ar waith er mwyn pwyso a mesur yr arfer o saethu'r creaduriaid - sef dull nad yw ei effeithiolrwydd o ran rheoli TB gwartheg wedi'i brofi. A chafodd saethu ei gynnwys yng Ngorchymyn diweddaraf Cymru fel dull posibl o ddifa moch daear.
Mae'r holl sôn am reoli moch daear yn Lloegr wedi aildanio diddordeb y cyfryngau yn y pwnc ac wedi arwain grŵp ymgyrchu pwerus o'r enw 38 Degrees i ymuno â'r trafodaethau. Yn ddiweddar, maen nhw wedi lansio deiseb yn gofyn am roi stop ar y syniad o saethu moch daear. Ar adeg ysgrifennu'r pwt yma, roedd bron i 22,000 o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb. Os hoffech chi ei llofnodi, ewch i: http://www.38degrees.org.uk/page/s/badgers petition
Hefyd, beth am fwrw golwg dros y cyhoeddusrwydd cadarnhaol iawn sydd wedi deillio o ymdrechion Ymddiriedolaeth Natur Swydd Gaerloyw i frechu moch daear ar eu gwarchodfeydd. I gael mwy o wybodaeth ewch i: http://www.guardian.co.uk/environment/2011/aug/06/badger-cull-vs-vaccination-splits-countryside

Gan ymuno ag Ymddiriedolaethau Natur Northumberland, Yr Alban a Swydd Efrog fel partner elusennol y loteri, bydd Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn cael arian rheolaidd a rhwydd gan chwaraewyr y People's Postcode Lottery. Mae 40c o bob tocyn £2 yn mynd yn syth i elusennau. Mae hyn yn cael effaith fawr ar achosion da - yn wir, mae Ymddiriedolaeth Natur Yr Alban newydd gael mwy na £1.5 miliwn ers i'w partneriaeth nhw â'r loteri ddechrau.
Mae chwaraewyr y People's Postcode Lottery yn gallu cymryd rhan mewn tair 'raffl' y mis, sy'n werth £30,000. Ac wrth gymryd rhan, maen nhw'n codi arian at elusennau gwych, fel ni. Felly pam na rowch chi gynnig ar ennill gwobrau gwych - gan helpu achosion da yr un pryd. Ymunwch rŵan ar www.postcodelottery.com.

Gallwch lawr lwytho y pamffled yma neu gallwch gysylltu â'n swyddfa ym Mangor i dderbyn fersiwn brintiedig o ansawdd uchel.
Darganfyddwch fwy am nythfa y Môr-wennoliaid ar Warchodfa Cemlyn yma.

NEWYDD: Prosiect Gwarchodfeydd Natur Arfordirol Ynys Môn

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn falch fod Eithinog mewn dwylo diogel o'r diwedd, ac y bydd pobl dinas Bangor yn dal i allu'i fwynhau ac y bydd bywyd gwyllt yn parhau i ffynnu yno. Cytunodd Cyngor Sir Gwynedd i drosglwyddo'r tir i'r Ymddiriedolaeth Natur mewn cyfarfod wythnos diwethaf. Ond mae'n bosibl y daw'r newyddion da hwn â rhagor o gostau yn ei sgil, wrth i'r elusen fynd ati i reoli'r tir, ac felly mae'n chwilio am nawdd ariannol i'w helpu i warchod y caeau yn iawn.
Meddai Frances Cattanach, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth; "Buom yn ystyried yn hir a dwys cyn ymrwymo i reoli'r safle 27 erw. Mae costau ynghlwm wrth reoli gwarchodfeydd natur bob amser, ac rydym eisoes yn rheoli sawl un ledled y Gogledd. Er hynny, rydym yn trin Eithinog fel achos arbennig, gan ein bod wedi ymgyrchu'n galed gyda phobl leol i sicrhau ei ddyfodol tymor hir ers dros 16 mlynedd".
Yn ystod y cyfnod hwn, llwyddwyd i atal cynllun codi tai newydd, ac mae'r caeau wedi'u dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd ei ffyngau a'i blanhigion dolydd. Fe geisiodd yr Ymddiriedolaeth Natur annog Cyngor Gwynedd i reoli'r safle ei hun fel gwarchodfa natur leol, cyn i'r cyngor benderfynu drosglwyddo'r awenau i elusen leol.
Yn ôl Chris Wynne, Swyddog Cadwraeth yr Ymddiriedolaeth Natur; "Rydym yma heddiw, diolch i ymdrechion dygn pobl leol. Mae yma botensial aruthrol i wella'r tir ar gyfer bywyd gwyllt, rheoli mynediad cyhoeddus, ac annog ysgolion i ddefnyddio'r caeau fel ystafell ddosbarth awyr agored - yn enwedig rhai lleol fel Ysgol Friars ac Ysgol Cae Top. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda phawb sydd wedi'n cefnogi hyd yma i gadw'r tir ar gyfer bywyd gwyllt ac ar gyfer pobl."
Bydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn lansio apêl er mwyn codi arian i reoli'r tir yn y flwyddyn newydd.

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn annog pawb i fynd yn wyllt ar Ddydd Sant Ffolant, gan roi rhodd rywfaint yn wahanol i'r blodau arferol. Ers blynyddoedd lawer, mae blodau wedi bod yn anrheg draddodiadol i'w rhoi i'ch cariad. Ond maen nhw'n symbol braidd yn rhyfedd o gariad tragwyddol gan eu bod yn gwywo'n sydyn a marw. Ac mae'n debyg y bydd y prynwyr 'gwyrdd' yn eich plith eisiau ystyried ôl troed carbon y blodau, gan fod y rhan fwyaf o'r blodau a brynwn yn y DU heddiw wedi'u mewnforio i'r wlad o lefydd cyn belled ag Affrica a De America.
O'r herwydd, mae'r Ymddiriedolaeth Natur wedi creu anrheg sy'n cynnwys blodau lleol a fydd yn para am flynyddoedd yn hytrach na diwrnodau. Mi gewch chi gerdyn blodau gwyllt y gallwch sgrifennu eich negeseuon serch arno, rhywfaint o hadau blodau gwyllt i ddenu glöynnod byw a gwenyn i'ch gardd, a thaflen yn rhoi gwybod ichi ble a phryd i ymweld â safleoedd blodau gwyllt ar hyd a lled Gogledd Cymru fel y gallwch fynd am dro bach rhamantaidd ni waeth pa adeg o'r flwyddyn yw hi. Efallai yr hoffech chi droedio drwy Goed y Felin yn y gwanwyn, sef coedwig ger Hendre, oherwydd yn ystod mis Mai mae'r safle wedi'i garpedu â chlychau'r gog. Neu beth am fynd am dro i ddôl blodau gwyllt ym Mhen Llŷn i weld y tegeirian llydanwyrdd yn yr haf.
Mae'r anrheg hefyd yn cynnwys tystysgrif sy'n dangos eich bod wedi cefnogi gwaith yr Ymddiriedolaethau Natur. Mae'r "tusw o flodau byw" yn ffordd o noddi gwaith ar safleoedd blodau gwyllt ar hyd a lled Gogledd Cymru, er mwyn sicrhau y byddan nhw'n parhau i flodeuo am genedlaethau i ddod. Yng Nghymru, rydyn ni'n lwcus iawn fod gennym gymaint o warchodfeydd â blodau mor fendigedig, o goedwigoedd hynafol yn llawn clychau'r gog i ddolydd lle mae briallu Mair yn blodeuo flwyddyn ar ôl blwyddyn. Dydy llawer o bobl ddim yn sylweddoli bod safleoedd blodau gwyllt angen eu rheoli mewn ffordd benodol a gofalus er mwyn iddyn nhw barhau i flodeuo. Dulliau traddodiadol o reoli tir a choedwigoedd: dyna oedd yn gweddu i flodau gwyllt. Er enghraifft, câi caeau gwair eu torri ar ôl i'r blodau hadu, ond caiff silwair ei dorri'n llawer cynharach. Hefyd câi coedwigoedd eu bôn-docio ar gyfer llosgi siarcol, rhywbeth a oedd yn dod â goleuni i'r llennyrch lle ffynnai clychau'r gog. Ond mae arferion o'r fath yn brin erbyn heddiw. Mae modd i'r Ymddiriedolaeth Natur reoli'r gwarchodfeydd natur sydd yn ei meddiant mewn ffordd a fydd yn sicrhau y gall blodau gwyllt barhau i fod yn rhan o'n tirwedd fyw ac yn rhywbeth y gall pawb ei fwynhau.
I brynu'r anrheg amgen yma ar gyfer Dydd Sant Ffolant, ewch i http://shop.northwaleswildlifetrust.org.uk/