Rydym wedi dal ati i geisio diogelu Briwlys Calchfaen (Stachys alpina), sy'n tyfu ar ddim ond tri safle yn y DG, gyda dau ohonynt yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae Briwlys Calchfaen yn blanhigyn bythol blewog a meddal ac mae'n 40-80 cm o uchder. Mae'n perthyn i'r teulu Labiate ac yn tyfu mewn pridd calchaidd, fel rheol ar lennyrch yng nghanol coetiroedd. Mae'n blodeuo rhwng misoedd Mehefin ac Awst gyda blodau cochbinc gyda chanol melyn nodedig.
Mewn partneriaeth â Sŵ Caer a Gerddi Botaneg Ness, mae'r Ymddiriedolaeth wedi bod yn arolygu SoDdGA Glyn Diffwys ym Mwrdeistref Sirol Conwy am y planhigion sy'n bodoli yno ac mae wedi canfod bod rhyw ddeg ar hugain o rywogaethau'n goroesi yno mewn tri chlwstwr, ond roedd llawer wedi methu yn ôl pob tebyg am eu bod wedi'u plannu allan yn wreiddiol rhwng 1998 a 2003. Cafodd mwy na 35 o blanhigion newydd, a dyfwyd yng Ngerddi Botaneg Ness, eu plannu allan yn ymyl y planhigion a fodolai eisoes a bydd y rhain yn cael eu hasesu yn nes ymlaen yn ystod y flwyddyn.
Mae'r casgliad o blanhigion Briwlys Calchfaen a gynhaliwyd yng Ngerddi Botaneg Ness wedi'u trosglwyddo yn awr i Sŵ Caer ble bydd hadau'n cael eu casglu a'u hegino i gynhyrchu llawer mwy o blanhigion newydd. Wedyn bydd y planhigion hyn yn cael eu plannu allan mewn lleoliadau addas yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, i sefydlu poblogaethau newydd.
Meddai Adrian Lloyd Jones, Swyddog Cadwraeth YNGC, "Mae Briwlys Calchfaen wedi cael ei ddewis fel Blodyn Sirol Sir Ddinbych felly mae'n wych gallu gwneud rhywbeth positif er budd y planhigyn prin ac arbennig yma."