Gwylio Bywyd Gwyllt

photo of watch group

Y Clwb Gwylio yw’r gangen o’r Ymddiriedolaeth Natur i blant a dyma brif glwb y DG ar gyfer naturiaethwyr ieuainc, gyda mwy na 100,000 o aelodau.


Os ydych yn angerddol ynghylch bywyd gwyllt, eisiau cael hwyl yn yr awyr agored, cwrdd â ffrindiau newydd a dysgu llawer am yr amgylchedd, yna’r Clwb Gwylio yw’r lle i chi!

Mae gweithgareddau’r Clwb Gwylio’n cael eu cynllunio fel eich bod yn

  • Cael hwyl yn rhoi cynnig ar dasgau cadwriaethol ymarferol ac yn gofalu am fywyd gwyllt.
  • Dod yn dditectif natur ac yn ymchwilio i’ch amgylchedd.
  • Dod yn fwy ymwybodol o’r byd yr ydym yn byw ynddo a dysgu am ffyrdd o ofalu amdano.
  • Dysgu mwy am yr amgylchedd..
  • Gallu mynegi eich barn a’ch syniadau ar gyfer gwarchod yr amgylchedd i bobl eraill.

Ymuno

photo of children pond dipping

Gallwch ymuno yng ngweithgareddau’r Clwb Gwylio drwy ymuno ag un o’ch grwpiau Gwylio lleol am weithgareddau hwyliog. Ewch i Grwpiau Gwylio Lleol (isod) am fanylion y grwpiau Gwylio yng Ngogledd Cymru.
Gallwch fynychu cyfarfodydd a digwyddiadau’r grwpiau heb fod yn aelod, ond os ydych eisiau derbyn llond gwlad o nwyddau difyr a chyffrous, gallwch ddod yn aelod o’r Clwb Gwylio.
Os nad oes grŵp o’r Clwb Gwylio yn agos atoch chi, neu os na allwch fynychu’r cyfarfodydd, gallwch ymuno â’r Clwb Gwylio yr un fath fel aelod! Bydd y cylchgrawn, y cystadlaethau a’r prosiectau’n eich galluogi i fod yn aelod gweithredol a darganfod y bywyd gwyllt yn eich ardal chi!


Fel aelod byddwch yn derbyn

  • Cerdyn aelodaeth a bathodyn
  • Parod i Weithredu – canllaw poced defnyddiol ar gyfer bod yn Wyliwr Bywyd Gwyllt
  • Watchword – cylchgrawn lliw rhagorol deirgwaith y flwyddyn yn llawn gweithgareddau, lluniau, ffeithiau a newyddion
  • Natur ychwanegol - poster lliw sgleiniog deirgwaith y flwyddyn gyda ffeithiau a gweithgareddau tymhorol yn berthnasol i fywyd gwyllt
  • Cynllun Gwobr Aur – llond gwlad o syniadau cyffrous ar gyfer gweithredu’n amgylcheddol a bathodynnau i’w casglu

Grwpiau’r Clwb Gwylio yn Lleol

Mae mynychu eich Clwb Gwylio lleol yn ffordd wych o gael hwyl a chwrdd â ffrindiau newydd.

Cewch gymryd rhan mewn prosiectau amgylcheddol, dysgu llawer iawn am fyd natur a’r amgylchedd a baeddu eich dwylo’n archwilio’r awyr agored.

Ar hyn o bryd, ceir pedwar grŵp yng Ngogledd Cymru (gweler isod): Clwb Gwylio Llandegla, Y Clwb Gwylio Morol, Clwb Gwylio Rhyd y Creuau a Chlwb Gwylio Waunfawr, neu gallwch sefydlu eich clwb eich hun!


Clwb Gwylio Llandegla

Ble? Unwaith y mis fel rheol yn Neuadd Bentref Llandegla yn ystod misoedd y gaeaf. Teithiau misol i warchodfeydd natur, e.e. Coed y Felin a Thwyni Gronant, yn ystod yr haf.

Cysylltwch â: Janet Robinson ar 01978 790236 neu e-bost: igandjm.r@tiscali.co.uk


Clwb Gwylio Pwllheli

Ble? Lleoli’r Grŵp yng ngwarchodfa natur Lôn Cob Bach ond mi fyddent yn archwilio llawer o’r cynefinoedd gwyllt o gwmpas Pwllheli.

Pryd? Fe fydd y Grŵp yn cyfarfod unwaith y mis trwy gydol y flwyddyn ac fel rheol ar y dydd Sul cyntaf.

Cysylltwch â:Laura Jones ar 07766315076 neu trwy e-bost: pwllheliwatch@googlemail.com


Y Clwb Gwylio Morol

Ble? Rydym wedi’n lleoli yn y ciosg Ymwybyddiaeth Forol ar Bier Bangor fwy neu lai, ond rydym yn mynd i ble bynnag mae’r llanw’n ein tywys!

Pryd? Fel rheol, rydym yn cyfarfod ar y 2fed dydd Sul o bob mis.

Cysylltwch â: Nia Haf Jones ar 01248 351541 neu e-bost: nwwt@wildlifetrustswales.org


Clwb Gwylio Rhyd y Creuau

Ble? Yng Nghanolfan y Cyngor Astudiaethau Maes yn Rhyd y Creuau, Betws y Coed.

Cysylltwch â: ryc-watch@live.co.uk


Clwb Gwylio Waunfawr

Ble? Rydym yn cyfarfod yn fisol naill ai yn Antur Waunfawr neu’n mynd i warchodfeydd natur ble gallwn helpu gyda gwaith cadwriaethol ymarferol.

Cysylltwch â: Anna Williams ar 01286-650288 neu e-bost: AnnaWilliams@wildlifetrustswales.org

photo of child with minibeast


Logio i mewn i Arweinwyr
a Chynorthwywyr

(bydd raid i chi fod â chyfrif Google)


photo of volunteers

apply to volunteer

I blant

link to wildlife watch website

Eisiau gwybod popeth am y Clwb Gwylio?Ewch i’r wefan genedlaethol Gwefan Genedlaethol Y Clwb Gwylio. Cewch hyd i lawer o bosau a gweithgareddau difyr, awgrymiadau ynghylch sut i helpu’r amgylchedd, dyddiadur natur defnyddiol yn dweud wrthych beth i chwilio amdano ar wahanol adegau o’r flwyddyn a llawer, llawer mwy.


I oedolion

Mae grwpiau’r Clwb Gwylio’n cael eu cynnal gan wirfoddolwyr ymroddedig ac maent yn gweithredu oddi mewn i fframwaith sy’n cael ei fonitro er mwyn gwarchod lles a diogelwch plant.

Gall oedolion gymryd rhan gyda’r Clybiau Gwylio drwy fod yn arweinwyr neu gynorthwywyr mewn grwpiau. Nid oes raid i chi fod yn arbenigwr – dim ond mwynhau gweithio gyda phlant, mwynhau yn yr awyr agored a phoeni am yr amgylchedd sydd raid i chi. O - a hefyd - bydd angen llond gwlad o frwdfrydedd!

Mae grwpiau lleol yn chwilio am gynorthwywyr newydd bob amser, felly cofiwch gysylltu!


Dilynwch y camau hyn os hoffech fod yn gynorthwy-ydd neu’n arweinydd:

Mae’r Sesiynau Darganfod yn gyfle i gwrdd â chyd-ddarpar arweinwyr, casglu gwybodaeth am sut mae’r Clybiau Gwylio’n gweithio, holi cwestiynau, profi rhai o’r gemau a’r gweithgareddau a chynllunio unrhyw weithgareddau ar gyfer y Clybiau Gwylio yn y dyfodol. Byddwch hefyd yn dysgu mwy am y broses ymgeisio a’r gefnogaeth a’r adnoddau sydd ar gael i chi fel arweinydd.


Cysylltwch â

01284 351541 neu e-bost nwwatch@wildlifetrustswales.org am wybodaeth bellach.


Pencadlys

376 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd LL57 1YE
Ffôn:01248 351541 Ebost: nwwt@wildlifetrustswales.org
Elusen gofrestredig rhif 230772