Beth am fod yn Wirfoddolwr Gorwelion Gwyrdd!

Dysgu sgiliau newydd, cadw’n heini, cwrdd â phobl newydd a chael hwyl!
Mae sawl ffordd o gymryd rhan a mwynhau dysgu sgiliau newydd, boed dwy wneud gwahaniaeth yn ein gwarchodfeydd natur ni neu yn eich cymuned chi!
Gall gwirfoddolwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau, yn cynnwys gwaith ymarferol mewn gwarchodfeydd natur yn ogystal â helpu gyda chyhoeddusrwydd, ysgrifennu erthyglau a helpu i weithredu digwyddiadau.
Mae gwirfoddoli gyda’r Prosiect Gorwelion Gwyrdd yn ffordd ragorol o ennill profiad i’r rhai sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn rheoli bywyd gwyllt a chefn gwlad. Hefyd, gallwn gynnig cyfleoedd i bobl ieuainc weithio ar brosiectau ysgol, ar gyfer bathodynnau’r sgowtiaid a’r guides neu Wobrau Dug Caeredin.
Yn Chwarel Marffordd, mae’r gwirfoddolwyr wedi bod yn brysur iawn yn plygu gwrychoedd, yn creu llennyrch i löynnod byw, yn gwneud blychau nythu, yn cadw’r llwybrau’n glir, yn gosod arwyddion ac arwyddbyst gwybodaeth sy’n gwarchod bywyd gwyllt ac yn tynnu lluniau o fywyd gwyllt y safle. Hefyd, mae’r gwirfoddolwyr wedi bod yn helpu i gyflwyno rhai gweithgareddau cymunedol, fel helpu gydag arolygon ar fywyd gwyllt mynwentydd yn Wrecsam a gweithgareddau cymunedol ar Stad Parc Caia.
Dim ond rhai o’r cyfleoedd a gynigir gennym ni yw’r rhain.
Am wybodaeth bellach am yr hyn rydym yn ei wneud a’r sgiliau y gallwch eu dysgu, cysylltwch â ni neu cwblhewch ein ffurflen gofrestru ar-lein. Peidiwch ag anghofio mynegi diddordeb yn y Prosiect Gorwelion Gwyrdd ar Ran 2 o’r ffurflen!
Ariannwyd y
prosiect hyn gan
