Popeth am y prosiect Gorwelion Gwyrdd
Pa un ai yw’n flwch ar y ffenest, yn iard, gardd, stryd neu hyd yn oed warchodfa natur leol, mae’r Prosiect Gorwelion Gwyrdd wrth law i’ch helpu i wneud y gorau o’ch gofod gwyrdd, yn y cartref ac yn y gymuned. Mae gweithredu mewn ffordd werdd nid yn unig yn gwneud eich gofod chi’n fwy pleserus ond hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd, bod yn egnïol a chwrdd â phobl newydd.
Rydym eisiau:
- Ysbrydoli pobl i fwynhau eu gofod gwyrdd lleol
- Annog pobl i weithredu er mwyn gwella eu hamgylchedd
- Cefnogi byw’n iach ac yn gynaladwy drwy gyfrwng cyngor ac awgrymiadau tymhorol defnyddiol
RYDYM EISIAU I CHI GYMRYD RHAN!
Neu beth am ddod draw i un o’n DIGWYDDIADAU?
Beth yw Gorwelion Gwyrdd?
Mae’r prosiect yn gweithio ledled Gogledd Ddwyrain Cymru gyda nifer o weithgareddau’n cael eu cynnal ar hyn o bryd yng ngwarchodfeydd natur Chwarel Marffordd a Lôn y Bryn yn Wrecsam.
|
Cynnal digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol Drwy gydol y flwyddyn rydym yn cynnig teithiau cerdded tywys, teithiau bywyd gwyllt, gweithgareddau gwneud blychau adar, crefftau coetir, helfeydd trychfilod, gweithdai compostio, dyddiau hwyl yn dysgu am fyw’n gynaladwy a dyddiau cadwraeth i deuluoedd. |
Helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd Rydym yn cynnig cyfleoedd i bobl ddysgu sgiliau newydd yn cynnwys garddio er budd bywyd gwyllt, plygu gwrych, ffensio, gwneud blychau nythu a byrddau adar, gofalu am goed, tyfu eich bwyd eich hun, rheolaeth ar gadwraeth bywyd gwyllt. |
Gweithio gyda grwpiau ac ysgolion lleol Rydym yn cynnal gweithgareddau ar gyfer grwpiau lleol ar gais. Ymhlith yr enghreifftiau mae garddio er budd bywyd gwyllt, grafftio coed afal, gwneud biniau compost, gwneud seidr, arolygon cymunedol ar fywyd gwyllt a nosweithiau darganfod gwyfynnod.
|
|
Annog pobl i fyw’n fwy cynaladwy Gallwn gynnig cyngor a gwybodaeth yn rhwydd am sut i wneud eich bywyd yn wyrddach a lleihau eich ôl troed carbon, a hefyd awgrymu ffynonellau o wybodaeth bellach. |
Gwirfoddoli Rydym yn cynnal dyddiau gwirfoddoli cadwriaethol yng ngwarchodfeydd natur Chwarel Marffordd a Lôn y Bryn ac ar safleoedd eraill yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae’r gweithgareddau diweddar wedi cynnwys plygu gwrychoedd, rheoli glaswelltir, rheoli coetiroedd, rheoli prysgwydd, rheoli pyllau, gosod blychau nythu yn eu lle, monitro lluniau a chynnal a chadw gwarchodfeydd. |
|
Ariannwyd y
prosiect hyn gan
