Ymgynghoriad Strategaeth Trafnidiaeth Cymru

M4 motorway

 © Creative Commons

Ymgynghoriad Strategaeth Trafnidiaeth Cymru

Buasem yn hoffi eich cymorth chi!  Gweithredwch yn awr ac ymatebwch erbyn 25 Ionawr

Mae arnom ni angen eich help chi – plîs ymatebwch i’r ymgynghoriad

Strategaeth Trafnidiaeth Cymru (STC) yw cynllun strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer pob math o drafnidiaeth, o nawr tan 2040. Mae'n darparu'r fframwaith strategol ar gyfer y mathau o brosiectau trafnidiaeth a gaiff eu cymeradwyo a'u cyllido, a sut gwneir y penderfyniadau hyn. Mae'n llawer gwyrddach na'r strategaeth flaenorol ac yn dweud yr holl bethau cywir am gynaliadwyedd ac rydym yn cefnogi ei nodau.

Fodd bynnag, rydym yn siomedig nad yw'n cyfeirio at y Llwybr Coch o gwbl. Mae'n ymddangos bod y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates, eisiau i'r Llwybr Coch fynd rhagddo mor gyflym fel y bydd yn rhy hwyr iddo gael ei ystyried fel rhan o broses STC erbyn i STC gael ei mabwysiadu. Felly byddai hynny'n golygu bod cynllun ffordd mwyaf - a mwyaf niweidiol - Cymru yn cael ei adeiladu ar yr un pryd ag y mae STC yn cael ei llunio a'i mabwysiadu, heb gymhwyso ei helfen cynaliadwyedd gref i'r Llwybr Coch yn fwriadol.

Helpwch ni i newid y sefyllfa afresymol yma. Os bydd digon ohonom yn lobïo i'r Llwybr Coch gael ei ystyried gan STC, mae siawns dda y gellid atal y cynllun ffordd niweidiol hwn. 

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 25 Ionawr 2021 gan ddefnyddio un o'r ddau ddull a ddangosir isod (ar e-bost neu drwy'r porthol ymgynghori). Rydym wedi ysgrifennu awgrym o ymateb isod y gallwch ei gopïo a'i ludo i'ch ymateb - mae croeso i chi ychwanegu ato neu ei ddiwygio fel y gwelwch yn dda.

Ymateb a awgrymir:

Rwy'n gwrthwynebu'r ffaith nad oes ymrwymiad yn Strategaeth Trafnidiaeth ddrafft Cymru, 'Y Llwybr Newydd', i sicrhau bod yr holl gynlluniau ffordd arfaethedig lle nad yw'r gwaith adeiladu ffisegol wedi dechrau (yn enwedig Cynllun 'Llwybr Coch' Gwella Coridor Glannau Dyfrdwy ar yr A55/A494/ A548) yn cael eu gohirio fel bod modd eu hailasesu yng ngoleuni’r canlynol:

1. Nodau, amcanion a chanlyniadau clodwiw Strategaeth Trafnidiaeth ddrafft Cymru ei hun, sy'n sefydlu rhagdybiaeth gref yn erbyn adeiladu ffyrdd newydd

2. Y fersiwn diweddaraf o offeryn arfarnu trafnidiaeth Llywodraeth Cymru WelTAG, a

3. Mae Pwyllgor Seilwaith a Sgiliau Economi'r Senedd wedi cwblhau ac adrodd ar ei ymchwiliad i weithio o bell yng ngoleuni pandemig COVID-19, a tharged cysylltiedig o 30% o weithwyr o leiaf yn gweithio o bell.

Os na fydd hyn yn digwydd, byddai Strategaeth Trafnidiaeth Cymru yn sylfaenol ddiffygiol ac ni fyddai'n addas i bwrpas oherwydd byddai ffordd ddeuol 13 cilometr newydd Llywodraeth Cymru - y 'Llwybr Coch' - sy'n niweidiol i'r amgylchedd yn tanseilio holl flaenoriaethau a chanlyniadau strategol Llywodraeth Cymru, fel y nodir yn Strategaeth Trafnidiaeth ddrafft Cymru.

 

E-bostiwch eich ymateb yn syth i WalesTransportStrategy2@gov.wales, os gwelwch yn dda, ac yna danfonwch gopi at Ken Skates (Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth) Gohebiaeth.Ken.Skates@llyw.cymru ac hefyd at MarkDrakeford (Prif Weinidog Cymru) Gohebiaeth.Mark.Drakeford@llyw.cymru.

Hefyd fe allwch ymateb yn llawn i Strategaeth Trafnidiaeth Cymru (Llwybr Newydd: a new Wales transport strategy) ac ychwanegu eich sylwadau uchod drwy ddefnyddio porth ymgynghori Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/llwybr-newydd.

Plîs cefnogwch a rhannu ein hymgyrch i Atal y Llwybr Coch

Â