Gwyn blaen oren

Orange-tip Butterfly

Orange-tip ©Bob Coyle

Orange-tip Butterfly

©Ross Hoddinott/2020VISION

Gwyn blaen oren

Enw gwyddonol: Anthocharis cardamines
Mae’n hawdd gweld o ble mae’r glöyn byw yma’n cael ei enw – mae gan y gwrywod flaen oren llachar ar eu hadenydd! Mae posib eu gweld o’r gwanwyn drwodd i’r haf mewn dolydd, coetiroedd a gwrychoedd.

Species information

Ystadegau

Lled yr adenydd: 4.0-5.2 cm

Statws cadwraethol

Cyffredin

Pryd i'w gweld

Ebrill - Gorffennaf

Ynghylch

Mae’r glöyn byw bach hardd yma’n hawdd ei adnabod gan fod blaen oren llachar ar adenydd y gwryw – sy’n rhoi ei enw iddo! Maen nhw’n olygfa gyffredin yn ystod y gwanwyn ac i’w gweld mewn llawer o fannau, gan gynnwys dolydd, coetiroedd a gwrychoedd. Mae’r oedolion yn dodwy eu hwyau ar blanhigion arbennig er mwyn sicrhau bod gan eu lindys fwyd addas i’w fwyta. Mae lindys y gwyn blaen oren yn hoff iawn o blanhigion garlleg y berth, blodau llefrith a roced y berth!

Sut i'w hadnabod

Mae gwryw y gwyn blaen oren yn gwbl unigryw: glöyn byw gwyn gyda hanner ei flaenadain yn oren llachar, ac mae blaenau ei adenydd yn llwyd golau. Mae’r fenyw yn wyn hefyd, ond bod blaenau ei hadenydd yn ddu-lwyd, yn debyg i löynnod byw gwynion. Mae’r ddau ryw yn dangos patrwm brith, ‘llwyd mwsogl’ o dan eu hadenydd ôl pan maen nhw’n gorffwys.

Dosbarthiad

I’w weld ledled y DU, ond yn brinnach yng ngogledd yr Alban.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae lindys y gwyn blaen oren yn ganibaliaid, gan fwyta plisg eu hwyau eu hunain wrth ddod allan ohono a symud ymlaen i fwyta wyau unrhyw wyn blaen oren arall sydd gerllaw wedyn. Mae’r lindys yn chwileru ym mis Gorffennaf a thros y gaeaf, gan ddod allan fel glöynnod byw y gwanwyn canlynol.