Buwch goch gota saith smotyn

7-spot Ladybird

7-spot Ladybird ©Rachel Scopes

7-spot Ladybird

7-spot Ladybird ©Dawn Monrose

7-spot Ladybird larva

7-spot Ladybird larva ©Amy Lewis

Buwch goch gota saith smotyn

Enw gwyddonol: Coccinella septempunctata
Dyma un o’n buchod coch cota mwyaf cyffredin ac mae’r marciau coch a du ar y fuwch goch gota saith smotyn yn gyfarwydd iawn. Mae buchod coch cota’n ffrindiau da i arddwyr gan eu bod yn bwyta pryfed sy’n hoffi gwledda ar blanhigion yr ardd! Gallwch eu hannog i’ch gardd drwy osod bocs pryfed yn ei le.

Species information

Ystadegau

Hyd 6-8mm

Statws cadwraethol

Cyffredin

Pryd i'w gweld

Mawrth - Hydref

Ynghylch

Mae’n bur debyg eich bod chi wedi gweld y fuwch goch gota saith smotyn sawl gwaith gan mai dyma’r fuwch goch gota fwyaf cyffredin. Mae i’w gweld mewn gerddi a pharciau – neu unrhyw le ble mae affidau i fwydo arnyn nhw. Mae’r oedolion yn gaeafgysgu mewn coesynnau planhigion gwag, gan glystyru gyda’i gilydd weithiau mewn grŵp mawr. Nid yn unig mae gennym ni fuchod coch cota saith smotyn brodorol yn y DU ond hefyd mae rhywogaeth sy’n mudo i’r DU bob gwanwyn o hinsawdd gynhesach. Mae lliwiau llachar buchod coch cota’n rhybuddio ysglyfaethwyr eu bod yn blasu’n afiach, ond bydd rhai adar yn dal i roi cynnig ar eu bwyta!

Sut i'w hadnabod

Mae’r fuwch goch gota saith smotyn yn hawdd ei hadnabod gyda’i chloriau adenydd coch a saith smotyn du yn batrwm arnyn nhw; hefyd mae ganddi batrwm du a gwyn cyfarwydd ar ei thoracs.

Dosbarthiad

Eang

Roeddech chi yn gwybod?

Mae lliwiau llachar buchod coch cota’n rhybuddio ysglyfaethwyr eu bod yn blasu’n afiach, ond bydd rhai adar yn dal i roi cynnig ar eu bwyta. Yn ogystal â’r lliw sy’n rhybuddio, mae gan fuchod coch cota fecanwaith amddiffyn arall hefyd: os byddwch yn gafael ynddyn nhw, maen nhw’n rhyddhau sylwedd melyn, ag arogl cryf o’u cymalau (ffurf ar ‘waedu dan reolaeth’) sy’n gallu staenio’r dwylo.

Sut y gall bobl helpu

Our gardens are a vital resource for wildlife, providing corridors of green space between open countryside, allowing species to move about. In fact, the UK's gardens provide more space for nature than all the National Nature Reserves put together. So why not try planting native plants and trees to entice birds, mammals and invertebrates into your backyard?
blue tit

Bob Coyle

Our gardens are vital for wildlife

The UK's gardens provide more space for nature than all the National Nature Reserves put together.

Wildlife-friendly gardening

As a charity we rely on memberships

They help us look after over 2,300 nature reserves and protect the animals that call them home.

Become a member