Her natur ganol gaeaf
Ydych chi'n barod i ddathlu 12 Diwrnod y Nadolig drwy fynd yn wyllt? Yn yr ystyr awyr agored, wrth gwrs. #12DiwrnodGwyllt yw ein her Nadolig fechan sy’n eich annog chi i wneud un peth gwyllt y dydd rhwng y 25ain o Ragfyr a'r 5ed o Ionawr.
Gall treulio amser ym myd natur wneud i chi deimlo'n hapusach ac yn iachach, ac ar ôl y flwyddyn rydyn ni i gyd wedi'i chael, mae pawb yn haeddu gwneud amser iddyn nhw eu hunain, a mwynhau bywyd gwyllt rhyfeddol y gaeaf ar yr un pryd. O fwydo adar i losgi calorïau eich cinio Nadolig yn y goedwig, gall gwneud y Gweithredoedd Gwyllt bach yma eich helpu chi i gael gwared ar felan y gaeaf!
Cofrestrwch yma i ddechrau arni ac fe gewch chi lawer o syniadau i’ch cadw chi’n brysur yn ystod y 12 diwrnod.
Swnio’n gyfarwydd? Mae 12 Diwrnod Gwyllt yn fersiwn llai o her yr haf rydym yn ei chynnal, 30 Diwrnod Gwyllt!
Rhannwch eich Gweithredoedd Gwyllt dros y Gaeaf gan ddefnyddio #12DiwrnodGwyllt.