Apêl Gweilch y Pysgod

ospreys at brenig

©Brenig Osprey Project

Apêl Gweilch y Pysgod

Cyfrannu at Groesawu

Plîs helpwch ni i godi £15,000 i baratoi ar gyfer dychweliad gweilch y pysgod i Lyn Brenig a Gors Maen Llwyd.

Fe gymerodd 400 o flynyddoedd i weilch y pysgod yn magu ddychwelyd i Gymru. Hyd yn oed heddiw, mae nifer y parau’n parhau mewn ffigurau sengl – dyma rywogaeth sy’n glynu wrth y dirwedd ac sy’n wynebu bygythiad cyson o erlid neu darfu. Yn rhyfeddol, yn 2018, daeth pâr i nythu am y tro cyntaf yn Llyn Brenig ar Fynydd Hiraethog, yn agos at lan Gwarchodfa Natur Gors Maen Llwyd yr Ymddiriedolaeth Natur. Wrth i chi ddarllen y llythyr yma, bydd y pâr a’u cyw yn mwynhau haul Affrica – ond mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr eu bod yn dychwelyd i groeso Cymreig diogel a chynnes! Rhaid i ni godi £15,000 er mwyn rhoi’r cyfle gorau iddyn nhw ffynnu ac i helpu pobl i weld yr adar anhygoel yma – wnewch chi ein helpu ni drwy Gyfrannu at Groesawu?

Cyfrannu at Groesawu

Cefnogwch ein apêl gweilch y pysgod heddiw.
£

Stori ar y gweill ers blynyddoedd lawer ...

Mae hanes gweilch y pysgod Llyn Brenig yn stori ryfeddol. Treuliodd y fenyw, Blue 24, sawl blwyddyn yng Ngorllewin Cymru’n chwilio am gymar – ond roedd yn sengl o hyd, gan fethu dod o hyd i wryw addas neu gael ei herlid gan adar wedi sefydlu – yn fwyaf nodedig, Glesni, yng Nghors Dyfi. Yn 2018, roedd pobl sy’n gyfarwydd â gwylio gweilch y pysgod wrth eu bodd yn ei gweld yn dod o hyd i gartref yn Llyn Brenig ac yn magu teulu ei hun – gyda phartner newydd, o’r Alban, o’r enw HR7. (Mae gan eu cyw enw Cymraeg, mwy bachog, diolch byth: Luned.)  Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod ei stori hi’n parhau!

Cynnwys pobl mor bwysig ...

Mae Llyn Brenig yn eiddo i Dŵr Cymru Welsh Water, sydd eisoes wedi dechrau paratoi ar gyfer dychweliad Blue 24 drwy greu cynlluniau ar gyfer cuddfan adar newydd i helpu pobl i weld yr adar yn agos heb darfu arnyn nhw, sy’n gallu gwneud iddyn nhw adael y nyth. Ond dim ond rhan fechan o beth sydd ei angen yw’r guddfan. Rydyn ni eisiau gallu siarad ag ymwelwyr – dweud stori Blue 24, HR7 a Luned wrth wrandawyr brwd. Yn ogystal â gwella’r cynefin neu gadw llygad ar y cyfleusterau nythu, rydyn ni eisiau adrodd stori’r erlid yn y gorffennol a’r angen cyson am warchod (rhag perchnogion tir di-ddal a lladron wyau) i gael y cyhoedd i ymwneud â gwarchodaeth gweilch y pysgod. Gall camerâu, gwybodaeth a phobl ar y tir gyfrannu at hyn – ond ni fydd hyn yn digwydd o gwbl heb eich help chi.

Pobl drws nesa’ ...

Mae gweilch y pysgod wedi dewis cymdogion hyfryd – ni! Mae Gwarchodfa Gors Maen Llwyd lai na 300m o’r safle nythu maen nhw wedi’i ddewis, llecyn delfrydol i wylio’r adar mewn amgylchedd ychydig yn wylltach na chuddfan. Rhaid i ni wneud y warchodfa mor groesawus â phosib i ymwelwyr ac i’w bywyd gwyllt arbennig – mae’r cyfan yn rhan o’r ecosystem yma yn yr ucheldir y mae gweilch y pysgod yn ychwanegiad gwych ati. Yn ogystal â’r newydd-ddyfodiaid yma, byddai eich cefnogaeth yn ein helpu ni i reoli’r rhostir grug sydd yma ar gyfer ei boblogaethau o’r rugiar ddu, y boda tinwyn, y gylfinir a’r ehedydd eiconig. Drwy gyfrannu rhodd at yr apêl yma, fe fyddwch chi’n gwneud gwahaniaeth i fywyd gwyllt yng Nghors Maen Llwyd!