Ymunwch â’n Fforymau Gweithredu Lleol
Ydych chi rhwng 11 a 24 oed?
Ydych chi'n byw yng Nghonwy, Sir Ddinbych neu Sir y Fflint?
Ydych chi'n hoff o fywyd gwyllt a'r amgylchedd?
Ydych chi eisiau gweithredu’n bositif er mwyn gofalu am ein planed?
Os mai YDW yw'r ateb i'r holl gwestiynau hyn, rydyn ni’n eich gwahodd chi i ymuno ag un o’n Fforymau Gweithredu Lleol rhanbarthol.
Mae gennym ni dri fforwm dan arweiniad ieuenctid ledled Gogledd Cymru sy'n cael eu gweithredu gan swyddogion prosiect Ein Glannau Gwyllt Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac rydyn ni’n chwilio am bobl ifanc i ymuno â ni i wneud y canlynol:
Dysgu am faterion amgylcheddol a thrafod sut gellir eu datrys
Cyfarfod pobl debyg i chi
Helpu i gynnal ymgyrchoedd ar-lein ac yn eich ardal leol (ysgolion/grwpiau ieuenctid/cymunedau) i weithredu’n bositif dros fywyd gwyllt a'r amgylchedd.
Sut rydyn ni’n cynnal y Fforymau?
Cyfarfodydd a gweithdai rheolaidd ar-lein ar Zoom.
Bydd cyfarfodydd a digwyddiadau wyneb yn wyneb achlysurol yn cael eu trefnu yn unol â'r cyfyngiadau a'r canllawiau diweddaraf mewn perthynas â covid-19.
Gall cyfranogwyr y fforwm ddefnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol wedi'u cymedroli i gadw mewn cysylltiad, trafod tasgau a rhannu cynnwys.
Y tri Fforwm
Rydym yn cefnogi tri fforwm amgylcheddol dan arweiniad ieuenctid, sy'n cwmpasu'r holl siroedd arfordirol yng Ngogledd Cymru. Mae'r fforymau'n bodoli i ysbrydoli a grymuso pobl ifanc i gamu i fyny a helpu i amddiffyn a hyrwyddo bywyd gwyllt a'r amgylchedd.
Fforwm Gweithredu Amgylcheddol Arfordir y Gogledd
Pobl ifanc o Gonwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint sy’n cydweithio i greu newid positif yn eu hardaloedd lleol gydag ymgyrchoedd a digwyddiadau fel plannu coed, casglu sbwriel a theithiau natur.
Môn Gwyrdd
Mae pobl ifanc o ardal Ynys Môn a Bangor wedi enwi eu fforwm yn Môn Gwyrdd ac maent yn cydweithio i greu newid positif yn eu hardaloedd lleol yn ogystal â chwarae rhan allweddol mewn prosiect newydd cyffrous.
Fforwm Gwynedd
Pobl ifanc o bob rhan o Wynedd sy’n gweithio i greu newid positif mewn cymunedau lleol.
I ymuno, llenwch a dychwelwch y dogfennau canlynol at Swyddog Prosiect eich rhanbarth:
Ffurflen gofrestru ar gyfer eich oedran (D18 gyda chaniatâd rhieni neu Bobl dros 18 oed)
Cytundeb Cod Ymddygiad
Ar ôl i chi gofrestru, byddwn yn cysylltu â chi gyda manylion y gweithgareddau sydd i ddod.
Dilynwch y fforwm a gweithgareddau ehangach y Prosiect a'r Ymddiriedolaeth ar ein cyfryngau cymdeithasol:
Facebook: @OWildCoast a @northwaleswildlifetrust
Instagram: @nwwtourwildcoast a @northwaleswildlifetrust