Gardd y gaeaf

Gardd y gaeaf

Redwing feeding on hawthorn berries in winter hedgerow © Chris Gomersall

Mae’n gerddi ni yn ffurfio rhwydwaith o gynefinoedd hanfodol bwysig i fywyd gwyllt - yn debyg iawn i’r gwrychoedd sydd yn ymdroelli ar hyd a lled tirwedd Cymru.

Gwrychoedd yr ardd sydd o dan sylw mawr yr adar adeg yma o’r flwyddyn….ac fe ddylasem eu clodfori, hefyd! Mae’r gwrychoedd hyn yn ymestyn ar hyd a lled y wlad fel rhwydwaith o briffyrdd naturiol, yn galluogi i greaduriaid symud ar eu hyd tra’n cynnig lloches a chyflenwad bwyd hanfodol megis aeron, cnau, hadau ac ambell i drychfilyn sydd dal o gwmpas.

A hithau ’n dymor defnyddio planhigion gwreiddyn noeth, y nawr yw’r amser i chi fynd ati i blannu gwrych. Mae brigau ifanc o gyll, draenen wen a du, masarnen fach a ffawydden yn creu asgwrn cefn cryf gyda ychwanegiad o ambell i blanhigyn celyn, ysgawen neu gwifwrnwydd y gors i lenwi unrhyw wagle pellach. Mae’r amrywiaeth yma o rywogaethau yn creu cynefin llawer gwell na gwrych sy’n tyfu’n gyflym fel cypreswydd Leylandii neu llawryf ….cofiwch, Yn ara’ deg mae dal iâr!

Cerwch ac ambell i frigyn o gelyn i mewn i’r tŷ i ddathlu rhyfeddodau natur tros y Nadolig. Torrwch ambell i frigyn cyll a ffurfiwch siâp seren gyda chortyn i’w hongian rhwng y llenni yn y tŷ. Ewch am dro i’r goedwig i gasglu moch coed a’i rhoi nhw mewn powlen ar y bwrdd, neu ei rhwymo fel coronbleth hyfryd uwchben y tan.

Female blackbird drinking at garden pond

Female blackbird drinking at garden pond © Richard Burkmar

Gyda wythnosau tywylla’r flwyddyn o’n blaenau, y tymheredd yn disgyn, mae’r cyfle i fynd allan i’r ardd yn prinhau, ond mae hi’n bwysig cofio mynd yn ddigon aml i fwydo’r adar ac i sicrhau fod digonedd o ddŵr glan (sydd ddim wedi rewi) ar gael iddynt. Efallai y cewch ymwelwr annisgwyl - mae amrywiaeth y rhywogaethau sy’n ymweld â’n gerddi adeg yma o’r flwyddyn yn fwy amrywiol wrth i’n ffrindiau pluog  fentro ym mhellach o’u cynefin naturiol i chwilio am fwyd.