Arwr Aberogwen Spinnies

Arwr Aberogwen Spinnies

SpinniesAberogwen Nature Reserve_Brian McGarry

Pam fod niferoedd yr ymwelwyr wedi codi ers bod Richard wedi dechrau gwirfoddoli?

Ar ôl nifer o flynyddoedd o edrych ar ôl y lle, mae Richard Williams newydd ymddeol fel warden gwirfoddol yn Aberogwen Spinnies.  Mae o wedi bod yn ymweld â’r warchodfa pob wythnos yn cynnal ac hefyd yn ail-lwytho y bwytawyr i’r adar y tu allan i’r ddwy guddfan – y rhan fwyaf o’r adeg, o’i boced ei hyn.  Mae gwylio’r adar yn rhoi pleser mawr i lawer o’r ymwelwyr – yn cynnwys ffotograffwyr, sydd wedi syfrdanu i weld adar y goedlan (yn cynnwys y dringwr bach, y titw penddu ac ar rhai adegau prin ambell i gylfinbraff) mor agos iddynt

Richard Williams volunteer at NWWT Spinnies Abergowen nature reserve

Richard Williams volunteer at NWWT Spinnies Abergowen nature reserve © Steve Ransome

Trwy ei gyfnod gyda’r Ymddiriedolaeth Natur, mae Richard wedi gweithio yn agos iawn hefo ein staff –  drwy helpu rheoli’r warchodfa ar y partïon gwaith rheolaidd, yn gwella y llwybrau, gosod blychau nythu ac yn ymwneud â unrhyw waith cynnal a chadw arall sydd angen.  Mae Richard yn haeddu lot o’r clod fod Aberogwen Spinnies yn mwynhau ei statws uchel hefo’r aelodau a’r ymwelwyr – rydym yn lwcus iawn ein bod wedi gael o!

Er bod dau wirfoddolwr arall yn cymryd drosodd gwaith arbennig Richard yn Aberogwen Spinnies, fe allwch chi helpu barhau â’i waith gwych, hefyd – o leiaf drwy gyfrannu at gost bwyd i’r adar!  Gall Steve Ransome, y warden gwirfoddol yno, ddweyd wrthych sut – gyrrwch e-bost neu ymwelwch â’r dudalen anffurfiol Facebook answyddogol y safle (a rhyfeddwch ar y lluniau tra ‘rydych yno...).

Gall roddion i waith yr Ymddiriedolaeth Natur gael eu gwneud hefyd ar www.northwaleswildlifetrust.org.uk/donate - diolch i chi am unrhyw swm ‘rydych yn teimlo y gallwch roi!