Ailgylchwch eich pecynnau byrbrydau hefo ni!

Ailgylchwch eich pecynnau byrbrydau hefo ni!

Dawn Thomas

Mae’n bur debyg ei fod yn amlwg i bawb bod yr Ymddiriedolaeth Natur yn, wel, elusen cadwraeth natur. Mae problemau fel gwaredu gwastraff, a sbwriel morol yn benodol, yn croesi i’n ‘tiriogaeth’ ni yn sicr – ond mae eraill yn tueddu i arwain ar ailgylchu a phethau felly. Ond, yn ddiweddar, rydyn ni wedi penderfynu gwneud ein rhan hefyd!

Rydyn ni wedi ffurfio partneriaeth gyda Terracycle i fod yn lleoliad derbyn ar gyfer tair rhaglen ailgylchu sy’n gysylltiedig â byrbrydau. (Mae unrhyw awgrymiadau mai’r rheswm dros hyn ydi am fod ein staff ni’n bwyta gormod o fyrbrydau’n gelwydd noeth, wrth gwrs.)  Nawr mae posib i chi ddod â phacedi creision gwag glân; pecynnau lapio bisgedi, cracyrs a chacennau; a thybiau Pringles® i’n swyddfa ni ym Mangor! Hefyd, ar ôl i ni eu pecynnu nhw, fe allwn ni ennill ychydig o arian i fyd natur drwy drefnu i’w hailgylchu.                           

Am fwy o wybodaeth am beth yn union sy’n cael ei dderbyn, ewch i www.terracycle.co.uk/en-GB/brigades a chwilio am y rhaglen berthnasol. Fe welwch chi fod llawer mwy na’n tair rhaglen ni’n rhan o’r cynllun – rydyn ni’n dechrau’n fach ond yn bwriadu tyfu.                  

Cwestiynau? Cysylltwch â dawn.thomas@northwaleswildlifetrust.org.uk