Gwnewch rywbeth gwyllt y gaeaf yma

Gwnewch rywbeth gwyllt y gaeaf yma

Winter silhouette - David Tipling 2020Vision

Mwynhewch Nadolig yn llawn bywyd gwyllt gyda’ch Ymddiriedolaeth Natur leol – digwyddiadau, anrhegion a phartïon!

Dros gyfnod y Nadolig, mae digon o bethau’n digwydd ar eich cyfer chi neu’r person yn eich bywyd sy’n hoff iawn o fywyd gwyllt. 

Fe allwch chi wneud y canlynol:

Dod i barti!  Mae ein canghennau lleol ni’n trefnu digwyddiad Nadolig yn eich ardal leol chi ac rydyn ni’n cael diwrnod agored yn ein pencadlys ni yn Llys Garth ar Dydd Mercher 05 Rhagfyr. Galwch heibio i ddweud helo!  

Siopa er budd bywyd gwyllt.  Mae siop ar-lein YNGC a swyddfa Llys Garth yn stocio amrywiaeth o anrhegion ar thema natur ac wedi’u gwneud yn lleol. Ac os nad ydi’ch ffrindiau a’ch teulu chi angen unrhyw beth fel anrheg, beth am noddi rhywogaeth ar eu rhan – neu eu gwneud yn aelodau o’r Ymddiriedolaeth Natur hyd yn oed? Edrychwch beth sydd ar gael yn www.northwaleswildlifetrust.org.uk/cy/shop-wildlife.

Gwneud eich anrhegion a’ch addurniadau eich hun. Mae degau o daflenni gweithgarwch addas i deuluoedd ar gael i’w lawrlwytho – popeth o wneud eich torch Nadolig eich hun ar gyfer adar i Addurniadau Rhew ar gyfer eich gardd.   

Beth bynnag ydi’r tywydd, gwnewch rywbeth gwyllt y gaeaf yma!