Cennin Pedr prydferth!

Cennin Pedr prydferth!

Wild daffodil © Ross Hoddinott 2020Vision

Mae cennin Pedr gwyllt yn olygfa gynyddol brin yng Ngogledd Cymru – ond mae gan yr Ymddiriedolaeth Natur warchodfa ble gallwch chi weld y blodau gwanwynol eiconig yma ...

Cenhinen Pedr, Narcissus pseudonarcissus, Daffodil, Blodyn Mis Mawrth, Croeso’r Gwanwyn, Cenhinen Aur, Lili’r Grawys ... beth bynnag rydych chi’n ei alw, mae’n hyfryd gweld y blodyn melyn yma wrth i’r gaeaf dynnu at ei derfyn.

Mae pawb yn gyfarwydd â’r amrywiaethau sy’n addurno ein gerddi a’n mannau cyhoeddus ni ond mae llawer llai ohonom yn gwybod am y rhywogaethau brodorol y cafodd y cyltifarau hyn eu magu ohonyn nhw. Mae cennin Pedr gwyllt yn llai crand na’r amrywiaethau gardd – ac yn llai o ran maint hefyd. Mae’r petalau’n denau fel papur ac yn oleuach na’r trwmped, ac mae’r dail yn llwydwyrdd. Ond maen nhw’n drawiadol yn y llefydd lle maen nhw’n tyfu, oherwydd eu bod nhw’n flodau sy’n tyfu’n dorfol gyda’i gilydd yn un sbloet lachar o liw.

Mae dosbarthiad cennin Pedr gwyllt yn wasgarog iawn mewn rhannau o’r wlad ond, yn ffodus, mae gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru boblogaeth dda yn un o’i gwarchodfeydd hynaf, Coed Cilygroeslwyd, i’r de o Ruthun. Prynwyd y coetir hynafol yma gan y cyngor lleol yn y 1960au am ffi o £1. Yn y gwanwyn mae’n llawn blodau gwyllt a chân adar, sy’n brofiad hyfryd i bobl o bob oed.                      

Ar ôl cyrraedd y warchodfa, dilynwch y lôn o’ch blaen nes cyrraedd giât mochyn yn ymyl uchaf y coed. Trowch i’r dde ar hyd y llwybr ar hyd yr ymyl ac mewn rhyw 200 metr byddwch yn cyrraedd y cennin Pedr. (Os byddwch yn dal ymlaen i ddilyn y llwybr, bydd yn mynd â chi’n ôl i fynedfa’r warchodfa.) Ar hyd y ffordd, dylech weld llawer o flodau gwyllt eraill, gan gynnwys briallu, blodau’r gwynt a fioledau.

Os hoffech chi helpu’r Ymddiriedolaeth Natur i warchod safleoedd fel Coed Cilygroeslwyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol o gennin Pedr a phobl fel ei gilydd, ystyriwch ddod yn aelod neu wirfoddoli.

Wild daffodil

Wild daffodil © Ross Hoddinott 2020VISION