Clecio, rowlio, neu torri

Clecio, rowlio, neu torri

Bracken frond (c) Zsuzsanna Bird

Mae rheoli rhedyn ar ddolydd ucheldir o flodau gwyllt yn gallu bod yn heriol. Mae Rob, y swyddog gwarchodfa sy’n gyfrifol, yn pwysleisio y rhesymau pwysig o fonitro gwarchodfa natur Caeau Tan y Bwlch.

Pob dydd Sadwrn diwethaf ym Mehefin mae gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Plantliffe yn dod at eu gilydd i gyfrif y tegeirianau llydanwyrdd ar warchodfa natur Caeau Tan y Bwlch.  Ar ôl cyfrif eleni ble gwnaethom ddarganfod 4,598 o blanhigion (sef yr ail gyfrif uchaf erioed) ac mae rhaid fod hyn yn golygu bod y rheoli cadwraethol cyffredinol ar yr warchodfa hon yn gweithio’n dda, tydi?  Ond os ydych yn dibynnu ar ddim ond un arwydd, yna ia, ar y wyneb, mae pob dim yn edrych yn wych.  Ond, fel arfer yng nghadwraeth, mae’r pictiwr yn fwy cymhleth na hynna!

Pob blwyddyn mae’r gwirfoddolwyr yn monitro arwyddion positif (e.e. y cribell felen, y bengaled benddu) ac arwyddion negatif (e.e. efwr enfawr, rhedyn) i’n helpu ni benderfynu pa bryd y byddwn yn torri’r gwair fel engrafit, neu newid y lefelau poriant yn yr hydref.  Dangoswyd y monitro manwl hirdymor fod y rhedyn wedi cynyddu yn sylweddol yn y flwyddyn 2000, mwy na thebyg drwy gyfuniad o’r lleihad yn y torri gwair, a’r lleihad o waldio’r rhedyn gan bartïon gwaith y gwirfoddolwyr, a hefyd codiad yn lefel asid y pridd.  Ers hynny, mae technegau rheoli’r rhedyn wedi cynyddu yn o gystal â chynnwys clecio, rowlio, a thorri yn fwy aml yn y gwanwyn a’r haf.

Diolchwn, fod y monitro hirdymor yn dangos wrthym fod gorchudd yr rhedyn wedi lefelu allan yn y blynyddoedd diweddar ac hefyd mae hyd yn oed yn lleihau yn araf.   Rydym yn ddibynnol ar wybodaeth hynod werthfawr ein gwirfoddolwyr ac yna rydym yn gweithredu pan fo angen, felly DIOLCH YN FAWR IAWN i’r holl bobl sydd wedi cymryd ran tros y blynyddoedd.   Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, fel gwarchodwyr y cynefinoedd bywyd gwyllt pwysig hyn, ANGEN EICH HELP er mwyn parhau i fod yn wyliadwrus yn y blynyddoedd heriol i ddod ...

Mae gennym nifer o wahanol gyfleon i gyfrannu at ein hymdrechion o fonitro ein gwarchodfeydd natur, o adar, gloÿnnod byw ac o ele i gen.  Pam ddim ymuno hefo ni ar ein cyfrif tegeirian llydanwyrdd blynyddol a ein monitro llysieuol yn Nghaeau Tan y Bwlch flwyddyn nesaf ar Mehefin 29 2019?  Am ragor o fanylion ar dechnegau rheoli rhedyn, cysylltwch â Rob ar 01248351541 /   rob.booth@northwaleswildlifetrust.org.uk