Badger, Ratty, Mole a Toad yn ymgyrchu dros ddyfodol gwylltach

Badger, Ratty, Mole a Toad yn ymgyrchu dros ddyfodol gwylltach

Enwogion yn siarad ar ran bywyd gwyllt mewn hysbyseb ffilm newydd – sy’n cyrraedd y sinemâu y penwythnos yma!

Mae Syr David Attenborough, Stephen Fry, Catherine Tate, Alison Steadman ac Asim Chaudhry i gyd wedi cefnogi ymgyrch newydd gan yr Ymddiriedolaethau Natur sy’n galw am adferiad byd natur yn y DU. Mae gan y cadwriaethwr a’r actorion rannau pwysig yn yr hysbyseb ffilm newydd i The Wind in the Willows, sy’n dangos yn glir beth yw’r bygythiadau mae cymeriadau hoff clasur Kenneth Grahame i blant yn eu hwynebu yn yr 21ain ganrif. Mae’r hysbyseb animeiddiedig yn galw ar bawb i helpu i ddod â bywyd gwyllt yn ôl cyn ei bod hi’n rhy hwyr, er mwyn i ni i gyd gael mwynhau dyfodol gwylltach.                

Gwyliwch yr hysbyseb yma a’i rhannu gyda’ch ffrindiau

Ysgrifennodd Kenneth Grahame Wind in the Willows ychydig dros gan mlynedd yn ôl. Ers hynny, mae llawer o lefydd gwyllt y DU, a’r planhigion a’r anifeiliaid sy’n dibynnu arnyn nhw, wedi’u colli. Mae 97% o’r dolydd tir isel a’r blodau gwyllt hardd, y pryfed, y mamaliaid a’r adar oedd yn eu galw’n gartref wedi diflannu; mae 80% o’n rhostiroedd porffor hardd ni wedi mynd – gyda’u brain coesgoch a’u troellwyr hefyd. Mae afonydd mewn cyflwr difrifol: dim ond 20% a ystyrir fel afonydd mewn cyflwr iach ac mae 13% o’n rhywogaethau dŵr croyw a gwlybdir ym Mhrydain Fawr yn wynebu bygythiad o ddiflannu.  
 
Ratty gan Kenneth Grahame – y llygoden ddŵr – yw’r mamal sy’n dirywio gyflymaf yn y DU ac mae wedi’i cholli o 94% o’r llefydd lle roedd yn amlwg ar un adeg, ac mae ei dosbarthiad yn llai eang bob dydd. Hefyd mae Toad yn wynebu cyfnod anodd: mae wedi colli bron i 70% o’i rywogaeth ei hun yn ystod y 30 mlynedd diwethaf yn unig – a llawer mwy na hynny yn ystod y ganrif ddiwethaf.

Mae’r colledion hyn wedi golygu mai’r DU yw un o’r gwledydd sydd wedi gweld y dirywiad mwyaf mewn byd natur yn y byd.

Dywedodd Stephanie Hilborne, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaethau Natur: “Rydyn ni’n genedl sy’n caru byd natur ond eto rydyn ni’n byw yn un o’r gwledydd sydd wedi gweld y dirywiad mwyaf mewn byd natur yn y byd. Os ydych chi eisiau i fyd natur adfer, mae’n rhaid i ni greu mudiad torfol o bobl sy’n galw am newid. Mae ein ffilm ni’n fersiwn trist o The Wind in the Willows – yn dangos sut mae Ratty a Toad yn wynebu rhwystrau – ond mae’n gorffen gyda neges o obaith. Dydi hi ddim yn rhy hwyr i greu deddfau cadarn a fydd yn helpu ein bywyd gwyllt ni i wneud adferiad – dydi hi ddim yn rhy hwyr i sefydlu Rhwydwaith Adfer Natur a fydd yn ein galluogi ni i gynllunio dyfodol gwylltach.”

Ymunwch â’n hymgyrch ni ar gyfer #DyfodolGwyllt a gweithredu gyda ni i helpu natur i adfer.

Gwyliwch a rhannwch y fideo ar gyfryngau cymdeithasol